|
Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal Cynheiliaid yr Hen Ffydd
- Adolygiad John Stevenson o Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal gan Angharad Price. Ll锚n y Llenor. Gwasg Pantycelyn. 拢5.00.
Mae angen dannedd gosod reit gryf i yngannu teitl y gyfrol hon. Ond does gen i ddim amheuaeth o gwbwl fod ynddi ddigonedd o ddeunydd i gnoi cil arno.
Hawdd iawn fyddai anghofio, wrth ddarllen cyfrol hynod ddarllenadwy'r Dr Angharad Price, ei bod yn ysgrifennu am ddigwyddiadau yn yr unfed ganrif a'r bymtheg gan fod yna dinc gwleidyddol digon cyfoes yn perthyn i gynnwys y gyfrol.
Ysgrifennu y mae am selotiaid crefyddol oedd am geisio ddymchwel y drefn sefydledig.
Mae hi'n trafod gr诺p o ddynion a gafodd eu geni ym Mhrydain ond benderfynodd fynd dramor i'w hyfforddi cyn mentro'n 么l i geisio newid y drefn.
T芒n yn eu boliau Dynion o argyhoeddiad, yn amlwg, gyda th芒n crefydd yn llosgi yn eu boliau.
Ffyddloniaid oedd yn anghydweld yn llwyr 芒'r drefn yn eu mamwlad ac a oedd yn fodlon derbyn cefnogaeth estronol er mwyn hyrwyddo eu hachos. Dynion, er yn fychan iawn o ran nifer, a lwyddodd i gael y llywodraeth i grynu yn ei hesgidiau Ond . .. Nid ysgrifennu am aelodau Prydeinig mudiad Al Quaida mae Angharad Price ond am ddynion gafodd eu geni yng Nghymru ym mlynyddoedd y Tuduriaid, bum canrif yn 么l.
Colegau Rhufain Nid dynion aeth i wersylloedd terfysg Afghanistan mo'r rhain ond Pabyddion Cymreig aeth draw am eu haddysg i golegau hyfforddi Rhufain.
Dynion oedd yn anghydweld yn llwyr 芒'r drefn grefyddol newydd ddaeth i fodolaeth dan y brenin Harri'r Wythfed.
Pwrpas y gyfrol medda hi yw "goleuo bywyd a gwaith yr alltudion Cymreig yn yr Eidal."
Pobol fel Morus Clynnog, Rhosier Smyth, Sion Dafydd Rhys, Owen Lewis, Gruffydd Robert.
Er yn gyfrol eiddil 90 o dudalennau, mae'n gyfrol swmpus o ran ystod ei thrafodaeth a'i chynnwys.
Ei nod, meddai Dr Price, yw tanlinellu fod "gweithgarwch y Gwrth-Ddiwygiwyr Cymreig o'u canolfannau yn yr Eidal yn cynnig persbectif newydd a phwysig inni ar yr hyn a ddigwyddai yng Nghymru ar y pryd, gan beri i ni ail asesu rhai o'n syniadau am gyfraniad y Protestaniaid Cymreig at iaith a diwylliant eu mamwlad, syniadau sydd wedi ymgaregu tros bedair canrif a hanner o Brotestaniaeth."
Rhyfeddod Y rhyfeddod yw nad hanesydd crefydd nac eglwysig mo Angharad Price: llenyddiaeth gyfoes Cymru yw ei phriod bwnc meddai'r broliant.
Mae hon yn gyfrol sy'n ffrwyth ymchwil trylwyr ac yn dadansoddi'n gywrain.
Yn drawiadol wahanol i gymaint o waith "ysgolheigaidd" yn y Gymraeg, gwnaeth Dr Price ddefnydd helaeth o ffynonellau craidd a gwreiddiol.
Cafodd fynediad i lawysgrifau'r Fatican a threuliodd amser yn y Ddinas Dragwyddol yn mynd drwy hen lawysgrifau.
Gan ferched Mae hi yn werth nodi hefyd, wrth fynd heibio, fod cymaint o'r gwaith gwreiddiol sydd yn cael ei gynhyrchu heddiw ym maes hanes crefydd yng Nghymru yn cael ei wneud gan ferched.
Dyna i chi waith arloesol Jane Cartwright o Goleg Llambed ar gwltiau's saint yn y cyfnod cyn-canol oesol; gwaith Dr Eryn White o Goleg Aberystwyth ar hanes y seiadau Methodistaidd cynnar. Ac yn awr, gyfrol y Dr Angharad Price sydd yn ddigon gwylaidd fel ysgolhaig i dalu teyrnged i'w rhagflaenwyr yn y maes.
Mae gennym ni le medda hi, i ddiolch i'r arloeswyr cynnar fel Geraint Bowen.
Llwyddodd y cyn archdderwydd i godi cwr y llen ar hanes crefyddol Cymru cyn dyfodiad Protestaniaeth Anghydffurfiol ac i chwalu rhai o'r mythau mawr.
Tecwyn Lloyd, wedyn, a dreuliodd flwyddyn gron yn yr Eidal yn 1939, ac Ewrop dan gysgod yr Ail Ryfel Byd, yn ymchwilio i'r mudiad geisiodd ddychwelyd Prydain a gweddill Ewrop yn 么l dan gesail yr Hen Ffydd.
Tanseilio myth Cyfraniad enfawr yr arloeswyr hyn oedd i danseilio un o'r mythau mwyaf am ein hanes fel Cymry Cymraeg, sef mai gwlad o gapeli unffurf Brotestanaidd, anghydffurfiol fu Cymru erioed.
Dim o gwbwl - a gwnaeth Angharad ddefnydd helaeth o adnoddau'r Fatican i ddryllio'r delwau hanesyddol yn y Gymru Gymraeg.
Ond mae na wir berygl o hyd, yn rhannol oherwydd diogi a diffyg beiddgarwch gwreiddiol ein cyfundrefnau crefyddol, i ddal i lyncu cymaint o'r chwedloniaeth sy'n perthyn i hanes crefydd Gymreig ac i anghofio mai gwlad Babyddol fu'r Gymru Gymraeg dros ganrifoedd.
Mae darllen cyfieithiad o lythyr Morus Clynnog a sgrifennwyd ym mis Mai 1567, a'i anfon at Arglwydd Cecil yn wefreiddiol.
Mae'r llythyr yn cloi gyda'r llythyrwr yn ei arwyddo fel: "Morys Clynnog, Offeiriad."
Y fath symylrwydd, dirodres!
Rheithor cyntaf Neu lythyr gan Owen Lewis, y g诺r o Langadwaladr ar Ynys M么n.
Hwn oedd rheithor cyntaf Coleg Hyffroddi Douai ac un a ddaeth yn ei dro, meddai Dr Price, i fod yn gyfrifol am "holl faterion Prydeinig y Fatican". Tipyn o ddyn mae'n amlwg!
Fy unig ofid o fod wedi darllen y gyfrol hon oedd i ymdrechion y diweddar Alexander Jones i geisio dysgu Lladin i mi yn Ysgol David Hughes fod yn gwbwl ofer ac na allwn, felly, werthfawrogi llawysgrifau'r canoloesol yn eu gogoniant gwreiddiol!
Mae'n anhygoel i feddwl mai dim ond rhyw gwta hanner canrif yn 么l y cafodd hanes Catholigiaeth yng Nghymru ei gyhoeddi - yng nghyfrol Emyr Gwynne Jones, Cymru a'r Hen Ffydd
Ynddi, mae Emyr Gwynne Jones yn dyfynnu o waith Thomas ap Ieuan ap Rhys: Ath eglwysi ymhob lle Yn gornele gweigion
Adwaith yn erbyn hynny oedd y Gwrth Ddiwygiad, ledled Ewrop, gyda selogion fel Morys Clynnog am weld Cymru unwaith eto, dan gesail "y ffydd a roddwyd gynt i'r tadau."
Cymwynas fawr Does gen i ddim amheuaeth o gwbwl i Angharad Price wneud cymwynas enfawr ag unrhyw un sydd am wybod mwy am un o gyfnodau mwyaf difyr, os dryslyd, y ffydd Gristionogol yng Nghymru a gweddill Ewrop.
Ac nid ail bobi gwaith pobol eraill a wnaeth. Er iddi godi blawd o sawl melin pobodd ei thorth ei hun. A thorth faethlon a blasus yw hi hefyd!
脭l Nodyn: Os am wybod mwy am y cyfnod cyffrous hwn yn hanes crefyddol Cymru, mae'n werth darllen cyfrol yr Athro J. Gwynfor Jones, Aspects of Religious Life in Wales 1536-1660 a gyhoeddwyd 2003.
Gwybodaeth ar Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|