| |
|
|
|
|
|
|
|
C锚s Hana Merch fach yn nwylo'r Natsiaid
Glyn Evans yn s么n am, C锚s Hana gan Karen Levine. Wedi ei addasu i'r Gymraeg gan Eigra Lewis Roberts. Gomer. 拢5.99.
Mae hanes c锚s Hana yn cychwyn yn Tokyo, Siapan, yng ngwanwyn y flwyddyn 2000.
Mae'n cychwyn hefyd yn nhref Nove Mestro yn yr hen Tsiecoslofacia yn nhridegau'r ugeinfed ganrif.
Yng ngwanwyn 2000 derbyniodd Fumiko Ishioka, cyfarwyddwraig amgueddfa Holocost fechan yn Tokyo g锚s bychan yn dwyn y geiriau "Hanna Brady - Waisenkind" a'r dyddiad geni, Mai 16, 1931 arno.
Anfonwyd y c锚s yn dilyn cais a wnaeth Fumiko i amgueddfa Auschwitz am fenthyg creiriau i'w harddangos.
O'r munud y'i gwelodd y c锚s gwag a'r gair a ddisgrifiai Hana fel plentyn amddifad yr oedd Fumiko Ishioka wedi ei chyfareddu a threuliodd dros flwyddyn yn ceisio atebion i'r cwestiynau; Pwy oedd Hana Brady? O ble'r oedd hi'n dod? Sut ferch oedd hi? Ac yn bwysicach na dim, o gofio o ble daeth y c锚s, Beth 芒 ddigwyddodd i Hana?
Ddim yn hawdd Fu canfod yr atebion ddim yn hawdd fel y gwelir oddi wrth y gyfrol deimladwy hon a sgrifennwyd gan newyddiadurwraig o Ganada ac a droswyd i'r Gymraeg gan Eigra Lewis Roberts.
Dewisodd Karen Levine greu plethiad o ddau gyfnod ar gyfer dweud y stori gan s么n bob yn ail pennod am ymchwil Fumiko Ishioka heddiw a hanes y plentyn o Iddewes, Hana Brady, dan iau Natsiaeth yn Ewrop y tri a'r pedwar degau.
Adroddwyd y stori gyntaf fel rhaglen radio gan CBC yng Nghanada, Hana's Suitcase.
Hynny oherwydd mai yn y wlad honno y mae George, brawd Hana, yn byw erbyn hyn.
Drwg a dyrchafol Y mae'n stori ysgytiol a dirdynnol yn dangos y natur ddynol ar ei gwaethaf ar y naill law a'i dewraf a mwyaf dyrchafol ar y llall wrth inni ddod yn ymwybodol o'r hanes o safbwynt nid yn unig Hana ond hefyd ei brawd a Fumiko Ishioka y ferch o Siapan sydd am gadw'r cof yn fyw Siapan heddiw am erchylltra'r Holocost.
Mae'n stori wefreiddiol gwerth cael y fersiwn Gymraeg hon ohoni yn darlunio i'n plant a'n pobl ifainc y pwysigrwydd o fod yn gyson effro i arwyddion o ddifrawder ymhlith dynion.
Gwybodaeth ar Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|