91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
John Daniel Evans
Adolygiad gan Elvey MacDonald o: Bywyd a Gwaith John Daniel Evans - El Baqueano. Golygydd: Paul W. Birt. Gwasg Carreg Gwalch. £8.50.
Dyma gyfrol y bu disgwyl awchus amdani ers hydoedd.
Dros ddeugain mlynedd yn ôl awgrymodd y ddiweddar Brifardd R. Bryn Williams, prif hanesydd y Wladfa, na cheid difyrrach llawysgrifau na rhai'r Baqueano, ac y dylid eu cyhoeddi.

Clawr y llyfrGydol yr amser hwn, cadwyd hwy, ynghyd â chasgliad o drysorau eraill, yn ddiogel gariadus gan wyres John Daniel Evans, Clery A. Evans, yn ei chartref wrth droed yr Andes yn Nhrevelin.

Braint Paul W. Birt, Pennaeth Adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Ottawa, fu cael pori drwyddynt, eu golygu - a'u cyhoeddi ynghyd â rhagymadrodd lle cyflwynodd ddarlun cymesur o fywyd, gwaith, personoliaeth a chyfraniad JDE.

Hefyd, taflodd oleuni ar gynnwys y llawysgrifau gyda'i nodiadau niferus, manwl a gwybodus.

Bywyd amrywiol
Prin fu'r gwladfäwyr a gafodd fywyd mor amrywiol a diddorol â JDE. Nid oedd namyn teirblwydd oed pan yr ymfudodd, yr ifancaf o aelodau teulu mawr John Jones Aberpennar - y teulu mwyaf ar fwrdd y Mimosa, a theulu y bu rhai o'i aelodau'n gysylltiedig â digwyddiadau tyngedfennol dyddiau cynnar yr arloesi.

Fel pawb o'i gwmpas, wynebodd beryglon a phrofodd newyn. Tyfodd i ddeall yn fuan mai gwyllt a didostur oedd ei amgylchfyd newydd; bod hwnnw'n medru caledu calonnau yn ogystal â chyrff; na fedrid ei goncro na'i ddofi ond drwy ymdrech ddyfalbarhaus a dyfeisgarwch; a bod manteision amlwg i'w cael o ddilyn cynghorion ac arferion y brodorion.

Bywyd y paith
Chwaraeodd rheiny ran bwysig yn y broses o'i baratoi ar gyfer wynebu bywyd ar y paith, gan ei addysgu am ei lwybrau ac yn eu ffyrdd hwythau.

Wrth gyrraedd ei ugeinmlwydd ac am y naw mlynedd nesaf ymdaflodd ei hun i'w deithiau archwiliol, tasg a enillodd iddo'r teitl 'baqueano' (ynganer baceano), anrhydedd a gynigir yn unig i dywysydd manwl ei wybodaeth am y tir a'i lwybrau sydd hefyd yn meddu'r ddawn ryfeddol o fedru dilyn trywydd, waeth pa mor aneglur ei olion.

Dyma'r cyfnod a ddaeth ag ef i amlygrwydd, yn bennaf oherwydd camp ei geffyl, Malacara, a achubodd ei fywyd drwy neidio dros geulan i ffos a redai tua phedair llathen islaw - gan adael y brodorion a'i herlidiai am ei waed i syllu'n rhwystredig arno yn dianc o'r golwg.

O hyn ymlaen, daeth enw JDE yn rhan o chwedloniaeth y Wladfa - eithr roedd ei gyfraniad pwysicaf eto i ddod.

Tiroedd newydd
Pan gytunodd Jorge Luis Fontana, Rhaglaw cyntaf Tiriogaeth Genedlaethol Chubut, â chais y gwladfawyr am ganiatâd i archwilio'r fewnwlad am diroedd newydd i'w harloesi, JDE a benodwyd i dywys y fintai fechan a ffurfiwyd at y pwrpas.

Dyma daith a fyddai'n ymestyn ffiniau'r diriogaeth newydd ac yn cyfoethogi'r Ariannin, a chawn ddarlun byw iawn ohoni gan JDE.

Testun syndod yw iddo roi clod i'r Rhaglaw am syniad y bu hwnnw'n hwyrfrydig i'w gofleidio, yn arbennig o gofio hefyd mai'r gwladfawyr a gasglodd yr arian i gyllido'r daith.

Difyr yw'r hanes am helynt y llwyth yn cwympo oddi ar gefnau'r ceffylau pwn oherwydd diffyg profiad y rhai â'u llwythodd - ac mai'r Rhaglaw a dau ŵr blaenllaw arall oedd yr euocaf oll.

Dadlennol hefyd oedd y gwrthdaro rhwng y peiriannydd Guillermo Katterfeld a JDE wrth chwilio am aur (dichon mai'r cof am y digwyddiad hwn oedd wrth wraidd sylwadau diweddarach Fontana pan gymharodd fethiannau'r Almaenwr ac eraill â llwyddiant ymddangosiadol Edwin Cynrig Roberts - ewyrth i JDE - a'i ddilynwyr yn 1891).

Darganfod Cwm Hyfryd
Cofir taith 1885 - camp a gyflawnwyd ar geffylau heb eu pedoli - yn bennaf oherwydd darganfod 'Cwm Hyfryd', y man paradwysaidd a fu'n gartref i Wladfa'r Andes, chwedl JDE, sefydliad fu'n allweddol, maes o law, yn y broses o gadw rhan helaeth o'r rhanbarth o dan faner yr Ariannin.

Dilynwyd hi gan nifer o deithiau archwiliol eraill, lle cyflawnodd JDE yr un rôl. Un o'i gampau yn 1888 oedd tywys y fintai gyntaf i ymsefydlu yng Nghwm Hyfryd, er nad aeth ef â'i deulu yno tan 1891.

Gŵr busnes
Cyn cyrraedd ei ddeng mlwydd ar hugain, troes y baqueano yn ŵr busnes blaengar.
Cafodd ganiatâd i ddefnyddio melin fechan 'oedd rhy drom i unrhyw Gristion ei throi' â nerth braich. Wedi blino ar y gwaith trwm a gorfod 'byw yn hir heb fara' aeth ati i adeiladu olwyn ddŵr, a llwyddo i falu pum sachaid o wenith bob dydd.

Wedi iddo brynu cyfres o beiriannau - pob un yn gryfach na'r un blaenorol - a ffurfio cwmni gyda rhai o'i gydwladfawyr yn 1918, gallai melin John Daniel Evans & Cia, yn ei blwyddyn gyntaf, gynhyrchu 20,000 kilo o wenith grawn y dydd.

Bellach, nid oedd blawd John Evans yn dod yn ail yn ngolwg gwragedd y cwm i'r un a gâi ei fewnforio.

Gan mai JDE oedd gŵr busnes mwyaf llewyrchus ei fro yn y cyfnod hwn, nid annisgwyl yw darllen iddo adeiladu nifer o dai, mai ef oedd perchen y car cyntaf a welwyd yn y cwm, ac iddo drefnu llinell ffôn i gysylltu Trevelin ag Esquel ac â'r byd mawr y tu hwnt i'r Andes.

A'r cam naturiol nesaf oedd crwydro'r byd, yr hyn a wnaeth wedi iddo groesi'i drigain mlwydd oed.
Teithiodd yn ehangach na'r un o'i gyfoeswyr gwladfaol.

Ewrop a'r Dwyrain Canol
Cadwodd gofnod manwl o'i ymweliad â Chymru a Ffrainc (1923), â Chymru, Ewrop a'r Dwyrain Canol (1928), ac â Chile (1934).

Nid ofnai finiogi'i ysgrifbyn, fel y dengys yr enghreifftiau canlynol:
'Nid oeddwn yn caru Caergybi. Caiff Cybi ei chadw o'm rhan i.'

Nid oedd ei edmygedd o deulu ei wraig fawr mwy: 'Nid ydynt wedi bod erioed dwy filltir o ddrws eu tŷ. Nid ydynt yn wir yn tryblo eu pennau ynglŷn â'r byd mawr oddi allan i gloddiau eu ffarm.'

Roedd gorwelion cul o'r fath yn annealladwy i ddyn cyfarwydd â chroesi eangderau'r paith, a dyn oedd wedi prynu car yn Llanrwst er mwyn hwyluso'i fynd a dod mewn gwlad na fu erioed yn enwog am hwylustod ei thrafnidiaeth gyhoeddus.

Cafodd ei siomi hefyd yng nghyfarfod canmlwyddiant Michael D. Jones 'yr hwn oedd yn cael ei gynnal yng nghapel Pendre gan yr Annibynwyr a thruenus o sâl y cafodd coffa yr hen wron ei gynnal. Siaradwyd gan bersonau nad oedd ganddynt ddim cysylltiadau â hwy o gwbl (sic).'

Holodd pedwar o ddynion a safai ar gornel parc y dref yn Llanelli a wyddent am weddw Richard B. Davies, un o'r tri a laddwyd yng nghyflafan Dyffryn y Merthyron.

Pan droes y dynion i drafod ai 'yn Llyn Halen, North America' neu yn rhywle dan faner Lloegr oedd Patagonia, cerddodd JDE ymaith.

'Diwedd y byrdwn oedd na wyddent am ddim ond cornel y sewer lle yr oeddynt yn sefyll ar y pryd', meddai'n ddirmygus.

Sylwadau ffraeth
Nid yr hanesion am ei fywyd anturus a'i agwedd flaengar yw unig atyniadau'r gyfrol hon, felly.
Brithir yr atgofion â'i sylwadau ffraeth wrth iddo ymateb i sefyllfa, i ddigwyddiad neu i gymeriadau arbennig, megis yn yr enghreifftiau uchod.

Gall fod yn hallt ei feirniadaeth hyd yn oed wrth sôn am bobl yn ei gynefin ei hun, rhai o'u plith yn gyfeillion yr oedd e'n amlwg yn eu hoffi:

Wrth gofio am Llwyd ap Iwan yn anelu dryll at swyddog milwrol oedd yn bygwth gwladfäwr arall, mynegodd: 'Dyna'n ddiamau a fu'n angau i Llwyd ap Iwan, gormod o'r llew a rhy fach o allu ymresymol.'

'Dyn blysiog dros ddwy lath o daldra a'i dduw oedd ei fol,' meddai wedyn am Richard Jones Pant y March, a chofiai gyda gwên am olwg y truan hwnnw yn ymdrechu i gadw ar ei geffyl rhag cwympo i gors.

A phan aeth y botel yn drech na'i gyd-arloeswr, John Murray Thomas, 'bu raid i'r Parch. D. Lloyd Jones ddod i fyny a gwneuthur llwyr ymorthodwr ohono.' sylwodd yn wawdlym.

Ond dylid cofio bod ei duedd i weld digrifwch ambell i sefyllfa, yn cynnwys hefyd y gallu i chwerthin uwchben ei ffaeleddau ei hun.

Ni chyfyngai ei feirniadaeth i'w ysgrifau yn unig.

Wrth draddodi araith yn 1940 i ddathlu darganfod Cwm Hyfryd, manteisiodd i ymosod ar 'athrawon esgeulus a dioglyd (sydd) yn meddwl mwy o'u cyflogau nag addysg y plant sydd dan eu gofal.'.

Tristwch y sefyllfa oedd bod sail gadarn i'r fath gyhuddiad.

Tasg drom
Nid tasg ysgafn oedd golygu'r gyfrol swmpus hon, yn arbennig o gofio bod llawysgrifen JDE yn deilwng o'r meddyg gorau. Nid yw'n syndod, felly, bod gwallau wedi llwyddo i osgoi sylw'r Golygydd hwnt ac yma:Nid 'rhoddi' ond 'boddi' ddylai fod yn y cymal canlynol os am ddeall ergyd ddychanol JDE wrth ymweld â ffynnon Gwenffrewi: '... mae yn rhaid i chwi os am hir iachâd fyned i'r dŵr a phlygu i lawr a chusanu'r garreg wen a'r gwaed dair gwaith ac yna bydd eich iachâd yn sicr: y perygl yw mai wedi boddi a fyddwch ac nid wedi gwella.'

Cyfeirir at 'Trebor nai Thomas a Trebor, nai Huws.'
Trebor Mai Thomas, un o feibion y Wladfa a ddaeth i derbyn ei addysg yng Nghymru ac a fu'n genhadwr yn India, yw'r gŵr dan sylw.

A dau fach allan o'r nodiadau: Pan ddywed JDE ei fod wedi cyrraedd adref yn oriau mân y bore ar ôl cael dau 'binchasau', nid sôn y mae am 'fyrbryd' ond am 'punctures' - sef y gair Sbaeneg 'pinchazo' yn ei ffurf luosog, wedi'i Gymreigio a'i dreiglo (sy'n esbonio'r oedi ar y ffordd).

Hefyd, nid cyfeirio at ddyffryn sydd gannoedd o filltiroedd i ffwrdd, a wnâ JDE wrth groesi Hirdaith Edwin ond cymharu'r profiad ag un y Salmydd yn rhodio sychdir garw Dyffryn Baca (prawf o fanylder gwybodaeth Feiblaidd gwladfawyr y cyfnod).

Gwerth y gyfrol
Ond nid yw'r gwallau dealladwy hyn a'u tebyg yn tynnu dim oddi ar werth y gyfrol.

Ar y cyfan, pobl sy'n gyfarwydd ag ardal neu hanes sy'n sylwi ar fanion felly (neu adolygwyr hollwybodus sy'n gorfod profi eu bod yn drylwyr - er eu bod hwythau yn medru bod yr un mor euog o gamgymeriad achlysurol, neu fwy!).

Lluniodd Sian Parry glawr deniadol sy'n sicr o hybu'r gwerthiant, a dylai'r darllenwyr fwynhau edrych ar y casgliad byr o luniau du a gwyn o'r cyfnod, yn ogystal ag ar y pedwar map sy'n egluro'r teithiau.

Datgymalu'n sydyn
Fy unig gŵyn yw bod y copi a brynais eisoes yn datgymalu.
Efallai mai'r rhuthr i gael y gyfrol yn barod erbyn Eisteddfod Casnewydd fu'n gyfrifol am y rhwymo llac a bod copïau diweddarach yn cadw'n un darn.

Bid a bo hynny, brysiwch i brynu'r llyfr hwn. Mae'n werth llawer mwy na'r pris y gofynnir amdano.

Diolch i Clery A. Evans, Paul W. Birt, a Gwasg Carreg Gwalch - am gadw, am astudio a golygu, ac am gyhoeddi.
Byddai JDE ac RBW wrth eu boddau.
Ac mi rydw innau.

Medi 2004



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91Èȱ¬ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý