|
Llyfr y flwyddyn Y nofel Martha Jac a Sianco a ddewiswyd yn Llyfr y Flwyddyn 2005:
Derbyniodd yr awdur, Caryl Lewis - merch y gantores Doreen Lewis - wobr o 拢10,000 mewn cyfarfod i ddathlu'r achlysur yn yr Hilton, Caerdydd, Mehefin 21, 2005.
Llyfr Saesneg y flwyddyn yng Nghymru oedd The Dust Diaries gan Owen Sheers.
Arwydd o fywiogrwydd Yn bresennol yn yr Hilton yr oedd Gweinidog Diwylliant y Cynulliad, Alun Pugh a ddisgrifiodd y llyfrau fel arwydd o fywiogrwydd llenyddiaeth Cymru.
"Mae'r llyfrau yn y gystadleuaeth fawreddog hon yn engreifftiau ardderchog o'r hyder cynyddol yn yr hyn y gall y celfyddydau eu cynnig i Gymru, a dengys bod ll锚n yng Nghymru yn fywiog ac yn ffynnu," meddai.
"Rwy'n eithriadol o falch fy mod wedi gallu rhoi nawdd ariannol i'r ffurf lenyddol hollbwysig hon," ychwanegodd.
Llenor disglair Wrth longyfarch Caryl Lewis dywedodd Meg Elis, cadeirydd panel y beirniaid Cymraeg: "Mae Caryl yn llenor disglair. Yr oeddem ni'n tri fel beirniaid yn unfryd unfarn mai hi oedd wedi ysgrifennu'r nofel orau.".
Nofelau gan Bethan Gwanas, Elin Llwyd Morgan a Caryl gyrhaeddodd y rhestr fer eleni.
Y fwyaf profiadol o'r tair, heb os, oedd Bethan Gwanas, awdur Hi yw fy Ffrind eisoes wedi ennill gwobr Tir Na N'og fwy nag unwaith.
Daeth Caryl Lewis i gryn amlygrwydd sydyn gyda'i hail nofel, Martha Jac a Sianco a ganmolwyd gan feirniaid a darllenwyr fel ei gilydd ac heb os hi oedd y ffefryn yn y gystadleuaeth unwaith y lluniwyd y rhestr fer.
Cryn gamp Ond cyflawnodd Elin Llwyd Morgan - sy'n ferch i'r nofelydd Jane Edwards a'r beirniad llenyddol a bardd, Derec Llwyd Morgan - gamp trwy gyrraedd y rhestr fer gyda'i nofel gyntaf, Rhwng y Nefoedd a Las Vegas.
Er na fu'n fuddugol canmolwyd y nofel hon gan feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen y llynedd.
Yr oedd yn noson o ddathlu arbennig i Wasg y Lolfa gan mai hi gyhoeddodd y tair nofel.
Y tri llyfr ar y rhestr fer Saesneg oedd: Remember Me gan Trezza Azzopardi; The Land as Viewed from the Sea gan Richard Collins a The Dust Diaries , Owen Sheers.
Y tri beirniad Cymraeg eleni oedd Hafina Clwyd, Meg Elis a Tony Bianchi a'r beirniaid Saesneg; Charlotte Williams, Tony Brown a Patrick Hannan. Holi Caryl Lewis: Cliciwch Adolygiadau o'r tri llyfr Cymraeg:
Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Gwasg Y Lolfa. Hi yw fy Ffrind gan Bethan Gwanas. Gwasg Y Lolfa gan Elin Llwyd Morgan. Gwasg Y Lolfa i ddarllen mwy am y noson
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|