|
Thomas Jones Pierce Mae 2005 yn ganmlwyddiant geni un o haneswyr blaenllaw Cymru.
Ar Fawrth 19 y ganed yr Athro Thomas Jones Pierce, a ddaeth yn arbenigwr ar hanes Cymru yn y Canol Oesoedd.
Mae Cymru gyfan yn ddyledus iddo am ei weithiau ymchwil i Oes y Tywysogion a'r drydedd ganrif ar ddeg.
Er yn enedigol o Lerpwl, yng Nghymru y treuliodd ran helaethaf ei oes a'i hoff leoedd oedd Arfon - a Ll欧n, yn arbennig, lle'r oedd ei wreiddiau.
Yno yr hoffai fyw a bod ac yno o'i fwthyn yng ngolwg Enlli y daeth i ben ei daith ac yntau ond yn 59 oed yn 1964.
Tra gwerthfawr Bu'n Athro ymchwil i Hanes Canoloesol Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth o 1948 hyd at 1964
Roedd ei ymchwiliadau gwreiddiol yn ddilyniant cronolegol i waith cychwynnol Syr John Lloyd am hanes Cymru o'r canrifoedd cynnar hyd at ddyddiau'r goncwest yn dra gwerthfawr.
Troediodd feysydd anodd oherwydd prinder dogfennau ac o'r herwydd roedd ei ymchwiliadau yn rhai gwreiddiol.
Llwyddodd i ddod 芒 Chymru'r drydedd ganrif ar ddeg yn llawer nes atom a bydd lled ei weledigaeth ddadansoddol yn faes toreithiog i ymchwilwyr y dyfodol.
Gwelodd yr Athro J Beverley Smith yn dda i grynhoi nifer o draethodau y diweddar Jones Pierce yn gyfrol swmpus, Medieval Welsh Society, gyda golwg ar fframwaith cymdeithas y Canol Oesoedd, ei threfn gyfreithiol a'r hyn a effeithiodd ar y datblygiadau economaidd.
Olrheinir y newid a fu yng Nghymru o fod yn gymdeithas dylwythol i fod yn gymdeithas fodern gynnar.
Pwllheli Un o'r bwrdeistrefi a gafodd gryn sylw yn ei astudiaeth oedd Pwllheli a cheir ganddo ffurfiau daearyddol cynnar y dref mewn enwau fel y traeth, llawr y gors, towyn, sarnau, yr allt, pentre poeth, morfa mawr a'r sarn - enwau a gollwyd gyda'r datblygiadau yn hanes y dref erbyn hyn.
Ond Penylan, Stryd y Moch, Rhydliniog, Pen-y-Mownt a sawl enw arall yn dal i fod.
Nefyn Y dref arall a gafodd gryn fantais o'i ysgolheictod oedd Nefyn a choffa da amdano pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli, 1955, yn traddodi darlith yn neuadd Fadryn.
Clywsom fel yr oedd Nefyn, fel Pwllheli, yn fath o fwrdeistref cwbl Gymreig cyn Concwest 1282.
Perthynai i'r tywysogion ac o'r herwydd yn ganolfan weinyddol cwmwd Dinllaen, sef darn o dir yn ymestyn o'r Eifl i Gefnamwlch yn Nhudweiliog.
Mae enwau fel yr Erw, Rhandir, lleiniau a llain yn dal yn dystion o'r drefn pan ymwelai y tywysog a'i osgordd i hela ar ei diriogaeth.
Noda'r Athro fod yna 80 o dylwythau gwasaidd yn wasgaredig o ardaloedd gwledig fel Nant Gwrtheyrn, Boduan, Botacho, Nyffryn, Brynodol a Hirdref.
Wedi'r goncwest Yn dilyn y goncwest yn 1282 fe ddyblwyd poblogaeth Nefyn ond parhaodd yn Gymraeg.
Ymgasglodd ymfudwyr yna o Arfon a Maelor.
Einion ap Adda mmab, yn ddiau, i Adda ap Gwilym, oedd y cyfoethocaf gyda'r mwyaf o dir yn Nefyn yn 1284 a chanddo naw ychen, ugain o ddefaid, chwe buwch a thri cheffyl.
Y nesaf oedd Gwyn ap Ianto gyda'i un ychen, un ceffyl, tair buwch a phump o ddefaid.
Acer a buwch oedd ffawd tua with o dlodion y faenor!
Dwy ffair Ond erbyn y ganrif nesaf yn 1355 derbyniwyd Siarter y dref gan y Tywysog Du. Ffurfiwyd corfforaeth gan roi hawl i'r trefnwyr fasnachu a chynnal dwy ffair y flwyddyn.
Pennod arall bwysig yn hanes y dreflan oedd y penwaig, diwydiant oedd yn ymestyn i'r blynyddoedd cynnar.
Roedd yma dros drigain o rwydi yn Oes y Tywysogion ac yn ychwanegol at y pysgota roedd masnach brysur i'r marched yn gwau a gwerthu rhwydi pysgota.
Mae ein dyled yn fawr i Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon a Chymdeithas Archaeolegol y Cambrians am ddiogelu cyfraniadau ysgolhaig a hanesydd arbennig. Mewn pennill er cof iddo dywedodd Gareth Alban Davies: Ond mer ei ddysg nis afredir Tanbeidrwydd ei ddawn a lysg Mewn cof a chyfrol.
Awdur yr erthygl yw Ioan Mai Evans
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|