|
Band yr Hendra, Wmpa-Wmpa! gan Geraint Jones Adolygiad gan Dafydd Meirion o Band yr Hendra, Wmpa-Wmpa! gan Geraint Jones. Gwasg Carreg Gwalch, 拢5.50
Ddarllenais i erioed lyfr o'r blaen 芒 band pres yn gefndir iddo.
Dydw i'n dallt dim am fandiau pres chwaith ond wnaeth hynny fenu dim ar fy mwynhad.
Ond yn amlwg mae gan yr awdur Geraint Jones, arweinydd Band Pres Trefor, wybodaeth eang am fandiau pres ac mae'n britho'r straeon gydag enwau darnau fel Marwolaeth Tybalt, Death or Glory a Bellinzona a thermau fel staccato a glissando.
Ydy o wedi tynnu ar ei brofiad o arwain y band hwn wrth lunio'r chwe stori fer ddoniol yma? Arweinydd Seindorf Excelsior Temperance yr Hendre (pentref dychmygol ar odre'r Eifl) yw Morlais Mortimer Humphreys ac yn 么l sawl disgrifiad yn y llyfr (byddai un neu ddwy o weithiau'n ddigon) hwn yw'r band salaf yn yr ardal, yng Nghymru os nad y byd. Dyna yw sail y straeon.
Cic i sawl sefydliad Yn 么l yr awdur, nid "pentref cysglyd a marwaidd" ydy'r Hendref. "Mae yno gymdeithasau lu ar gyfer pob oedran a phob diddordeb, pedwar addoldy, porthladd hwylus a hardd ... heb s么n am sgw芒r pentref bywiog ei gampau rhywiol, cyffuriol a fandaleiddiol..."!
Mae Geraint Jones yn achub ar bob cyfle i roi cic i sawl sefydliad Cymreig. Y Bwrdd Welcome to Wales a'r Urdd - "... cyn i'r Urdd gael troedigaeth gymdeithasol trwy fudo o Geredigion Gymraeg werinol a thlawd i ganol cyfoeth, crandrwydd a Seisnigrwydd dinas Caerdydd".
Caiff The Party of Wales ei ychwanegu at bob cyfeiriad at Blaid Cymru a "y blaid fwyaf teyrngar i Balas Buckingham a nhw oedd 芒 phrofiad canrif a rhagor o drefnu myrdd o bart茂on-stryd taeogaidd yng nghymoedd y de a dyffrynnodd diwydiannol y gogledd" yw'r Blaid Lafur.
Caiff pwyllgorau cynllunio'r awdurdodau lleol glec, "... mwy buddiol o lawer ... oedd sicrhau torri ('ymestyn' mewn iaith gyfoes) rheolau a pholis茂au cynllunio i blesio perthnasau a ffrindiau ac ambell i deulu niferus allasai fod yn allweddol adeg etholiad."
Caiff yr arferiad o wylio teledu'n ormodol hefyd ei sylw, "... oherwydd eu pwyslais Cymreig i addysgu eu plant, [maen nhw] wedi dymchwel y pared rhwng y parlwr a'r gegin er cael ystafell fwy i wylio'u teledu ..."
Pan sonnir nad oes twristiaid yn yr Hendre, dywed "fod un Aber-soch yn ddigon" a chaiff iaith Almaenes 芒 Saesneg o safon ei disgrifio fel un "coethach na'r eiddo pobl Birmingham".
Hawdd eu darllen Mae'r straeon yn hawdd iawn eu darllen; iaith goeth Geraint Jones mwy nag iaith naturiol yr Hendre neu Drefor am wn i.
Mae yma ddywediadau bachog a doniol iawn fel: "rhoi deng ewin ar waith", "haws stwffio mwg i fyny tin cath efo fforc", "tynn fel tin cranc", "cyfaill blaidd, bugail diog" a "saffa'i groen, croen cachgi".
Mae'n s么n am rai o aelodau'r band wedi mynychu y "coleg gwymon a'r heli" yn hytrach nac unrhyw brifysgol.
A cheir enwau fel Colin Angau a Dic Dan Dean ar rai o'r cymeriadau dychmygol a John O'Cork (Prif Weithredwr yr Urdd) a'r cynghorydd lleol gwladgarol Gwynus Williams ar rai go-iawn.
Mae'r band hefyd yn chwarae ar orymdaith Raxions Dynamite!
M么r, cychod a physgota Nid yn unig mae Geraint Jones yn gwybod dipyn go-lew am fandiau ond, fel hogyn o Drefor, yn naturiol mae ganddo hefyd gryn adnabyddiaeth o'r m么r, cychod a physgota.
Dyma i chi ddisgrifiad o gwch Morlais: "Cwch Aberdaron oedd cwch Morlais, cwch a welodd ddyddiau gwell ers ei adeiladu ym Mhorth Meudwy ... cwch estyllog, henffasiwn hefo spilyn sgriw, un pres, dan y sgotal 么l."
"Haliodd hogia'r Hendref eu cychod i'w gaeafu mewn gweirglodd a gadlas a garej. Glanhawyd y peiriannau a fflysiwyd yr heli cancrus ymaith 芒 dwr croyw. Cadwyd y g锚r pysgota tan ddechrau'r gwanwyn.
"Bu'r merched hwythau'n brysur yn 么l eu harfer yn piclo'r mecryll bychain ac yn llnau a rhewi mecryll-mawr-diwedd tymor, 'mecryll Penrhiwia' fel y'u gelwid. Cafodd sliwod disgwylgar Pont Tyn'gors eu gwledd fawr flynyddol o berfeddi a phennau mecryll."
Ac "...i wneud pethau'n waeth roedd brisyn cryf wedi codi o'r gogledd-ddwyrain ac roedd hi hefyd yn treio'n gyflym a'r m么r yn llifo'n gryf er mai teitia marddwr oedd 'na'r wythnos honno."
Ennill gwobr Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, daeth dwy o'r straeon - y ddwy gyntaf - i'r brig yng nghystadleuaeth 'Cyfrol o storiau doniol, cyfoes i oedolion' gan y beirniad Harri Parri.
Ac, yn wir, gellid dweud fod y straeon hyn mor debyg i rai Harri Parri ei hun y gallai glywed John Ogwen yn eu darllen ar Radio Cymru!
Ond oni ddylai'r cwmn茂au teledu eu hystyried fel sail i sgript? Mae yma gymeriadau cryfion a sefyllfaoedd doniol ac alla i ddim disgwyl i weld merched Band Wmpa Wmpa'r Almaen yn "eu sgerti cwta, tynion, yn fawr mwy na hancesi poced ... a'u cluniau noethion" yn llenwi sgr卯n S4C.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|