| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Beirniadaeth Eisteddfod Penderfynu dychwelyd at yr hen drefn
Mae Panel Ll锚n yr Eisteddfod Genedlaethol wedi newid ei feddwl yngl欧n 芒 chyhoeddi beirniadaethau cyfansawdd yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.
Ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen ar Hydref 3, 2005, dywedodd y cadeirydd, y Prifardd John Gwilym Jones, Bangor, i'r panel benderfynu gofyn i Gyngor yr Eisteddfod ddychwelyd at yr hen drefn o gynnwys beirniadaeth unigol pob beirniad mewn cystadlaethau fel y Gadair a'r Goron lle mae mwy nag un beirniad.
Arbrawf Ychwanegodd mai "arbrawf" oedd cynnwys un feirniadaeth gyfansawdd y llynedd ac eleni yn dilyn cwynion fod gormod o ailadrodd pan gyhoeddid sylwadau pob un o'r beirniaid.
Ond ers Eisteddfod Eryri eleni bu mwy a mwy o gwyno ymhlith eisteddfodwyr ac adolygwyr yngl欧n 芒'r drefn honno.
Dwyshaodd y cwyno yn dilyn anghydweld dybryd rhwng beirniaid y Gadair ynglyn ag un ymgais gydag Alan Llwyd yn gosod awdl Lusudarus yn y drydedd adran ond y ddau feirniad arall yn ei gosod tua'r brig.
Ar y we Dan yr arbrawf y drefn oedd y byddai beirniadaeth gyfun neu gyfansawdd yn ymddangos yn y gyfrol ond sylwadau unigol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod. Ond bu cryn gwyno na ellid dod o hyd i feirniadaethau ar y we.
Yn wir, dywedodd Manon Rhys, golygydd Taliesin, ar Wythnos Gwilym Owen na allai hi ddod o hyd i hyd yn oed feirniadaethau Casnewydd heb s么n am rai Eryri ar y wefan honno.
Yr oedd Taliesin wedi dadlau'n barod dros ddychwelyd at yr hen drefn ac ar Wythnos Gwilym Owen disgrifiodd Manon Rhys y drefn newydd fel "penderfyniad rhyfedd" oedd yn arwydd o ddiffyg parc at gystadleuwyr a beirniaid fel ei gilydd.
Ychwanegodd ei bod yn bwysig i feirniad sy'n anghytuno gael "mynegi ac egluro pam yr oedd yn anghytuno".
Eglurodd golygydd y gyfrol, John Elwyn Hughes, i'r penderfyniad i ddiwygio natur y gyfrol gael ei wneud yn 2004 pan dderbyniodd yr Eisteddfod ei hun y cyfrifoldeb a gyhoeddi'r gyfrol yn hytrach na gwasg annibynnol.
Ychwanegodd nad rhywbeth newydd y syniad o feirniadaeth gyfansawdd.
"Yr oedd cynsail yn mynd yn 么l i'r ganrif ddiwethaf ac mor ddiweddar a 2002-03 beirniadaeth gyfun oedd i gystadleuaeth Gwobr Daniel Owen," meddai.
Arbed ailadrodd Dywedodd fod arbed costau yn un rheswm am y penderfyniad - a chwynion fod y drefn o gyhoeddi pob beirniadaeth unigol yn achosi ailadrodd.
Wrth ddychwelyd at yr hen drefn dywedodd John Gwilym Jones y bydd canllawiau yn cael eu rhoi i feirniaid er mwyn ceisio osgoi rhai o'i diffygion - ond rhybuddiodd:
"Mae beirniaid a beirdd a llenorion yn bobl reddfol anystywallt."
Felly, mae'n ymddangos y bydd angen cryn groesi bysedd wrth gyflwyno'r canllawiau iddyn nhw!
Ymhlith yr adolygwyr a gwynodd am y beirniadaethau cyfansawdd y mae Vaughan Hughes yn Barn a Gwynn ap Gwilym yn Barddas.
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|