|
Cerddi Sir G芒r Adolygiad Gwyn Griffiths o. Cerddi Sir G芒r. Golygydd: Bethan Mair. Cerddi Fan Hyn. Gwasg Gomer. 拢6.95.
Fe ddwedodd James Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, rywbeth i'r perwyl fod dyn Shir G芒r ag un droed ar y domen dail a'r llall ar domen y pwll glo - mandrel yn un llaw a phicwarch yn y llall.
Sir y gweithie a sir y ffermydd.
Nid dyna'r unig ddeuoliaeth sy'n perthyn iddi. Mae'n sir i gynhesu ati - a gwylltio wrthi. Sir Gwynfor - a Doctor Alan. Sir, yn anad yr un a sicrhaodd Gynulliad inni. Y Gymreiciaf o'n siroedd, yn 么l Bethan Mair yn ei Rhagarweiniad i'r gyfrol Cerddi Sir G芒r, y fwyaf amrywiol a'r fwyaf anodd i'w diffinio. Cymdogaeth gl貌s y seindorf, gwerin falch Cae rygbi ac emynwyr mawr Shir G芒r - fel y dywed Arwel John yn ei soned hyfryd Drwy'r Ffenest Hon.
Sigl esmwyth y soned Mae sigl esmwyth y soned yn gweddu i dawelwch gwledig y sir. Wn i ddim a aeth y soned yn anffasiynol ond mae nifer dda o sonedau yn y flodeugerdd hon a hyfryd cael darllen eto ambell un fel Sir Gaerfyrddin Gwenallt.
Ni wyddom beth yw'r ias a gerdd drwy'r cnawd Wrth groesi'r ffin mewn cerbyd neu mewn tr锚n: Bydd gweld dy bridd fel gweled wyneb brawd, A'th wair a'th wenith fel perthnasau hen ...
A soned feddwol D. H. Culpitt i Hen Efail Thomas Lewis, Talyllychau gyda barddoniaeth yn yr enw "Talyllychau" ei hun. Fel ag sydd yn yr enwau Llanglydwen, Henllan Amgoed, Pant-y-caws. Lllinell gyntaf soned fendigedig Margaret Bowen Rees, Trannoeth Is-etholiad Caerfyrddin.
Cariad dwfn Ai am fod pobol y gweithie yn medru gwerthfawrogi'n llawnach lonyddwch tyner y wlad fod y darllenydd yn synhwyro rhyw gariad dwfn yng ngweithiau beirdd y sir?
Fel y canodd Bryan Martin Davies: "... gorffwysem wrth y chwarel galch gan adael i'r gwyrddni ffein gysuro'n llygaid."
Os canodd D. H. Culpitt i hen efail yr emynydd yn Nhalyllychau, fe ganodd, hefyd, i lowyr Cefneithin, a hynny yn nhafodiaith Cwm Gwendraeth.
Mae s么n am hen frwydrau, wedi'r cwbl bu Beca a'i merched yma a hon yw sir Gwenllian. Cofiwn am frwydr Llangyndeyrn a'r gwrthwynebiad i'r Comisiwn Coedwigoedd.
Fedrwch chi ddim meddwl am Shir G芒r heb feddwl am Lanelli, nac am Lanelli heb Barc y Strade ac arwyr y cae rygbi. Hoffais yn arbennig gywydd Ceri Wyn Jones i Phil Bennet: Trydanai f锚r y teras, a phigo bwlch 芒'i ffug-bas cyn mentro dawnsio rhwng dau yn Houdini o denau.
Ac wedyn: Yma fe welai ymyl y m么r coch rhwng muriau cul: aroglai hwn ffordd drwy'r glaw, cyrliai rhwng llafnau'r curlaw.
Ambell gerdd ysgytwol, wedyn, fel honno I George yn Ysbyty Meddwl Dewi Sant, Caerfyrddin, gan Lona Llywelyn Davies.
Ond yr hyn a erys yw melystra atgofus y gyfrol a chyfraniadau'r shirgarwyr anobeithiol, fel y buasai D. J. Williams yn ddweud. Iddyn nhw, yn arbennig, y bo'r diolch.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|