|
Dafydd Iwan Bywyd mewn lluniau
Glyn Evans yn edrych ar y gyfrol Dafydd Iwan - Bywyd mewn lluniau / A life in pictures. Golygydd, Llion Iwan. Gwasg Gomer. 拢8.99.
Mae'n braf weithiau dod i adnabod person cyhoeddus yn well - trwy luniau.
Er bod Dafydd Iwan ei hun yn disgrifio casgliad hwn o luniau ohono fel "rhywbeth sydd fawr mwy nag albwm o luniau" fe fydd yna ddiddordeb mawr y gyfrol hon o luniau a olygwyd gan ei fab, Llion Iwan.
"Roedd palu trwy gannoedd o luniau dros y misoedd diwethaf yn arbennig o ddiddorol imi, wrth gael cwrdd eto ag aelodau o'r teulu a hen ffrindiau a rhannu ambell i daith i bedwar b芒m byd," meddai.
"Dysgais dipyn ac roedd yn fodd i weld maint ei ddiddordebau a'i waith, ei amrywiol deithiau a hyd yn oed ambell fenter i fyd y theatr," meddai
Ac yntau wedi bod yn berson mor gyhoeddus ers cymaint o flynyddoedd yng Nghymru bydd y gyfrol o ddiddordeb i ddarllenwyr hefyd ac yn fodd i gwblhau yr hyn 芒 gred Dafydd Iwan sy'n "ddarlun anghyflawn" ohono yng ngolwg llawer iawn o bobl.
"Bydd rhai yn fy ngweld fel rhyw fath o arwr (Duw a'n helpo) ac eraill yn fy ngweld fel dihiryn eithafol a chul; rhai yn credu bod folk singer yn ddisgrifiad digonol ohonof, a llawer wrth gwrs - hyd yn oed yng Nghymru - yn meddwl dim o gwbwl," meddai.
Mae'r wybodaeth am y lluniau - sy'n ymestyn o Ddafydd yn grwt ysgol ym Mrynaman i Ddafydd yn annerch cynhadledd y Blaid eleni - yn ddwyieithog.
Hynny "am fod rhywun yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r bwlch enfawr sydd rhwng y diwylliant Cymraeg a'r di-Gymraeg yng Nghymru," meddai.
"Ac rwy'n berffaith sicr fod yn rhaid i'r Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg fel ei gilydd, wneud mwy o ymdrech i gau'r bwlch," ychwanega.
Dywed fod i'r bwlch hwn ei gryfder a'i wendid: "Ar un wedd, y bwlch hwn sydd wedi cadw'r Gymraeg yn fyw - am ei bod yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun, yn annibynnol, a hynny'n ein galluogi i greu byd cyfan Cymraeg ar wah芒n.
"Ond mae'r cryfder yn gallu troi'n wendid, a bellach mae angen inni wrth gefnogaeth y di-Gymraeg," meddai.
Ychwanega fod dyletswydd ar y Cymraeg eu iaith ddeall yn well "sut brofiad yw body n Gymry heb iaith - ac o wneud hynny, lwyddo'n well i'w denu if yd yr iaith a'i diwylliant."
Rhybuddia fod yn rhaid "cloddio llai o ffosydd, codi llai o furiau, ac adeiladu mwy o bontydd" gan ddweud mai hynny sydd wrth wraidd dwyieithrwydd y gyfrol hon.
Wrth gyflwyno'r gyfrol dywed Llion Iwan i'w golygu fod yn fodd iddo ddod i adnabod ei dad yn well.
"Gobeithio y bydd lluniau'r gyfrol hon yn fodd i eraill ddod i'w adnabod ychydig yn well hefyd," meddai.
Ymhlith y lluniau cynharaf y mae un, nodweddiadol o'r cyfnod, ohono yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Brynaman tua 1948.
Mewn un arall mae gyda'i frawd h欧n, Huw Ceredig cyn geni ei ddau frawd arall.
Gydag un ohono yn rhoi potel i oen llywaeth yn Nantyfyda mae'r wybodaeth ychwanegol: "Ar dir Nantyfyda yr oedd murddun Esgair Llyn a enwogwyd gan Dafydd ar y d么n The Fields of Athenry."
Fel y byddai rhywun yn disgwyl, mae'n debyg, y lluniau cynharaf ac yn enwedig rhai dyddiau cythrwfl y Chwech a'r Saithdegau yw'r rhai difyrraf gyda'r hud ychwanegol yn perthyn iddyn nhw o fod yn agoriad llygaid i rai ac yn sbardun atgofion i eraill.
Gwybodaeth ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|