91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Wiwer Goch
Hanes rhyfeddol adfer y pla prin
Sylwadau Glyn Evans ar Y Wiwer Goch - addasiad Bethan Wyn Jones o lyfr gan Tom Tew a Niall Benvie. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.95.

Yn 么l yn y Pumdegau yr oeddwn yn byw lle gallwn weld drwy ffenest y t欧 wiwer goch yn chwarae rhwng brigau derwen ifanc yng ngwaelod yr ardd.

Anifail digon swil ydoedd - yn dianc gyda'r s诺n annisgwyl cyntaf - ond yn greadur gwefreiddiol i'w wylio yn ei gynefin.

Clawr y llyfr Ar y pryd, doedd rhywun ddim yn sylweddoli cymaint o fraint oedd cael bod yn dyst i gampau'r anifail oedd i'w weld hefyd ar ddalennau Llyfr Mawr y Plant - ond y gwir amdani yw na welais i byth wedyn wiwer goch yn y gwyllt.

Erbyn heddiw, mae gwiwerod llwydion yn ymylu ar fod yn bla yng ngardd rhywun a phrinhaodd y goch nes bo'i bodolaeth mewn peryg.

Pwy heddiw fyddai'n credu fod y wiwer goch mor niferus ar un adeg ei bod hithau'n cael ei hystyried yn bla?

Y tro hwn yn hanes un o'n hanifeiliaid prydferthaf ydi testun llyfr sydd newydd ei gyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch - wedi ei addasu o gyfrol Saesneg a argraffwyd gyntaf yn 1997.

Ar gyfer y fersiwn Gymraeg mae 'pennod' yn rhoi gwybodaeth am gynllun llwyddiannus i adfer gwiwerod cochion ar Ynys M么n.

Byddai un arall debyg am y sefyllfa yng Nghlocaenog, Sir Ddinbych, wedi bod yn ddifyr hefyd - ond does yna'r un.

Fel arall, mae'r wybodaeth yn y gyfrol yn gryno ac yn gyflawn.

Pam prinhau?
Rhoddir cryn sylw, yn naturiol, i'r dyfalu a fu yngl欧n 芒'r rhesymau am ddiflaniad syfrdanol y wiwer goch gan gynnwys y ddadl boblogaidd i hynny ddigwydd oherwydd ei herlid gan y wiwer lwyd a gyflwynwyd i Brydain o Ogledd America - lle mae'n cael ei hadnabod mewn rhai lleoedd fel tree rat - ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

"Erbyn 1920 roed y wiwer lwyd wedi llwyddo i gael troedle cadarn, a rhwng 1930 a 1945 fe chwyddodd poblogaeth y wiwer lwyd gyda chanlyniadau trychinebus i'r wiwer goch," meddai Bethan Wyn Jones.

Ond dydi'r berthynas rhwng y gostyngiad ym mhoblogaeth un a'r cynnydd ym mhoblogaeth y llall ddim yn un gwbl arwyddocaol ychwaith, fel y dangosir yn y llyfr.

Mae'r sefyllfa ymhell o fod yn ddu a gwyn - neu lwyd a choch, fel y mynnwch - ac nid erlid un gan y llall yw'r unig ddamcaniaeth.

Rhoi eu cas arnynt
Bid a bo hynny, diddorol yw darllen fod y wiwerod cochion yn bla yr oedd ciperiaid ac eraill yn rhoi eu cas arnynt ar un cyfnod.

"Yn 1910 sefydlwyd Clwb Saethu Gwiwerod Cernyw er mwyn rheoli'r niferoedd mawr o wiwerod coch oedd yn creu difrod i goed a chynnyrch gardd.

"Wrth edrych yn 么l gwelwn mai blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif oedd oes aur y wiwer goch ym Mhrydain.

"Tua 1920 y dechreuodd y lleihad . . . erbyn 1942 nid oedd yr un wiwer goch i'w gweld ym Mharc Regent Llundain," meddai Bethan Wyn Jones.

Cynlluniau cadwraeth
Fel sy'n digwydd mor aml ym mherthynas dyn a'i gyd-greaduriaid daeth yr hyn oedd yn bla yn drysor prin fel ag yn achos y barcud coch, a dyn yn gorfod gwarchod lle bu'n erlid .

Diolch i gynlluniau cadwraeth mae'r rhod yn araf droi a da darllen fod dau le yng Nghymru yn rhan o'r adfywiad - mewn coedydd ar Fynydd Llwydiarth ym M么n ac i raddau llai, Fforest Clocaenog yn Sir Ddinbych.

Patrwm, y gyfrol yw llun lliw gyferbyn 芒 dalen o destun sy'n gwneud hon yn gyfrol go ddeniadol.

Er, byddai ar ei hennill o baragraffu'r testun yn amlach gan fod ambell i ddalen yn eithaf talp o deip sy'n anneniadol i'r llygaid.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy