|
Nofelau ar CD Mae fersiwn sain yn awr ar gael o'r nofel sy'n cael ei henwi'n gyson fel nofel fwyaf poblogaidd Cymru.
Cysgod y Cryman a ddewiswyd mewn pleidlais yn nofel y ganrif yn 1999 a phan ofynnwyd i bobol ifanc ar Ddiwrnod y Llyfr 2005 enwi eu hoff lyfr nofel gyntaf Islwyn Ffowc Elis, a gyhoeddwyd yn 1953, oedd ar ben y rhestr unwaith eto.
Erbyn hyn mae Cysgod y Cryman ar gael ar bedair CD yn cael ei darllen gan J. O Roberts.
Fe'u cyhoeddir gan gwmni Tympan.
Radio a theledu Dywed J O Roberts iddo gael pleser arbennig o ail gydio yn y nofel a roddodd gymaint o fwynhad iddo ar hyd y blynyddoedd.
"Mae Cysgod y Cryman yn agos iawn at fy nghalon i," meddai.
A da iawn hynny gan iddo ei recordio ddwywaith o'r blaen - y tro cyntaf dan gynllun Nuffield i ddeillion gogledd Cymru ganol y chwedegau ac wedyn, ar gyfer y rhaglen radioO Glawr i Glawrar 91热爆 Radio Cymru yn yr wythdegau.
Ef hefyd chwaraeodd ran Harri Vaughan, mewn addasiad radio cynnar o'r nofel a gynhyrchwyd gan Herbert Davies ganol y pumdegau.
Yna, mewn fersiwn teledu, Lleifior, chwaraeodd ran Edward Vaughan y tad, ar S4C ddiwedd y nawdegau.
Yr oedd Cysgod y Cryman yn un o bedwar llyfr llafar newydd a gyhoeddwyd gan Tympan ar gyfer mis Mawrth 2005.
Crynwyr Meirionnydd Mae talfyriad o nofel gyntaf rymus Marion Eames, Y Stafell Ddirgel ar gael ar dair CD gyda Betsan llwyd yn darllen.
Yn cael ei chydnabod fel un o brif nofelau yr iaith Gymraeg mae Y Stafell Ddirgel yn olrhain hanes Rowland Ellis, Bryn-mawr, a chrynwyr Meirionnydd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg.
Betsan Llwyd chwaraeodd ran Marged, ail wraig Rowland Ellis, mewn addasiad teledu o'r nofel ar S4C.
Gwobr gan Islwyn Nofel y dywedodd Islwyn Ffowc Elis y byddai ef wedi hoffi ei sgrifennu yw nofel arall a recordiwyd.
Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn un o'r beirniaid a ddyfarnodd wobr i Alun Jones am Ac yna Clywodd S诺n y M么r, yng Nghystadleuaeth Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978.
Yn gymysgedd o stori dditectif, stori ddirgelwch a stori garu yr oedd hon yn nofel gyntaf nodedig ac fe'i darllenir gan Llion Williams.
Dyddiadur merch Stori ar ffurf dyddiadur yw Bywyd Blodwen Jones, nofel gyntaf mewn cyfres a ysgrifennwyd gan Bethan Gwanas yn arbennig ar gyfer dysgwyr.
Dyddiadur preifat merch sengl 38 oed, sy'n byw ar ei phen ei hun mewn bwthyn yng ngogledd Cymru ac yn dysgu Cymraeg. Ei breuddwyd yw priodi ei thiwtor Llew "hyfryd hyfryd" Morgan, a siarad Cymraeg yn iawn.
Gellir prynu'r CDiau mewn siopau llyfrau neu ar wefan neu o
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|