91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tyddynnod y Chwarelwyr
Ennill a cholli'r llethrau
Adolygiad gan Dafydd Meirion o Tyddynnod y Chwarelwyr gan Dewi Tomos. Llyfrau Llafar Gwlad. Carreg Gwalch. 拢4.95

Rwy'n eistedd o flaen fy nghyfrifiadur yn fy nghartref ym Mhenygroes ac yn gweld yr haul yn taro ar ffenest ambell dyddyn ar y llethrau.

Ond does dim ffenest i adlewyrchu'r haul mewn eraill - maen nhw'n adfeilion ers degawdau.

Ond pam fod nhw yno? Pwy oedd yn byw ynddyn nhw? A pham nad ydyn nhw'n byw ynddyn nhw mwyach?

Clawr y llyfrCeir yr atebion i gyd yn llyfryn Dewi Tomos, un a fagwyd mewn tyddyn yng Ngharmel.

Tai haf
Eisoes cafodd y llyfr sylw yn y wasg a hynny oherwydd sylwadau Dafydd Glyn Jones yn y cyflwyniad ar dai haf, sef yr hyn yw llawer o'r tyddynnod erbyn hyn.

Mae o'n awgrymu mai Cymry Cymraeg cefnog ddylai eu prynu a'u troi'n dai haf ac nid estroniaid.

Mae'r llyfr yn dechrau gyda disgrifiad o'r llethrau sydd rhyw 400-600 troedfedd uwchben y m么r, rhyw dair i bedair milltir o Gaernarfon a chydag arwynebedd o tua 2,500 erw.

Y tir yn yr enwau
Ceir awgrym o sut fath o dir yw o enwau'r tyddynnod - Cors Dafarn, Cord Tan-foel a Chors Goch.

Cawn wybod am y ddaeareg, y tywydd, y tirwedd a'r amgylchedd a straeon gwerin yr ardal.

Cawn wybod wedyn fod dyn (a dynes, mae'n rhaid, neu fydden nhw ddim wedi para yma'n hir) wedi bod yma ers Oes yr Haearn, ac mae eu holion yn dal yma.

Dechrau codi tyddynnod
Ond yn y ddeunawfed ganrif y dechreuodd pobl godi tyddynnod ar y llethrau.

Cyn hynny, doedd ond ambell hafod yno (Hafoty Wernlas, Hafoty Wen a'u tebyg) gyda'r hendre i lawr yn y dyffrynnoedd neu ar yr arfordir.

Tir comin oedd y mynyddoedd, yn cael ei ddefnyddio i bori gwartheg i ddechrau, defaid yn ddiweddarach, ac i godi mawn.

Nid tlodion, digartref oedd yn codi'r tyddynnod cyntaf hyn, ond meibion y ffermydd llawr gwlad. Roedden nhw eisiau ymestyn eu tiriogaeth ac er bod y tir a'r hinsawdd yn llai caredig ar y llethrau, doedd dim rhaid talu rhent i'r un tirfeddiannwr.

Cafwyd hyd i garreg oedd yn hollti'n hawdd ac yn ddelfrydol i doi'r tyddynnod. Ar yr wyneb yr oedd y cloddio ar y dechrau ond fel y cynyddodd y galw, cloddiwyd yn ddyfnach.

Ac roedd angen dynion i wneud hyn, a lle iddyn nhw fyw, a dyna sut y codwyd y tyddynnod hyn.

M诺g y bore
Tai unnos ydyn nhw, tai a godwyd codi - gyda help cyfeillion - mewn noson a chael m诺g yn dod trwy'r corn erbyn y bore.

Ac yna byddai'r un mwyaf cyhyrog yn taflu bwyell o riniog y drws a ble bynnag y byddai'n glanio, c芒i perchennog y tyddyn y tir gyn belled a hynny yn dir iddo'i hun.

Doedd deddf gwlad ddim yn nodi hyn, ond roedd yn draddodiad - yn draddodiad yn ymestyn yn 么l i gyfreithiau Hywel Dda, medd rhai.

Tyddynnod nid bythynnod oedd y rhain, gan fod yna dir efo nhw, a chwt neu ddau i gadw buwch neu ddwy a gwair iddyn nhw dros y gaeaf.

T欧 moel oedd yr enw ar d欧 heb dir; roedd y rhain yn y pentrefi (wedi ffurfio pentrefi) ac yn aml i'r rheini yr 芒i cyplau h欧n er mwyn rhyddhau'r tyddynnod i'w plant.

Pentrefi a ffurfiwyd ac nid trefi, ac er bod poblogaeth plwyfi Llanwnda a Llandwrog wedi mwy na dyblu rhwng 1801 ac 1851 ac eto erbyn 1891, pobl o'r ardaloedd cyfagos - Arfon a M么n - oedd wedi symud i fyw a gweithio ar y llethrau ac o'r herwydd ni chafodd yr ardal ei Seisnigo fel ardaloedd y de.

Wrth enwi'r pentrefi cafodd rhai eu henwi ar 么l y tyddynnod - Rhostryfan a Rhosgadfan; eraill ar 么l y capeli gafodd eu codi yno - Carmel a Cesarea (a Nebo a Nasareth sydd fwy i'r de).

Cymdeithas glos
Datblygodd cymdeithas glos yn yr ardaloedd hyn gyda bywyd cymdeithasol llawn bwrlwm nid yn unig yn y capeli ond hefyd mewn timau p锚l-droed, rasus c诺n a bandiau pres.

Ond doedd yna'r un dafarn yn yr ardal - er bod Clwb Cymdeithasol Mountain Rangers wedi ei agor yn Rhosgadfan erbyn hyn.

Ond noda'r awdur bod yna sawl llwybr yn rhedeg o'r llethrau i'r gwastatir ac at dafarnau'r Newborough, y Goat, y Mownt a'r Pen Nionyn!

Ac roedd cyfeillion nid yn unig yn gymorth i godi t欧,ond roedd eu hangen am weddill eu hoes, i helpu gyda'r gwair a gorchwylion eraill y tyddynnod ac i fod yn gefn pan ddigwyddai trychineb yn y chwarel.

Sonnir yn y llyfr am gyngherddau'n cael eu cynnal i godi arian i rai oedd wedi colli anifail neu oedd wedi methu mynd i'r chwarel oherwydd salwch hir.

Roedd cadw buwch neu ddwy a ieir a mochyn yn hanfodol gan nad oedd cyflog y chwarel yn ddigon i fagu tyaid o blant.

Yn ogystal 芒 chwe diwrnod hir a chaled yn y chwarel a cherdded yn 么l ac ymlaen ymhob tywydd, roedd yna waith i'w wneud ar y tyddyn cyn noswylio.

Ond roedd y tyddyn yn fodd i wella eu bywyd. Fel y soniwyd, doedd dim rhaid talu rhent a doedd gan yr un ohonyn nhw forgais a gellid gwerthu darn o'u tir i godi t欧 moel i gael rhyw gelc wrth gefn.

Hen gerrig
Cerrig o'r mynydd -a llechi wrth gwrs - a ddefnyddid i godi'r tai, ac mae'n bur debyg, yn 么l y llyfr, bod cerrig o safleoedd Oes yr Haearn hefyd wedi cael eu defnyddio.

Tai unllawr bychain oedden nhw, efo beudy a chwt mochyn a th欧 gwair.

Roedd cyfran helaeth o'r tir yn cael ei aredig - sy'n syndod o gofio pa mor uchel oedd o.

Tyfid tatws, maip, moron, bresych a phys ynghyd 芒 cheirch i'r anifeiliaid.

Ychwanegai rai galch yn rheolaidd i'r tir gan ei fod mor sur ac hefyd dail i'w wella gan beri i'r tirwedd newid yn raddol o fod yn rhostir llwm i fod yn gaeau gwyrddion.

Cyfyng ac anghysurus
Ond oherwydd i'r tai gael eu codi mor sydyn, doedd yna fawr o le ynddyn nhw a doedden nhw ddim y tai mwyaf cysurus chwaith.

"Poenai un peth hi'n fawr, a hynny oedd cyflwr y t欧. Y gegin lle'r oeddynt yn byw oedd yr unig ystafell glyd ynddo. Yr oedd y siamberydd, yr un gefn yn enwedig, yn llaith ac yn hollol afiach i neb gysgu ynddi," dyfynnir o lyfr Kate Roberts, Traed mewn Cyffion.

Yr hyn sy'n ddifyr am y llethrau hyn, ac yn wir am Ddyffryn Nantlle gyfan, ac sy'n gwneud yr ardal yn wahanol i ardaloedd Llanberis-Dinorwig a Bethesda, yw mai chwareli bychain sydd yma ac nid un chwarel fawr.

A'r rheswm am hyn yw i'r tirfeddiannwr lleol, yr Arglwydd Newborough, fethu 芒 chau'r comin yn 1826 oherwydd i'r tyddynwyr gyflogi cyfreithiwr enwog yn Llundain, a mab i un o dyddynwyr Mynydd y Cilgwyn, i ymladd eu hachos.

Bu yntau yn rhoi pwysau ar ei "gyfeillion o bwys yn y ddinas" ac o'r herwydd tynnodd yr Arglwydd Newborough ei gais yn 么l.

I ddiolch i'r rhai a'u cefnogodd, bragodd y tyddynwyr gasgen o gwrw a'i gyrru i'w cymwynaswyr yn Llundain!

Ac oherwydd methiant y cau, nifer o gwmn茂au bychain oedd yn berchen ar y chwareli a hynny'n help i ddynion yr ardal allu symud o un chwarel i'r llall os oedd gwaith yn prinhau mewn un neu os oedden nhw wedi sathru cyrn stiward.

Meddai'r llenorion
Drwy'r llyfr ceir dyfyniadau o waith rhai o lenorion yr ardal, yn bennaf Dr Kate Roberts a fagwyd yn Rhosgadfan ac a ddarluniodd fywyd yr ardal mewn sawl llyfr.

Cartref taid a nain Kate RobertsDyfynnir hefyd yr Athro Thomas Parry, ei frawd, Gruffudd Parry, a'r awdur a'r bardd bro Lisi Jones.

Pan ddaeth diwedd ar y chwareli yn y 1960au, daeth yn ddiwedd ar fodolaeth y tyddynnod a hynny ond rhyw 150 o flynyddoedd ers eu codi.

Doedd dim modd gwneud bywoliaeth o gadw buwch neu ddwy a doedd yr awdurdodau ddim yn fodlon fod plant a phobl yn byw mewn tai llaith.

Codwyd tai cyngor yn y pentrefi a gadawyd y tyddynnod. Dadfeiliodd rhai, aeth eraill yn dai haf ac yn gartrefi parhaol i estroniaid.

Y dyfodol
Beth ddaw o'r tyddynnod yn y dyfodol? Ar wah芒n i awgrym Dafydd Glyn Jones, does gan Dewi Tomos ddim ateb.

Mae o fel petai wedi anobeithio ar i Gymry symud yn 么l i'r llethrau.

Mae un o'r tyddynnod, Llainfadyn, yn Sain Ffagan ac mae'r ardal wedi ei dynodi yn un o Dirlun Hanesyddol Eithriadol gan CADW.

Mae'r awdur erbyn hyn yn gweld y rhostiroedd fel lle i hamddena, yn llwybrau i ddenu pobl i gerdded ac i fwynhau'r golygfeydd a'r bywyd gwyllt ac, o bosib, adael i'r llethrau raddol droi'n 么l i'r hyn oedden nhw cyn i ddyn ddechrau eu meddiannu dros ddau gan mlynedd yn 么l.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy