|
Cyfaredd y Cysgodion Adolygiad o lyfr Gwenno Ffrancon, Cyfaredd y Cysgodion - Delweddu Cymru a'i Phobl ar Ffilm, 1935 - 1951. Gwasg Prifysgol Cymru.
Darlun wedi ei lurgunio a gafwyd o Gymru yn rhai o'r ffilmiau enwocaf a wnaed amdanom yn 么l awdur a fu'n astudio'r pwnc.
Ar 么l bod yn astudio tylwyth o ffilmiau yn cynnwys How Green was my Valley, The Citadel a The Corn is Green dywed Gwenno Ffrancon yn ei llyfr, Cyfaredd y Cysgodion - Delweddu Cymru a'i phobl ar ffilm, 1935-1951:
"At ei gilydd, ceir yn y ffilmiau a drafodir yn y gyfrol hon bwyslais ar y traddodiadol a phrin y ceir unrhyw wir ymdrech i herio delweddau'r gorffennol a chreu portreadau newydd o'r genedl.
"Yn aml iawn, bodlonwyd ar fenthyg, ailgylchu a llurgunio hen stereoteipiau a oedd eisoes wedi ennill eu plwyf mewn llenyddiaeth."
Cymru Wyddelig! Wrth s么n yn benodol am yr enwocaf o'r cnwd hwn o hen ffilmiau, How Green was My Valley dywed mai gwerthoedd Gwyddelig-Americanaidd y cyfarwyddwr John Ford sydd yn lliwio'r dehongliad o Gymru yn hytrach nag unrhyw werthoedd gwir Gymreig.
"Maen gwbl amlwg," meddai, "mai ffilm am Gymru drwy lygaid a lleisiau Gwyddelig a gynhyrchwyd yn y diwedd . . . A dyma un o'i diffygion pennaf.
"Yn wir mae'n mynd mor bell a dweud: "Ar lawer ystyr, nid ffilm am Gymru ydyw o gwbl" gan ychwanegu fod ei rhamant "yn sarhad ar y Cymry a ddioddefasai galedi enbyd ym mhyllau glo y cymoedd" oherwydd i Ford garthu "pob budreddi ac anharddwch" o'r stori ar gyfer y sgr卯n fawr.
Cwm Robeson O'r ffilmiau Saesneg a wnaed am Gymru dywed Gwenno Ffrancon mai dim ond yn The Proud Valley gyda Paul Robeson "y ceir yr ymgais fwyaf credadwy mewn ffilm nodwedd i bortreadu amodau byw a gwaith y gl枚wr ac i gyfleu canlyniadau erchyll y damweiniau a ddigwyddai ym mhyllau glo de Cymru."
Y ffilm sy'n dod drymaf dan lach Gwenno Ffrancon ydi The Citadel oherwydd ei darlun camarweiniol, "ystumedig a melodramatig" o gymdeithas lofaol y de.
Yn drylwyr Mewn cyfrol ragorol sy'n amcanu rhoi "sylw Manwl" i "gyfnod cychwynnol a chyffrous" yn hanes ffilm yng Nghymru mae Gwenno Ffrancon yn ymdrin gyda chryn drylwyredd a manylder 芒 phum ffilm ddogfen, dwy ddrama ddogfen ac wyth ffilm nodwedd a grwyd yn ystod cyfnod y mae hi'n ei ystyried yn un "allweddol bwysig" yn nhwf y diwydiant ffilm.
Nid yw'n cyfyngu ei sylwadau i ffilmiau Saesneg am Gymru ond yn pwyso a mesur ymdrechion Cymraeg cynnar i ddehongli Cymru ar ffilm fel Yr Etifeddiaeth a wnaed gan John Roberts Williams pan oedd yn olygydd Y Cymro.
"Trafodir," meddai Gwenna Ffrancon am y llyfr, "cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol pob ffilm, gan gynnwys ei lleoliad, dull y sgriptio, y plot, cyfraniad ei chynhyrchwyr a'i phrif actorion, ymyrraeth allanol o du'r stiwdio neu'r sensor, ynghyd 芒'i rhinweddau a'i diffygion gweledol a thechnegol. Rhoddir sylw arbennig i ddelweddau cofiadwy a hir eu parhad am Gymru a'i phobl.
"Trafodir yn ogystal, ymateb y gynulleidfa yng Nghymru a thu hwnt i'r ffilm, a lle bo hynny'n briodol, fy marn bersonol amdani."
Mae'n un a'i gair ac mae cynhwysfawr, yn sicr, yn air i ddisgrifio'r llyfr hwn ac heb os nid oes dim byd wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn sy'n trafod y maes arbennig hwn gystal, yn y Gymraeg neu'r Saesneg, ac mae'n gydymaith teilwng ar unrhyw silff lyfrau i Wales and Cinema: The First 100 Years gan David Berry.
Y ffilmiau Cymraeg cynnar sy'n cael eu rhoi yn y dafol ydi Y Chwarelwyr - y ffilm Gymraeg gyntaf a wnaed - Yr Etifeddiaeth a Noson Lawen gan ddod i'r casgliad mai Noson lawen gan Sam Jones a Mark Lloyd, oedd y fwyaf llwyddiannus o'r tair oherwydd ei bod yn fwy o "gyfanwaith" na'r ddwy arall.
Pendantrwydd barn Braf edmygu trylwyredd yr ymchwil - a'r pendantrwydd barn, hefyd, achos ar ei gorau dydi Gwenno Ffrancon ddim yn betrus o fynegi barn yn glir a diamwys - er y gall yr aml dynnu sylw at wendidau ymddangos weithiau fel gor-awydd i bastynu a ffustio gyda rhyw ond parhaus yn dilyn pob canmoliaeth.
Weithiau cawn y teimlad, hefyd, megis gyda'i thrafodaeth o Yr Etifeddiaeth, o ddiffyg cydymdeimlad 芒 phrinder profiad ac adnoddau yr arloeswyr cynnar yn y maes.
Hefyd, anodd deall pam, wrth drafod Yr Etifeddiaeth, ei bod yn gorfod holi pam na thrafodwyd llosgi Penyberth a phryderon ynglyn 芒 dylanwad dyfodiad faciw卯s ar gefn gwlad Eifionydd gan iddi gael cyfle i gael ateb i'r union gwestiwn hwnnw i wneuthurwr y ffilm pan yn ei holi.
Yn y fan hon hefyd cyfeirir at Y Cymro wythnosol fel papur "dyddiol" Cymraeg ym 1945!
Ond y gwir amdani yw fod y drafodaeth yn gyffredinol aeddfed a chytbwys ac er yn astudiaeth ysgolheigaidd mae'r arddull yn ddiddan, rhugl a chyfeillgar.
Cymru Emlyn Williams Pennod ddifyr - ac amserol hefyd ar drothwy 60 mlynedd saethu The Last Days of Dolwyn - yw'r un am Gymru Emlyn Williams y "mwyaf lliwgar, cymhleth ac enigmatig o'r Cymry Cymraeg a roes gynnig ar gynnal delwedd arbennig o'r genedl ar ffilm."
Dydi o ddim yn plesio gyda'i ddarlun "unllygeidiog" o Gymru a hynny'n cael ei briodoli i'r ffaith fod bywyd cymdeithasol modern y genedl yn ddieithr iddo.
"Darlun dethol a chyfyng, felly, yw'r un a geir ganddo o Fywyd Cymru yn The Corn is Green, darlun gan Gymro o'r tu allan a w锚l Gymru drwy sbectol oes Victoria, o'i wneuthuriad ei hun," meddai.
Ac er i'r ffilm ennill ei lle yng nghalonnau'r bobl dywed na ellir "llai na gresynu" fod y portread o Gymru a'i phobl "mor ddifrifol o hen ffasiwn a chamarweiniol," meddai.
Ac er gwaethaf "rhinweddau arbennig" ffilm arall ganddo, The Last days of Dolwyn dywed fod i honno hefyd "wendidau amlwg".
"Dagrau pethau o safbwynt Emlyn Williams i bortreadu Cymru a'i phobl yw na lwyddodd i oresgyn yr amwysedd yn ei agwedd tuag at ei famwlad nac ychwaith i dreiddio'n ddwfn i'r amwysedd hwnnw . . . Dewisodd gynnal darlun dethol, hiraethus ac ystrydebol o Gymru yn hytrach na chreu portread gwreiddiol a blaegar a archwiliai'r arwyddoc芒d o foid yn Gymro amwys," meddai wrth gau pen y mwdwl ar y drafodaeth amdano.
Yr un mor ddiddorol a buddiol a'r farn am y gwahanol ffilmiau yw'r hanes y tu 么l i'w gwneud. Mae hanes y ffilm David am Amanwy yn eithriadol o ddifyr gyda phrif symbylydd y fenter, Aneirin Talfan Davies, yn gorfod cwyno na chafodd ei enw ymhlith y 'credits'. gan Glyn Evans
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|