| |
|
|
|
|
|
|
|
Nant Gwrtheyrn gan Carl Clowes Adolygiad Ioan mai Evans o Nant Gwrtheyrn gan Carl Clowes. Y Lolfa. 拢4.95
Ar y Sadwrn cyntaf o fis Gorffennaf yn Nant Gwrtheyrn cyhoeddwyd y llyfr cyntaf gan y cyntaf i sefydlu y Ganolfan Iaith Genedlaethol yno, y meddyg Carl Iwan Clowes.
Yn arwain y gweithgareddau roedd Hywel Williams AS y cyfeiriwyd ato gan gyfarwyddwr y Nant, Aled Jones Griffith, fel un sy'n dra chefnogol i'r ganolfan.
Gan fod gan yr aelod seneddol gysylltiadau teuluol agos 芒'r fro teimlai gryn falchder o gael rhan yn y cyhoeddi, meddai.
Calondid o'r mwyaf oedd gweld y pentref wedi cael ei ailgodi, serch fod angen rhagor o arian i uwchraddio'r adnoddau sy'n bod eisoes.
Yn ei sylwadau cyfeiriodd Carl Clowes at yr angen i lanw bwlch yn hanes y Nant.
Gwir, gan fod yma gefndir hanes sy'n mynd yn 么l i Oes yr Haearn.
Roedd galw am osod Gwrtheyrn yn ei gyd-destun a dod o hyd i fersiwn wir o'r hanes.
Cyfeiriodd hefyd at amgylchedd doreithiog y Nant - ffyniant planhigion ac adar sydd wedi prinhau mewn ardaloedd eraill.
Yn y llyfr o dros 60 dalen a nifer o luniau cawn wybod sut y bu i'r trigolion gefnu ar y Nant wedi i'r diwydiant cerrig ddarfod rhwng y ddau ryfel gan adael y pentref yn wag.
Yn 1978, prynwyd y pentref gan Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ac aed ati yn ddiymdroi i sefydlu canolfan iaith yno.
Profodd y ganolfan honno yn atyniad i blant ysgol a ddeuai yno i ymddiddori yn hanes y fro.
Yn y bennod gyntaf cawn hanes cynnar y Nant gan gyfeirio at Dre'r Ceiri a llwybrau'r pererinion tuag at Enlli.
Jyrman Sbei Yn dilyn amrywiol chwedlau'r fro, cyfeirir at garwriaeth ramantus Rhys a Meinir, y corach, Elis Bach y Nant, a'r Jyrman Sbei ar y ffordd i chwarel Carreg Llan.
Ond rhaid cywiro'r dybiaeth mai dyn oedd y sbei gan yr arferem ni blant y pentref fynd yno. A chan y byddwn yn canu ffidil cofiaf fynd yno gan y byddai hithau hefyd yn canu'r offeryn.
Yn sicr, llaw dynes fyddai'n byseddu y ffidil ond miwsig Almaenig glywid ganddi.
Yn y drydedd bennod daw manylion am ddatblygu achos crefydd ac addysg.
Y tro cyntaf Yna, pwy yn well na'r awdur ei hunan i roi am y tro cyntaf hanes tyfiant y ganolfan iaith.
Ac yntau ond yn 28 oed, wynebodd sialens - ac nid y nant oedd yr unig sialens fel y gwelir wrth ddarllen ymlaen.
Pennod wedyn ar nodweddion amgylcheddol y nant a llun o un o'r geifr gwylltion yn dianc am y graig ddu.
yna, ymestyn i'r amgylchedd eanghach at gyflwr yr iaith yn y fro ac yng Nghymru gyfan.
Daw y clo gyda Nant Gwrtheyrn heddiw.
"Bellach mae 25,000 o bobl wedi cael y cyfle i flasu'r iaith gymraeg yn y Nant."
Darllen difyr gyda lluniau dadlennol.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|