91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ei Uffern ei Hun
Sgerbydau ym mwynder Maldwyn
Adolygiad Glyn Evans o, Ei Uffern ei Hun gan Geraint V Jones. Gomer. 拢7.99

Mae'n si诺r o fod yn destun boddhad mawr i awdur pan yw'n cyrraedd y cyflwr hwnnw o gael ei brynu oherwydd ei enw.

Ac mae yna ambell un o'r rheini yn y Gymraeg y dyddiau hyn - awduron fel Bethan Gwanas a Dafydd Meirion, er enghraifft, yn nofelwyr yr ydych chi'n gwybod be da chi'n mynd i'w gael dim ond gweld yr enwau.

Un arall a ddarganfu wyth茂en iddo'i hun ydi Geraint V Jones y mae ei lyfrau ditectif/datrys yn hynod o boblogaidd ac yn awdur sydd wedi sefydlu ei bedigri trwy ennill Gwobr Goffa Daniel Owen deirgwaith.

Clawr y llyfrAc mae'n syndod na fu hynny a'i holl gyhoeddiadau eraill yn ddigon i sicrhau iddo ei le yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.

Poblogaidd iawn
Mae'n un o olyniaeth ddigon teilwng gan i'r genre hwn fod yn un poblogaidd iawn yn y Gymraeg ers achau gydag awduron fel Meuryn, E Morgan Humphreys; John Ellis Williams, G E Breeze ac eraill yn braenaru'r tir.

Nofel anfuddugol, ond un a restrwyd ymhlith "y goreuon" yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yw un ddiweddaraf Geraint V Jones - ac un afaelgar a darllenadwy yw hi hefyd - er efallai i'r awdur wneud rhywfaint o gam ag ef ei hun wrth ddewis iaith dau o'i brif gymeriadau.

Yr oedd hynny'n rhywbeth a berodd ddryswch i un o feirniaid y gystadleuaeth hefyd ond yn rhywbeth y dewisodd yr awdur beidio a'i newid.

Merch o Gymru
Er bod yna lofruddiaeth a ditectifs yn Ei Uffern ei Hun nid nofel ddatrys yn yr ystyr gyffredin yw hon ac y mae gan yr awdur fwy o ddiddordeb mewn gwirionedd yng nghymeriad ac amgylchiadau personol y prif blismon chwerw, Charles Mornay, ac, yn fwy fyth, yng nghefndir merch ifanc o Gymru sy'n marw mewn ysbyty ar 么l cael ei churo yn ddidrugaredd ar strydoedd un o drefi perfeddion Lloegr.

Daw y digwyddiad a Mornay, ei Di Si a phlismones Gymraeg a ddefnyddiwyd i gyfieithu geiriau olaf y ferch ifanc i gysylltiad agos a'i theulu ym mherfeddion Maldwyn.

Tynged Angharad wedi iddi ffoi o'i chartref yno wedi iddi esgor ar blentyn siawns fu dod yn gaeth i Heroin ac ennill ei bywoliaeth yn butain.

Tynnu'r sgerbwd sy'n llechu yno, o'r cwpwrdd teuluol yw prif ddiddordeb y stori ac fe welwn nad oes mwynder ym mhobman yng nghefn gwlad Maldwyn!

Er bod y plot yn eithaf syml mae'n stori afaelgar sy'n mynnu ein sylw at y diwedd.

Sgwennu da
Mae Geraint V Jones yn sgrifennwr dihafal; yn cynnal ein diddordeb gydol y nofel ac y mae'r berthynas anghyfforddus rhwng y ddau blismon yn ychwanegu at y tyndra. Dyfais ddifyr yw cael meddyliau anynganadwy y Di Si am ei fos mewn italig.

Fodd bynnag gall y bydd rhywfaint o ddryswch yn meddwl y darllenydd ar y cychwyn cyn sylweddoli mai uniaith Saesneg yw y ddau hyn ond eu sgwrs yn cael ei chofnodi yn y Gymraeg.

Mae hynny, i'w gymeradwyo, wrth gwrs yn hytrach na'r arfer diog sydd ohoni y dyddiau hyn o roi talpiau o Saesneg mewn nofelau Cymraeg - ond ni ellir cysoni hynny a'r ffaith fod sgwrs cymeriad arall, seiciatrydd, yn cael ei chofnodi yn Saesneg.

Er i hyn anesmwytho un o feirniaid y Fedal Ryddiuaith hefyd, dewis peidio 芒 newid pethau wnaeth yr awdur.

Caiff yr awdur hwyl gydag anghynefeindra'r plismyn 芒 Chymru a'u methiant i ynganu enwau lleoedd Cymraeg gyda Tanpistyll yn troi'n Tin Whistle neu Tan Pistick ac yn y blaen.

Disgrifiadau gafaelgar
Mae ganddo ddisgrifiadau gafaelgar hefyd yn amrywio rhwng y cain a'r garw.

Ochr yn ochr cawn ddisgrifiadau mor wahanol 芒:
" . . . mam ifanc ar wely o waed, 芒'i phen yn hongian dros yr erchwyn gerfydd llinynnau o groen a chnawd, a babi deufis ger ei hymyl yn sgrecgian am fron oedd yn prysur oeri."
ac
". . . safai pysgotwr unig, at ei gluniau yn y d诺r, yn cynnig ei bluen i'r llyn. A thra gwylient, gwelsant chwip yr enwair yn codi'r lein yn fflach o neidr hir ac yn ei hanfon unwaith, dwywaith, deirgwaith yn 么l ac ymlaen drwy'r awyr denau cyn ei gollwng i'w hynt ac i orffwys yn llinell unionsyth unwaith eto ar wyneb y d诺r.".

Mae'n nofel sy'n gyfuniad o ddirgelwch a sgrifennu cain. Go brin y bydd ffyddloniaid Geraint V Jones yn cael eu siomi. - a bydd pleser ychwanegol i'r rhai sy'n ymddiddori mewn pysgota!

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy