| |
|
|
|
|
|
|
|
Fo a Fi Gyda'i Help Hi Dibynnu ar y cof wrth deithio gyda Dewi Pws
Adolygiad Arwel Rocet Jones o Fo a Ffi Gyda'i Help Hi Teithiau Dewis Pws. Golygydd, Lyn Ebenezer. Carreg Gwalch. 拢7.
Dyma lyfr penigamp i'w brynu i unrhyw un sydd wedi mwynhau'r gyfres deithio Byd Pws ar S4C.
Fe gewch rhwng cloriau'r gyfrol hon gofnod o helyntion Dewi Pws Morris ar ddeunaw o'r teithiau a ffilmiwyd ar gyfer y gyfres honno.
Y prif gymeriad ei hun yw'r cyntaf i gydnabod mai gwaith t卯m yw'r cyfan a dyna arwyddoc芒d y teitl a'r rhagymadroddion a geir ganddo Fo - Alun Hughes, y g诺r camera - a Hi, Rhian Williams, y drefn y tu 么l i'r cyfan.
Hoffter o bobl Mae'r gyfrol drwyddi draw yn dystiolaeth i allu Dewi Pws i gyfathrebu gyda phobl, nid yn unig trwy gyfrwng iaith ond trwy gyfrwng ei gymeriad a'i hiwmor wrth reswm - ella ei bod hi lawn cystal nad ydy rhai pobl yn deall rhai o'i j么cs ...
Dyna un o'r rhesymau y tu 么l i lwyddiant ei gyfresi teithio wrth gwrs - y ffaith ei fod yn gallu gwneud i bobl deimlo'n gwbl gartrefol o flaen camera neu hyd yn oed lwyddo i'w cael nhw i anghofio'n gyfan gwbl fod y camera ar y cyfyl. Mae ei hoffter o bobl yn dod yn amlwg ar bob tudalen o'r llyfr ble bynnag mae o, yn yr oerfel eithaf neu yn y gwres mwyaf eithafol - o'r Ynys Las (nid yr un tu allan i Aberyswtyth) i Darwin.
O'r llefydd mwyaf egsotig a'r dyddiau hamddenol i ddyddiau hir a diflas o ddisgwyl am awyrennau.
Ond mae hefyd yn dangos y penderfyniad a'r dewrder corfforol sy'n gyrru Pws i gerdded pedwar copa ar ddeg yn Eryri neu Crib y Cullin yn yr Alban.
Ond pobl sy'n ganolog waeth pa mor bwysig neu gyffredin ydyn nhw - bu'n siarad 芒'r Crocodeil Dundee gwreiddiol a chyda Brenin y Zulus - a phlant wrth gwrs . . . mae'r plant yn tyrru ato ymhob man.
Ymweld 芒'r Aboriginie Yn bersonol fy hoff ysgrif i yw honno am ei daith, yng nghwmni Rod Ansell (Crocodeil Dundee), i ymweld 芒'r Aboriginie.
Mae hi'n ysgrif sy'n llawn cydymdeimlad a thynerwch a hiwmor wrth reswm.
Medda fo ar y diwedd; 'Rod Ansell, yr Aborigine gwyn, y cymeriad mwyaf i mi gwrdd ag ef erioed.'
Tybed beth oedd barn Crocodeil Dundee am Dewi Pws?
Fel mae'n digwydd y rhaglen honno ar yr Aboriginie oedd un o'r ychydig raglenni i mi ei gweld ac fe barodd hynny i mi holi fy hun ai oherwydd hynny oeddwn i wedi mwynhau yr ysgrif hon yn fwy na'r un o'r lleill?
Dwi'n si诺r y bydd y llyfr hwn yn dod 芒'r cyfresi yn fyw iawn i unrhyw un sydd wedi eu dilyn yn driw.
Procio'r cof Fe fydd pob brawddeg yn procio'r cof - dyna, o bosib, un o anghenion llyfr sy'n cyd-fynd 芒 chyfres deledu.
Ond ar yr un pryd gall olygu fod y llyfr yn tueddu i ddibynnu ar y rhaglenni i lenwi'r bylchau.
Mae llawer o ddweud yma yn hytrach nac o ddangos ac yn aml iawn rydym yn carlamu dros ddigwyddiadau mawr difyr mewn ychydig o frawddegau prin.
Cawn wybod fod Hughes a Pws wedi bod mewn dawns i hoywon yn Rio - ond dim mwy. Does bosib fod yna stori i'w dweud!
Braslun yn unig Mae unrhyw un o'r teithiau hyn yn ddigon i fod yn destun llyfr cyfan i lawer iawn o bobl felly mae'n anorfod o bosibl mai braslun yn unig a gawn ni o bob un o'r ymweliadau.
Llawlyfr ardderchog i'r gyfres ond mae'n rhaid chwilio rhwng y llinellau ac yn y cof am y lliw unigryw hwnnw mae Dewi Pws yn ei roi i'r cyfan ar y sgr卯n.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|