| |
|
|
|
|
|
|
|
Cymeriadau Ynys Mon Diolch i'r mewnfudwr o Ben Ll欧n am ei gymwynasau ag Ynys M么n ac am adnabod y bobl
Adolygiad Gwilym Owen o Cymeriadau Ynys M么n gan Emlyn Richards. Gwasg Gwynedd.
Cwestiwn bach i gychwyn. Am ba hyd y mae'n rhaid i lo o Ben Llyn fyw ar yr ynysig unbenesaidd cyn cael ei dderbyn yn un o foch M么n?
Wn i ddim beth yw'r ateb ond mae un peth yn gwbl sicr; mae'r Parchedig Emlyn Richards wedi cael croeso mawr ar Ynys M么n.
Cannoedd ar gannoedd Yn wir, fe ddeudwn i ei fod o bellach yn un o gewri'r lle.
Ac mae o wedi mynd ati gyda brwdfrydedd ac egni anarferol i roi pin ar bapur i ddarlunio gwahanol agweddau o fywyd Sir F么n ac wedi llwyddo bob tro gyda'i wahanol gyfrolau i gael ymateb cannoedd ar gannoedd o ddarllenwyr na fyddai byth yn meddwl prynu llyfr Cymraeg. Camp go fawr y dwthwn hwn. A does dim dadl o gwbl na fydd ei gyfrol ddiweddaraf o stabal Gwasg Gwynedd yn cael yr un croeso.
Ugain o gymeriadau Portreadau sydd ganddo o ugain o gymeriadau yr Ynys.
Dewisodd yn ofalus a dwi'n siwr i ddethol fod yn orchwyl anodd. A does dim dadl o gwbl na fydd ei gyfrol ddiweddaraf o stabal Gwasg Gwynedd yn cael yr un croeso.
Portreadau sydd ganddo o ugain o gymeriadau yr Ynys.
Dewisodd yn ofalus a dwi'n si诺r i ddethol fod yn orchwyl anodd.
Fel y dywed yr awdur y mae yna "sawl cym锚r arall ym M么n."
Ddeuda i ddim byd am hynny, dim ond awgrymu imi gael fy synnu fod ambell un heb gael lle yn y "gorlan fach hon".
Mae dawn sgrifennu Emlyn Richards yn afieithus fel arfer ac yn llwyddo i roi darluniau bywiog iawn o'r rhai y dewisodd s么n amdanynt.
Heb adnabod Mae o ei hun yn cyfaddef iddo orfod pwyso llawer ar atgofion pobl eraill yn hytrach na'i adnabyddiaeth ei hun o'r "cym锚rs" ac, a bod yn gwbl onest, mae hynny i'w ganfod yn eithaf clir yn yr ysgrifau eu hunain.
Rywsut mae yna fwy o fywyd a hygrededd yn y portreadau hynny sy'n dod o brofiad personol yr awdur ei hun a hynny'n codi'r cwestiwn a ddylai rhywun fynd ati i gyhoeddi cyfrol sy'n dibynnu cymaint ar agosatrwydd heb adnabod y gwrthrychau yn bersonol. Dwi ond gofyn.
Ond wedi dweud hynny mae yma gyfoeth o sgwennu ac fel Monwysyn oedd yn adnabod nifer fawr o'r cymeriadau yn bersonol fe gefais i fwynhad mawr yn pori yn y gyfrol hon.
Ar ei orau Y portread gorau yn fy ngolwg i ydi hwnnw o Bob a Nel Carmel - neu Bob a nel Tanybryn.
Mae'r awdur ar ei orau glas yma.
Mae'r disgrifiad ohono yn ymweld 芒 Thanybryn yn fuan ar 么l marwolaeth Bob a gadael Nel ei chwaer ar ei phen ei hun yn fendigedig.
"Gwyddwn fy ffordd i'r gegin fach yn y cefn; yno yr oedd Nel wedi cyrlio fel neidr fawr ar gadair fl锚r.
"'Nefoedd yr adar mae ma le rhyfedd,' meddai Nel yn datod ei chorff hir o'r nyth. 'Mae hi mor ddistaw yma.'
"Dyn distaw iawn oedd Bob, rhyw fath o garreg ateb i Nel gael esgus i siarad. Bellach doedd yna neb i wrando arni."
Prawf pendant fod Emlyn Richards yn adnabod y ddau yn iawn - nid portread o bell mo hwn.
Mae'r un peth yn wir am yr ysgrif am yr actor Glyn Pensarn - ffrwyth adnabyddiaeth bersonol, gynnes.
Gwelir yr un driniaeth yn y portreadau o Gwilym Price a Dic Gwalchmai.
Simddai Wen Ond cyn tewi mae'n rhaid imi s么n hefyd am berl arall o bortread - Hugh Jones, Y Simddai Wen.
Yr ysgrif hon, yn sicr, sydd yn dangos y saern茂aeth orau ac mae'n eithaf amlwg imi fod Emlyn Richards yn dawel fach yn dipyn o edmygydd o'r hen Simddai Wen fel mae o'n ei alw - y dyn oedd yn dweud wrth bwysigion yr ardal ei fod o'n "Anti Royalist, yn Anti Investiture ac yn anti lot o bethau eraill."
Doeddwn i ddim yn ei nabod ond wedi darllen y portread yma fe garwn i fod wedi ei gyfarfod. Clamp o gymeriad go iawn sydd yn mynd yn brinnach bob dydd.
Mae lle i ddiolch i'r mewnfudwr o Ben Ll欧n am fynd ati i baentio ugain darlun o gym锚rs Ynys M么n ac am brofi unwaith ac am byth ei bod hi'n bosib i fochyn a llo ddeall ei gilydd - dim ond rhoi digon o amser iddyn nhw!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|