91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Draw Dros y Don
Adolygiad Eiry Miles o Draw Dros y Don, gan Idris Reynolds. Cyhoeddiadau Barddas. 拢6.



Magwyd Idris Reynolds ar aelwyd lengar a diwylliedig ym Mhost-Mawr, Ceredigion.

Roedd ei fam a'i ewythr yn awduron cyfrolau o farddoniaeth. Serch hynny, ni ddechreuodd ef gynganeddu tan oedd yn ddeugain oed.

O'i gymharu 芒'n prifeirdd eraill a fu'n caboli eu crefft am flynyddoedd, mae'n newydd-ddyfodiad i fyd y canu caeth, a'i lwyddiant ysgubol yn rhyfeddol.

Meistr yr englyn
Enillodd y gadair gyda'r awdl Y Daith yn fuan wedi meistroli'r gynghanedd yn 1989 ac fe'i henillodd eto yn 1992.

Bellach, ac yntau'n aelod adnabyddus o d卯m Crannog yn Nhalwrn y Beirdd, ystyrir Idris Reynolds yn feistr ar yr englyn.

Clawr y llyfrDraw Dros y Don yw ei ail gyfrol o farddoniaeth; cyhoeddwyd y gyntaf, Ar Lan y M么r, yn 1994.

Them芒u traddodiadol yw prif ddeunydd Draw Dros y Don gyda sawl cyfarchiad i gymeriadau ei fro, megis yn Pentymor, sy'n s么n am y gwas fferm, Jack Harvey.

Trawiadol hefyd yw ei gywydd i Ieuan Gelli, ffermwr ger hen gartref ei fam.

Y mae honno, fel sawl cerdd arall yn y casgliad, yn dathlu hen ffordd o fyw ac yn hiraethu am yr oes a fu:
Er cilio o'r amser gerwin,
Mae yno, yn ffermio ffin
Hynaf oll hen ffordd o fyw;
O hyd, cymydog ydyw.

Yn tristau
Yn aml, bydd yn trist谩u wrth weld technoleg yn disodli hen foesau ac arferion.

Dengys cynildeb yr englyn Ff么n Fudol feistrolaeth y bardd ar y mesur wrth iddo, mewn ychydig eiriau, fynegi ei ddirmyg tuag at y teclynnau sydd bellach yn swyno plant yn fwy na rhyfeddodau byd natur.

Technoleg sydd dan ei lach yn Emyn i'r Mileniwm Newydd hefyd, sy'n beirniadu pobl am adael i'r cyfrifiadur gymryd lle crefydd yn eu bywydau:
Addolwn ar feddalwedd
Wrth syrffio tua'r ne';
Ymgrymwn i'r Gwirionedd
Mewn eglwys ar y we.

Mae'r rhan olaf angerddol yn ein hannog i droi yn 么l at Dduw, ac yn fynegiant clir o bwysigrwydd ei ffydd i'r bardd.

Sonnir am ei enwad - yr Undodiaid - yn y gerdd Fflam lle mynega ei siom a'i ddicter am na wahoddwyd yr Undodiaid i wasanaeth sefydlu'r Cynulliad.

Golwg ddu
Ar wah芒n i ambell gerdd megis Dwy Genhedlaeth, sy'n dangos bod modd codi pont rhwng yr hen oes a'r oes fodern, golwg ddu sydd gan y bardd ar y presennol.

Mewn sawl cerdd, gw锚l dranc y Gymraeg a chwyna am y grym Seisnig, ffilistaidd sy'n disodli'r cymunedau Cymraeg.

Cyflwynir ei neges mewn ffordd hynod ddigri yn y gerdd gaeth Saesneg, In Praise of my Neighbour, sy'n cynnwys y cwpled celfydd:
'They had a crop of dropouts, / Holy bods and layabouts'.

Yn yr iaith fain hyd yn oed, mae ei afael ar y mesur caeth yn hynod gadarn.

Newidiadau mawr
Nid bro ei febyd yw ei unig ysbrydoliaeth. Sonnir am lofruddiaeth JFK yn y gerdd Newydd, ac aiff i'r afael 芒 nifer o'r newidiadau mawr a ddaeth i'n rhan yn y degawd ers cyhoeddi ei gyfrol ddiwethaf.

Mae'r englyn Mwyafrif yn trafod pleidlais 'ie' 1997, a cheir dwy gerdd am droad y mileniwm.

Cerdd arbennig o ingol yw Bosnia, a leolwyd yn ysbyty Sarajevo, 1994. Ynddi, ceir y cwpled cofiadwy:
'Rhannu rhyw hen warineb
Yw rhannu ward yn nhir neb'.

Cyrhaeddwn y presennol yn Gelyn, sy'n trafod Ir谩c a Bin Laden mewn beirniadaeth lem ar ryfelgarwch dyn trwy'r oesoedd.

Telynegion twymgalon
Ond nid cerddi trymion yw'r cyfan. Cawn delynegion twymgalon i lenorion fel Mererid Hopwood a Dylan Iorwerth.

Cawn hefyd joch go dda o hiwmor, ac mae diddordeb mawr y bardd mewn chwaraeon yn thema gyson.

Yn ei gerdd i Ceri Wyn, sy'n fardd ac yn chwaraewr rygbi, plethir byd y b锚l a byd y bardd yn gelfydd:
Wyt Gravell, ond wyt gryfach, yn y g芒n
Wyt Scott Gibbs ein llinach,
Yn ben bardd fel Benny bach,
Yn Guinell dawn gynilach.

Superwoman
Ychydig a glywn am fywyd personol y bardd. Mae'r cerddi Hi a Fe yn eithriadau.

Teyrnged i'w wraig yw Hi - tipyn o superwoman yn 么l pob golwg!

Ymddengys mai syniadau go draddodiadol sydd gan y bardd tuag at ei r么l yn y cartref.
Hi '...yw'r llaw sy'n clirio'r llwch' , a hi '... a'r bois ger y bar, / Wedi'r yfed yw'r dreifar'.

Serch hynny, mynegir cryn anwyldeb tuag at y 'dduwies or-ddiwyd'.

Y bardd ei hun yw testun Fe - cerdd hunan-feirniadol iawn lle mae'n mynegi ei gywilydd dros ochr annymunol o'i bersonoliaeth a ddaw i'r amlwg yn y dafarn - ef yw 'Effiwr hy y cwrw ffraeth'.

Cerdd ddiffuant a chignoeth yw hon - un o oreuon y gyfrol.

Er mor ddifyr oedd Draw Dros y Don, buaswn wedi hoffi cael golwg ddyfnach ar y bardd ei hun.

I mi, buasai'n gasgliad mwy gafaelgar petai ynddo lai o gerddi goddrychol am broblemau cymdeithas a rhagor o gerddi personol fel Fe.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy