91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cynnwrf Canrif
Sylwadau ar Cynnwrf Canrif - Agweddau ar Ddiwylliant Gwerin gan Huw Walters. Barddas. 拢16.


O'i theitl gellid maddau i rywun am feddwl mai cyfrol ysgolheigaidd, sych, gyda gwaith palu mawr drwyddi yw hon.

Nid fyddai dim yn bellach oddi wrth y gwir.
Mae'n gywir ei bod yn ffrwyth ysgolheictod dyfal ond mae hefyd yn ddifyr i'r lleygwr o ran cynnwys ac yn llithrig ddigon o ran arddull.

Clawr y llyfr Mae gair o ganmoliaeth haeddiannol i'r awdur, Huw Walters, sy'n bennaeth Uned Llyfryddiaeth Cymru yn Adran Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan Hywel Teifi Edwards mewn cyflwyniad i'r llyfr.

Ysgolhaig a llenor
"Yn ysgolhaig arfog, y mae'n ogystal yn llenor sy'n denu a chynnal darllenwyr gan mor olau a diwastraff yw'r arddull a ddatblygodd," meddai.

Ar ben hynny, mae'n trafod pynciau ac, yn bwysicach fyth, bobl ddiddorol.

Naw ysgrif sydd yn y gyfrol hon - ond mae rhywun yn teimlo y byddai rhai o'r pynciau a'r cymeriadau yn ddigon difyr a diddorol i haeddu eu llyfr eu hunain.

A chyda'r gyfrol yn costio 拢16 tybed na fyddai mwy o brynu ar nifer o lyfrau rhatach.

Brwydr dirwest
Y tair erthygl a roddodd y mwynhad pennaf i mi oedd Y Gwladgarwr a'i Ohebwyr,
Pontypridd a'r Cylch: Gwlad beirdd a Derwyddon a
Dryllio Caerau Bacchus: Cenhadaeth Daniel Dafydd Amos yn ymwneud 芒 brwydr dirwest - a pheidied neb a thybio fod hwnnw'n bwnc sych - yng nghymoedd y de yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg lle canolir y sylw ar weithgarwch Y Parchedig Phylip Griffiths, gweinidog eglwys annibynnol yr Allt-wen.

Ddydd ei angladd ef, "distawodd peiriannau gweithfeydd yr Allt-wen, Pontardawe, a'r pentrefi cyfagos, caewyd drysau'r masnachdai, a thynnwyd y llenni ar draws ffenestri'r siopau am y prynhawn."

Yn fwy na gweinidog yr oedd Griffiths hefyd yn ysgolfeistr, yn gyfreithiwr i'w braidd ac yn "ddiwygiwr cymdeithasol" yn ei ardal.

Bendith y Cwrw Bach
Mae'r darlun o'r cyfnod a'i arferion y tu hwnt o ddifyr.

Arferion fel y Cwrw Bach, er enghraifft, oedd yn cael ei gynnal i gynorthwyo gweithwyr a gollodd eu iechyd:
"Cytunai'r ardal gyfan . . . gynnal cwrw bach neu bastai . . . 脗i'r trigolion ati gyda chryn frwdfrydedd i facsu cwrw a chrasu teisennau ac yna eu gwerthu mewn gwledd, gan gyfrannu'r elw wedyn i'r dioddefydd a'i deulu."

Hynt papur newydd
Heb os, y bennod yn y gyfrol a ddarllenais gyda'r mwyaf o awch oedd, Y Gwladgarwr a'i Ohebwyr.

Papur newydd Cymraeg wythnosol a gyhoeddwyd yn Aberd芒r rhwng 1858 ac 1884 oedd Y Gwladgarwr gyda chriw digon brith o gymeriadau yn amrywio rhwng y gwych a'r gwachul a'r ecsentrig yn cyfrannu iddo.

Diddorol y dyddiau hyn o gwyno am gynni'r wasg Gymraeg cymaint bri oedd yna ar gyhoeddiad Cymraeg o'r fath y cyfnod hwnnw - yn enwedig yn yr ardal arbennig hon yr ydym heddiw wedi anghofio pa mor fyrlymus Gymreig fu hi.

Dalen flaen Y GwladgarwrMeddai Huw Walters: "Sefydlwyd nifer o weithfeydd haearn ym Mlaenau Gwent a Morgannwg . . . ac . . . yr oedd cryn lewyrch ar Gymreictod yr ardaloedd hyn. Cymraeg oedd iaith y mwyafrif llethol o'u trigolion, a sefydlwyd nifer o gymdeithasau Cymreigyddol, gyda'r amcan o noddi ll锚n a barddas."

Ffrae rhwng papurau
Tyfodd Aberd芒r ei hun "yn brif ganolfan argraffu Morgannwg "ac mae rhyfel bapur newydd a ddisgrifir rhwng Y Gwladgarwr a chyhoeddiad arall,Y Gwron, gystal ag unrhyw ffrae rhwng Sun a Mirror y dyddiau hyn gydag un papur yn hudo golygydd y llall i weithio gydag ef!

Yng nghanol y ffrae sefydlwyd papur arall, Y Gweithiwr a unwyd maes o law a'r Gwron - y cyfan yn arwyddion cryn brysurdeb, menter a drwgdeimlad.

Cecru a morthwylio
Yr oedd barddoniaeth, helyntion eisteddfodol a ffraeo am farddoniaeth ac ymgecru rhwng beirdd yn rhan allweddol o ddarpariaeth Y Gwladgarwr. "Nid yw ef byth yn ddedwydd pan heb elyn i'w forthwylio," cyhuddir un o'r golygyddion. "Mae wedi gollwng dros y wlad drwy'r newyddiaduron raiadrau o rant a baldordd bregethwrol."

Ond rhoddodd hefyd y cyfle cyntaf "i un o ysgrifenwyr rhamantau amlyca'r Gymraeg", gyhoeddi ei waith - Isaac Craigfryn Hughes, gl枚wr o Fynwent y Crynwyr.

Llyfnwy Gyda'r mwyaf poblogaidd o'i gyfranwyr oedd Thomas 'Llyfnwy' Morgan o'r As Fawr ym Mro Morgannwg a brentisiwyd yn deiliwr ond a sgrifennai golofn, Teithiau yr Hen Bacmon, yn cynnwys straeon a gasglai yn ystod ei deithiau'n teilwra mewn ardal yn ymestyn cyn belled a Sir Gaerfyrddin.

Diweddodd ei ddyddiau yn yr America wedi, yn gyntaf, fod yn yn cadw'r Cross Keys yn Ffynnon Daf ac yntau wedi rhoi'r gorau i ohebu fel y Pacmon.
Yn America, lle'r ymunodd ei wraig a'i naw o blant ag ef yn Scranton, sgrifennai i Baner America ac i gyhoeddiadau yng Nghymru.

Pan yn ohebydd yng Nghymru, ymddiddorai'n fawr mewn helyntion eisteddfodol.

Un tro, yn dilyn adroddiad "smala" am briodas y Parchedig William Hopkin, Cymer, daeth dan lach un a alwai ei hun Y Cymro Gwyllt, Noah Morgan Jones, a oedd yn gymeriad yr un mor ddiddorol ac yr awgryma'i enw!

Ganwyd ef, yr ieuengaf o naw o blant, ym Mynachlog Nedd ond wedi symud i Anerd芒r dechreuodd weithio dan ddaear yn 12 oed.

Ysgrifell yn ysgrafell
"Mynych y byddai yr ysgrifell yn troi yn ysgrafell yn ei law," wrth iddo drafod pynciau diwydiannol fel perthynas meistr a gwas ac yntau "yn meddu digon o wroldeb i draethu ei farn heb ofni y canlyniadau."

Yn arwydd o'r amseroedd yr oedd yn asiant hyrwyddo allfudo i'r America a bu dros yr Iwerydd ei hun fwy nag unwaith a sefydlodd ei fusnes allfudo ei hun.

Cymro Gwyllt"Nid pawb a gymeradwyai'r Cymro Gwyllt, fodd bynnag. Awgrymodd Walter Haydn Davies mai arfer y Cymro oedd manteisio ar lowyr y cymoedd drwy eu cymell i yfed yn nhafarn y Cross ac wedyn eu hudo, yn eu meddwdod ac addo pob math o gysuron bydol iddynt yn America."

Cymaint ei s锚l dros America y disgrifiwyd Y Gwladgarwr fel "y mwyaf Americangar o gyfnodolion Cymru" a chyhoeddwyd degau o lythyrau gan ymfudwyr ynddo a'r rheini bellach yn ddogfennau gwerthfawr i bwy bynnag sy'n astudio yr agwedd hon o hanes y cyfnod.

Mae'r ymfudo hwn yn sgwarnog y mae Huw Walters yntau yn ei dilyn gyda brwdfrydedd yn y bennod hon.

Y rhifyn olaf
Daeth yr hen bapur i ben fis Hydref, 1882, a hynny er mawr lawenydd i gyhoeddiad arall yn Aberd芒r a gyhoeddodd un o'r marwnadau mwyaf gorfoleddus a ddarllenwyd erioed:

"Ond er dyfned ein parch ac er uched ein syniadau am ein hen gyfaill ymadawedig," meddai Tarian y Gweithiwr, "ni thrawyd ni a syndod pan ganwyd cnul ei farwolaeth. Yr oedd yn amlwg ers wyth mlynedd fod y darfodedigaeth wedi ymaflyd yn ei ranau bywydol . . . Ffugiai fod mor iached 芒 chricsyn pan oedd ei gyfansoddiad mor bwdr 芒 llywodraeth y Twrc. Ond nid oedd pranciau felly i barhau yn hir a . . . wele y newydd hir ddisgwyliedig . . . ei fod wedi tynu ei anadl ddiweddaf!

"Yr oedd ein hen gyfaill ymadawedig y fath gyfrwng ysblennydd i lu o ymfflamychwyr i ddwyn allan gynhwysiad eu pothellau a'u pledrenau gwynt. Y mae ychydig Wellingtoniaid y byd llenyddol wedi eu hamddifadu o'r maes y buont yn ymladd llawer cant o frwydrau. Dystawodd s诺n eu tabyrddau a pheidiodd cleciadau eu cwmbwlets!

"Priodol y gellir dweud, 'A'r wlad a gafodd lonydd, a bu tawelwch mawr'. . . .

"Bu farw a'i g诺d yn llawn o fustl a llond cil ei foch o ddifr茂aeth. Safai champions y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth erchwyn ei wely mor chwyddedig a llyffaint Cors Fochno. Ond Ow! Diffoddodd y ganwyll frwynen, a'r oraclau a adawyd yn y tywyllwch. Bydded tynghedfen yn dyner i'r rhai sydd yn eu galar, ac ymdrechwn ninau i lanw bwlch mawr a phwysig a achoswyd gan farwolaeth ein hen gydymaith."

Heddwch i'w lwch yn wir!

Cymharu 芒 heddiw
Ac y mae gair olaf Huw Walters, er yn fwy cytbwys, yr un mor finiog:
"Y mae pori yng ngholofnau'r Gwladgarwr . . . a'r cylchgronau a'r newyddiaduron eraill a gyhoeddwyd yng nghymoedd diwydiannol y de . . . heb na chymhorthdal na nawdd gan yr un sefydliad cofier - yn brofiad ysgytwol i'r darllenydd o Gymro Cymraeg heddiw, sy'n gorfod dibynnu ar newyddiaduraeth ail-law, slic ac arwynebol gwasg Gymraeg ddisylwedd ddechrau'r unfed ganrif ar hugain."

Penodau eraill
Un arall o benodau llachar y gyfrol yw honno am weithgarwch hynod beirdd a derwyddon ardal Pontypridd yn y bedwaredd ganrif ar.

Llai anghyfarwydd yw hanes Amanwy y mae Huw Walters yn trafod ei ryddiaith.

Mae pennod hefyd am un o'r ymchwilwyr i gyflwr addysg yng Nghymru a esgorodd ar adroddiad Y Llyfrau Gleisiom; Unig Anterliwt Shir G芒r; Cymry yn Awstralia a John Dyer a Theulu'r Waun Lwyd.

Gyda'r Nadolig yn agos谩u - cyfrol wych i'w hystyried yn anrheg.
Glyn Evans



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy