|
Rhy Iach Adolygiad Caron Edwards o Rhy Iach gan Bobi Jones. Cyhoeddiadau Barddas, 拢13.
Rhy Iach yw wythfed cyfrol Bobi Jones o stor茂au byrion. Bu'r rhagflaenyddion yn rhai clodwiw gyda gwobr Cyngor y Celfyddydau yn cael ei dyfarnu iddo am ei gasgliad Crio Chwerthin.
Ond cleddyf daufiniog yn aml yw llwyddiant, a chyda phob braint y gorffennol, daw baich disgwyliad y dyfodol.
Cyn mynd i'r afael 芒'r hyn sydd rhwng y ddeuglawr, mae'n rhaid imi dynnu sylw at y clawr ei hun - ond nid, yn anffodus, am resymau cadarnhaol.
Ar wah芒n i enw awdur, y clawr yw'r un o'r pethau cyntaf i'ch denu at lyfr ac o'r herwydd mae'n bwysig i ddelwedd y clawr siarad, i ryw raddau, 芒'r darllenydd, ac ymestyn ei hun oddi ar y silffoedd a threiddio i ymwybyddiaeth unigolyn.
Credaf hefyd, y dylai'r clawr adlewyrchu rhywbeth, waeth pa mor annelwig, am y cynnwys geiriol oddi mewn ac y dylai, yn ei grynswth, gyfrannu at gyfanrwydd y gwaith.
Yn anffodus, teimlaf fod 'siaced' Rhy Iach yn ddiflas a di-fflach. A dweud y gwir, yn eithaf hen-ffasiwn.
Mae hynny'n yn drueni gan nad yw'r cynnwys, wedi i chi edrych heibio'r wyneb, wedi dyddio o gwbl. I'r gwrthwyneb, ceir yma drafodaeth am them芒u oesol bywyd, gyda hunanoldeb yr un canolog.
Digrif a difrif Pum stori sydd yma, "dwy sy'n ddigrif, dwy yn ddifrif. A'r llall, wel mae honno'n ddigrif o ddifrif" yn 么l y salespitch ar y cefn.
Ac mae'n rhaid i mi ddweud i mi fwynhau'r rhai digrif mwyaf oll gyda'r hiwmor yn gynnil, a'r dweud wedi ei ddeiliwtio'n effeithiol.
O ganlyniad, cawn gameos o gymeriadau, a hynny'n rhai crwn, braf, o ambell i frawddeg yma a thraw.
Yn Y Pl芒t cyfarfyddwn 芒 Joan Powell sydd 芒'r "ddawn siriol o ysgogi cur yn ei phen pryd bynnag y mynnai..."
Yn ddiweddarach, estynnir ar y cipolwg hwn gyda'r datganiad parthed ei hoedran, ei bod hi'n "barod iawn i gyffesu i rywun ddeugain prin o'i blynyddoedd gorau...Cadwai'r wyth arall ynghudd yn ei bag llaw..."
Mae hwn, fel 芒 llawer i ddisgrifiad arall yn y gyfrol, yn creu darlun cynnil fel yr argraffiadau a gawn o bobl bob dydd mewn bywyd.
Rhyw awgrym man hyn a man draw sy'n cripian i fyny ar y darllenydd, ac yn datgelu llawer mwy na'r dweud llythrennol.
Cyflwyniad anffodus Serch hynny, gellir ar ormodiaeth ar brydiau - a'r enghraifft orau - neu waethaf - o hyn yw'r stori gyntaf Rhan y Rhieni, sy'n gyflwyniad fymryn yn anffodus i'r gyfrol yn fy nhyb i.
Teimlaf fod gwendidau sylfaenol i'w canfod ynddi; yn bennaf, tuedd tuag at fod yn hirwyntog.
Yn ei hanfod, mae'r stori'n trafod byd ble y "methai mudandod 芒 gwrando ar fudandod arall" ond yn eironig ddigon, ceir pentyrru cymariaethau a throsiadau i wneud hyn.
Yn ddi-os, mae'r ieithwedd yn gyfoethog drwyddi draw, ond ar brydiau yn dueddol o fod yn rhy gain nes bo rhywun ofn cyffwrdd na gwir fynd i'r afael a hi, dim ond edmygu o bell.
Dro arall, fodd bynnag, daw'r ddawn dweud i'r amlwg, wrth gael trafodaeth ynglyn 芒'r gwahaniaethau rhwng gwryw a menyw, ac o drafod goblygiadau dau riant, meddai: "Rhan-amser oedd ei dadolaeth ef: hithau, Sioned, roedd hi'n fam i gyd."
Gwaethaf a'r gorau Yn anffodus, yn y stori agoriadol hon y cawn y gwaethaf yn ogystal 芒'r gorau o'r gyfrol a pharagraffau'n ddiweddarach, ceir ymdriniaeth o hiliaeth nad yw bellach yn berthnasol.
Mae'n hiliaeth amrwd, na茂f, yn hiliaeth hawdd. Gwell o lawer fyddai cael ymdriniaeth o'r hiliaeth awgrymog honno sy'n llechu yn y cysgodion o'n cwmpas, yr hiliaeth haniaethol frwnt.
Serch hynny, buaswn yn argymell Rhy Iach i unrhyw un, a hynny heb flewyn ar fy nhafod. Mae'r cryfderau'n llawer mwy niferus nag unrhyw wendidau sy'n perthyn iddi.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|