|
Amen Dyn Pren Trysori iaith liwgar y bobl
Adolygiad Glyn Evans o Amen, Dyn Pren - Difyrrwch ein hiaith ni gan Gwilym Tudur a Mair E Jones. Gwasg Gwynedd. 拢8.95.
Disgrifir hwn fel llyfr hynod - "y cyntaf o'i fath efallai" meddan nhw ar y cefn.
Dydi hynny ddim yn hollol gywir gan mai un o'r un olyniaeth 芒 chasgliadau rhagorol R E Jones, Llanrwst, o idiomau Cymraeg ydi o.
Ac nac anghofier campwaith Huw Jones o eiriau ac ymadroddion amaethyddol wedi eu casglu mewn pedair cyfrol y mae angen berfa i'w cario.
Gan Huw Jones hefyd y cafwyd casgliad o ymadroddion Beiblaidd a ddaeth yn rhan o'n hiaith bob dydd.
Mae Amen, Dyn Pren yn ychwanegiad haeddiannol i'r olyniaeth anrhydeddus a difyr honno. Da gweld ychwanegu at ddarpariaeth sy'n ymwneud 芒'r diddordeb hwn mewn iaith.
O rigwm Daw'r teitl o'r rhigwm hwnnw y clywid plant a phobl yn ei ddefnyddio'n ebychiad 'slawer dydd; Amen, dyn pren - sticio mochyn yn i ben er ni chlywais ei ddefnyddio ers sawl pobiad erbyn hyn.
Ymadroddion, lliwgar, gwreiddiol, gwirion ac hyd yn oed fasweddus, weithiau, wedi eu casglu gan frawd a chwaer o Eifionydd, yw'r cynnwys.
Ond er mai blas Eifionydd sy'n drwm ar y gyfrol bydd llawer o'r geiriau a'r ymadroddion - fel yr Amen, dyn pren - yn gyfarwydd i rai o ardaloedd eraill hefyd.
Y diddordeb hwnnw ym marddoniaeth naturiol a'r dyfeisgarwch cynhenid hwnnw sydd ym mer esgyrn iaith sy'n cael ei borthi mewn cyfrol fel hon.
Saeson o dras Mae rhyw wefr hefyd mewn darganfod beth sydd tu 么l i rai dywediadau a ddaeth mor gyfarwydd nes peri inni fynd mor hyf arnyn nhw ag i anghofio'u tras fel petai.
Diddorol sylwi mai Saeson o dras yw rhai ymadroddion sy'n ymddangos mor naturiol Gymreig gystal eu cymhathiad.
Dyna ichi "colli limpin" am wylltio.
"Y limpin," yn 么l y gyfrol hon, "yw'r peg haearn drwy'r echel y tu allan i'r both i ddal olwyn yn gadarn. Saesneg - lynch-pin."
A pha air sy'n swnio'n Gymreiciach na cymowta ond sy'n llygraid bendigedig o come out.
Ar yr un perwyl y Saesneg, shuffle yw man cychwyn jowffla sy'n golygu "chwilio'n ddyfal am rywbeth".
O'r Saesneg lumber y daw lembo a mistimanars o misdemeanors a blagardio o black-guard
Y cyfan ohonyn nhw wedi dod yn eiriau sy'n ymddwyn cyn Cymreicied a geiriau sy'n 'Gymry' o doriad eu bogail.
Man cychwyn y llyfr ei hun oedd cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964.
"Gwneud rhestr ddigon carbwl a wnaethom yn ystod gaeaf 1963-64 a'i hanfon . . . Erbyn ailafael ynddo o ran ymyrraeth tua'r Nadolig 2001 roedd yr hen gasgliad wedi melynu'n arw, ond bu'n amheuthun ei gael; mae'n syndod faint ohono oedd wedi mynd yn angof llwyr," eglurir mewn rhagair.
Rhennir y casgliad yn 17 adran i gynnwys pynciau fel, chwarae plant, pryd a gwedd, cerydd a dadl, o gwmpas y cartref, bwyd a diod, iechyd - pobl ac anifeiliaid, byd natur, ffermio, tywydd, hen goelion a hen lwon.
I rannu fel hyn weithio'n hwylus mae gofyn am fynegai hefyd ond does yna'r un gyda'r gyfrol hon a all olygu cryn waith chwilio am air neu ymadrodd nad yw'n gwbl amlwg i ba adran y perthyn.
Ond i bwrpas y porwr llyfrau mae'n gae gyda sawl blewyn glas.
Siarad a'r Arglwydd Mae ambell i 'gymeriad' i'w adnabod hefyd fel yr hen gymeriad hwnnw gynhaliai sgyrsiau mor gartref 芒'r Bod Mawr wrth wedd茂o.
"Cofia'r hogia' yn Burma draw, o Dad," meddai ar un weddi. "Ew, mae'n galad ofnadwy arnyn nhw ysti - 'sgen ti'm syniad pa mor boeth ydi hi yno, Arglwydd Mawr."
Ac wrth ddyfynnu - eto mewn gweddi - o'r emyn, Y g诺r fu gynt o dan hoelion meddai: "Huw Derfel 'na'th hwnna ysti, ac emyn ardderchog ydi o hefyd. O'dd o'n perthyn i mi ysti, Arglwydd Mawr, o'dd o'n gefndar i 'nhad."
Cymeriad arall, parod ei ateb, oedd Gwynfor, hen lanc llawn direidi oedd hefyd yn saer da, yn fardd ac yn arlunydd.
Un tro, pan ofynnwyd iddo pa un oedd y llun anoddaf iddo'i wneud erioed ei ateb parod oedd, "llun rhech."
A son am wreiddioldeb dyfynnir cyngor gan Kate Roberts yngl欧n thorri darn o gig neu frechdan: "Torra fo mor dena' nes gweli did y nain drwyddo fo."
Gwahanol bobol Difyr yw'r casgliad o enwau annifyr i ddisgrifio pobl: Cringo - dyn blin Clechor - dyn cas Jadan - dynes dywyllodrus ( o jade) Llymbar - dyn croes Sbrych - neu brych Sopan - dynes groes Ac fe'n hatgoffir y defnyddir y gair hen yn aml iawn o flaen y rhain.
Ydi, mae hwn yn llyfr sy'n mynd a ni'n 么l i gyfnod llawer diniweitiach na'r un yr ydym yn byw ynddo - ac un fydd cyn ddieithried a phlaned arall i ambell un.
Yn naturiol, gwledig - gwladaidd, weithiau - yw hi o ran naws oherwydd ei milltir sgw芒r a hynny'n gwneud i rywun feddwl y byddai cyfrol gyffelyb a'i thread ar ddaear ddiwydiannol Cymru yn ddilyniant teg a difyr ar gyfer y flwyddyn nesaf.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|