91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Graffiti
Ymateb disgyblion o Ysgol Uwchradd Gwynllyw, Gwent.
Bu disgyblion Ysgol Gwynllyw, Pont-y-p诺l, yn darllen Graffiti a gyhoeddir gan Wasg y Dref Wen gyda'u hathro, Ion Thomas. Dyma eu hymateb:
Beth yw Graffiti?
Nofel o 117 tudalen yw hon wedi ei rhannu yn 30 o benodau byr.

Adrodd stori yw nod ac amcan yr awdur ifanc Angharad Devonald a gwna hynny'n llwyddiannus.

Cryfder y nofel yw ei chymeriadau - pump ohonynt gyda'r ferch, Gwen, ynghanol llwyfan y digwyddiadau.

Er ei bod yn aelod o'r Chweched mewn ysgol uwchradd, nid yw ei byd na'i moesau mor bur a'i henw. Poenau tyfu yw cefndir y nofel, ond fe'n hatgoffir hefyd am y problemau a wynebir gan lawer o ddisgyblion tu fas i'r ysgol.

Symuda'r nofel yn ei blaen yn gyflym, gyda digon o ddeialog. Moel yw'r ysgrifennu heb fawr o nodweddion llenyddol amlwg ac fe'n hatgoffir ychydig yn Graffiti am gymeriadau Pam Fi Duw?

Alcoholig yw rhiant un, mae disgybl arall yn hoff o'i fwyd, gyda rygbi yn meddiannu meddwl a byd Gareth. Y mae yma hefyd stori gariad yn cyniwair rhwng y prif gymeriadau.

Meddai Rhianna Snelgrove:
Hawdd ac ardderchog
Clawr y llyfrStori ardderchog yw hon am ddwy ferch sef Gwen a Helen a thri bachgen, Neil, Gareth a Steff, ar ddechrau'r Chweched Dosbarth. Mae gan bawb ar wah芒n i Helen broblemau mawr i'w hwynebu.

Gosodwyd y stori yn yr ysgol ac yng nghartrefi'r plant.

Mae'r cymeriadau yn rhai cryf a chredadwy. Cymeriad aeddfed a charedig yw Neil, ac fel Helen yn helpu eraill.

Ceir llawer o gymeriadau gwan fel Lisa, merch o flwyddyn naw sy'n dod yn ffrind da i Gwen, Simon a'r ddau ddrygionus ym mlwyddyn saith sef Rhys a Rhodri.

Mae yna lawer o ddigwyddiadau cofiadwy fel Lisa yn ffeindio allan ei bod hi'n feichiog a Gwen yn cael ei diarddel o'r ysgol.

A cheir dogn da o densiwn pan fo Simon yn cael ei gloi yn yr ystafell ymolchi a'r tad alcoholig yn malurio'r t欧.

Mae Angharad Devonald hefyd yn gweu hiwmor i'w darlun o fywyd ysgol a cheir hyn yn amlwg wrth i Rhys a Rhodri greu hafog yn y ciw cinio.

Y them芒u a red drwy'r nofel yw cariad, teulu a'r ysgol, gyda thrafferthion cyffuriau ar yr ymylon.

Ceir tipyn o ddeialog a honno'n perthyn i'r de.

Mae'r clawr yn addas a pherthnasol ac yn osgoi un o wendidau cyhoeddiadau Cymraeg, sef datgelu gormod.

Yn fy marn i, mae hon yn stori arbennig. Mae'n hawdd i'w darllen, ac anodd i'w rhoi lawr.

Mae'n addas ar gyfer merched a bechgyn rhwng y 14 a'r 17 sydd eisiau nofel hawdd ond ardderchog i'w darllen.

Meddai Sioban O'Farrell:
Gallai fod yn ffilm
Mae'r llyfr yma'n hynod ddiddorol ac yn rhoi blas ar fywyd go iawn a'i beryglon. Mae'n nofel llawn digwyddiadau am bump o ddisgyblion y chweched dosbarth.

Mae'r holl gymeriadau yn wahanol yn eu ffordd eu hunain. Wrth edrych o'm cwmpas, teimlaf fod y criw a ddarlunnir yn y nofel yn gredadwy. Maent oll yn rhai yr hoffai pawb ddod i'w hadnabod.

Datblyga pob un cymeriad, gyda rhai yn aeddfedu, rhai yn amlygu dewrder eraill yn gwneud ffrindiau newydd. Ond ar ddiwedd dydd maent yn cadw gyda'i gilydd.

O safbwynt y clawr, daw popeth yn gliriach ar ddiwedd y llyfr. Nid yw'r clawr felly'n datgelu dim.

Ysgrifennwyd y llyfr yn y trydydd person. Rhydd hyn deimlad o bellter sy'n caniat谩u i ni ddod i mewn i'r stori ein hunain. Ceir disgrifiadau digonol ac effeithiol o'r bobl a'u teimladau a ddaw a'r holl beth yn fyw.

Cydymdeimlais 芒'r cymeriadau. Mae'r stori hon felly yn gyfle i ni gyd ddod yn fwy ymwybodol o'r hyn a ddioddefa llawer yn y byd go iawn.

Mae Graffiti yn addas ar gyfer cael ei throsi'n ddrama deledu neu ffilm hyd yn oed.

Marciau uchel iawn.

Meddai Catrin Machado:
Darllenwch . . .
Neges y stori hon yw i beidio a bod yn ofnus i ddweud wrth rywun am eich problemau.

Byddan nhw'n si诺r o glywed beth bynnag!

Hefyd i beidio 芒 gofidio gormod am feddyliau pobl eraill amdanoch.

Iaith raenus sydd i naratif y nofel hon. Mae'r ddeialog yn nhafodiaith y de a digon o enghreifftiau o'r Saesneg yma..
"God chill out", "girly chat alert", "geek", "resit Maths".

Angharad Devonald Caiff ambell air ei ail adrodd yn gelfydd yn yr un frawddeg i greu effaith gan ddod a'r ddrama yn fyw. E.e. "Clywodd Gwen yn chwerthin, yn chwerthin yn wyllt nes ei bod yn amhosib iddo ddeall y geiriau yr oedd hi'n amlwg yn ymdrechu i'w ffurfio. Roedd ei chwerthin yn heintus a chwarddodd Gareth hefyd. Clywodd Gwen yntau a pharhau i chwerthin, chwerthin a chwerthin a chwerthin, chwerthin nes ei bod yn swnio fel pe bai'n crio."

Er nad oes llawer o ddisgrifiadau yn y nofel, ceir digon o ansoddeiriau effeithiol ac addas megis "briwsion bondigrybwyll", "llaw drachwantus".

Gallai hon fod yn ffilm lwyddiannus achos mae yna ddigon o ddigwyddiadau cyffrous a chynhyrfus yn digwydd.

Yr arddegau yw cynulleidfa y nofel hon, a chynghoraf bawb o'm cyfoedion i'w darllen.

Meddai Katie Marfell:
Digon yn digwydd
Yn fy marn i mae hwn yn llyfr ardderchog achos bod rhywbeth yn digwydd trwy'r amser a'r digwyddiadau yn gredadwy, ac roeddwn i yn gallu cydymdeimlo gyda'r cymeriadau.

Neges neu thema'r nofel hon yw i drystio ac ymddiried yn eich ffrindiau, ac i beidio a bod ofn siarad am eich problemau.

Iaith go ffurfiol sydd yn y llyfr, ond ceir ambell air Saesneg bob hyn a hyn.E.e. day off, look out, amazing, brilliant, aftershave.

Meddai Peter Harris:
Pawb a'i broblem
Mae pobl yn dweud mai nofel yw hon ar gyfer Blwyddyn 10 ond fel bachgen 13 rwy'n anghytuno.

Yr hyn a wna y nofel hon yn unigryw yw'r sefylfaoedd mae pobl yn ffeindio eu hunain ynddo.

Stori fer yw hi am bump swyddog blwyddyn 13 a phob un a'i broblem.

Cryfder y nofel yw ei chymeriadau. Gwen y ferch alluog ddisglair, Steff y "computer freak", a Helen yr un sy'n cadw pawb gyda'i gilydd. Mae pawb gyda'i broblem.

Dydw i ddim wedi darllen llyfr mor gyffrous yn fy mywyd. Dyma stori y dylai pawb ei darllen.

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Angharad Devonald, awdur Graffiti


cyfannwch

Gareth Snelgrove
Adroddiad bril gan Rhianna Snelgrove.



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy