| |
|
|
|
|
|
|
|
Jambo Carib诺 Cymro ar daith dros Mind
Adolygiad Lowri Wyn Roberts o Jambo Carib诺 - Taith i Borth Uffern gan Rocet Arwel Jones. Lolfa. 拢6.95
Dyddiadur am daith noddedig yn Kenya yw hwn.
Nid taith hamddenol ond her aruthrol i godi arian tuag at yr elusen Mind sy'n gweithio gyda rhai s芒l eu meddwl.
Her a olygai gerdded ar lethrau serth dros naw mil o droedfeddi o uchder gyda'r haul yn grasboeth ar eich gwar.
A chyn hynny; yr holl ymarfer blinedig ar hyd llwybrau oer a gwlybion cefn gwlad Ceredigion.
Un o bob pedwar Dywed Rocet ar ddechrau'r llyfr y gall un o bob pedwar ohonom ddioddef o salwch meddwl rywbryd yn ystod ei oes. Rhaid canmol ei ymdrech arbennig dros yr elusen bwysig hon.
Yn wir, roedd y ffigwr yn chwithdod i mi ac wrth ddarllen ei hanesion teimlais fy mod wedi gwerthfawrogi ei ymdrech gymaint mwy o gofio y byddai elusen mor deilwng yn elwa.
I fod yn onest mae'n anodd credu sut y llwyddodd i gadw dyddiadur mor gynhwysfawr a llawn hiwmor yn ystod taith mor galed! Buaswn i wedi'i chael yn anodd concro'r daith heb s么n am lwyddo'n llenyddol hefyd!!
Hawdd ei ddarllen Naws ysgafn sydd i'r dyddiadur. Mae'n rhwydd i'w ddarllen gyda'r yr iaith yn syml ac yn gwbl gyfarwydd i ni ddarllenwyr cyffredin.
Ond er hyn - i'r rhai sy'n hoff o ddisgrifiadau lliwgar a manwl mae digon ohonynt. Y disgrifiadau hyn sy'n galluogi'r darllenwr i 'weld' y golygfeydd yn berffaith fel y gwelai Rocet hwy ei hun.
Dyma un enghraifft, a dynnodd fy sylw, sy'n llwyddo heb fod yn farddonllyd:
"Roedd y clogwyni'n drwch o gydynnau hir o fwsog gwyrdd oedd yn lasach na'r adladd mwya brwd, a rhaeadr yn disgyn yn gawod drostyn nhw- yn gawod gynnes, cynhesach nag unrhyw gawod arall roeddan ni wedi ei chael yn Kenya. Dyma'r math o le y byddai rhywun yn disgwyl gweld merch ifanc noeth yn ffilmio hysbyseb shampw"
Mae yna hefyd ddisgrifiadau gonest heb unrhyw ymdrech i guddio ei deimladau tuag at rai o'i gyd deithwyr!!
Yn wir, mae'n ddigon parod i fynegi ei farn amdanynt a dynwared eu ffordd o siarad, yn enwedig Connor a Kylie a enwodd eu pabell yn, "Faw't欧 Ten'po'es".
Hwy yn ddau o gymdogion Rocet a oedd yn boendod mawr gyda'u cega a'u cwyno wedi llwyr fynd ar ei nerfau, druan!
Gyda'i ddisgrifiadau didwyll o'i gyd-deithwyr "o uffern" a'i hiwmor naturiol llwyddodd i lunio dyddiadur nad yw'n sych nac yn ddiflas fel y gall rhai llyfrau taith fod.
Cymaint wedi digwydd Amhosib cyhuddo hwn o fod yn ddiflas gan fod cymaint o bethau wedi digwydd yn ystod y daith!
Stormydd milain; ofnau bod un o'r criw ar goll; damweiniau ac ymweliad dawnswyr y Masaai yn gwisgo trainers Nike!
Ond o blith yr holl anturiaethau a hanesion rhyfedd y digwyddiad sy'n aros yn fy nghof i yw ei ymweliad ag ysgol feithrin mewn ardal dlawd yn Nairobi gyda disgrifiadau o'r plant bach, diniwed, yn hongian oddi ar ei freichiau ac yn cael hwyl wrth weiddi a sgrechian yn y maes chwarae.
Ond y realiti oedd fod bron bob un ohonynt yn amddifad oherwydd gafael AIDS ar y wlad.
Mae darlun o'r plant yn gwenu ar y camera heb wybod pa mor anobeithiol eu tynged.
Yn wir, mae'r defnydd cyffredinol o luniau yn ychwanegu at werth y dyddiadur ac yn gwneud yr hanesion yn fwy real.
Yr unig welliant fyddai cael rhai lliw.
Edrychaf ymlaen yn barod at hanes ei daith nesaf - yn Peru y flwyddyn nesaf a chofiwch bod cyfran o elw'r gyfrol hon yn mynd at Mind.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|