![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Crwydro gyda Iolo Williams Adolygiad: Crwydro - detholiad o deithiau cerdded mwyaf deniadol y gyfres Crwydro ar S4C gyda Iolo Williams. Hughes - S4C. 拢4.99.
Adolygiad: Crwydro - detholiad o deithiau cerdded mwyaf deniadol y gyfres Crwydro ar S4C gyda Iolo Williams. Hughes - S4C. 拢4.99.
Ar un olwg mae S4C a Telesg么p, y cwmni a wnaeth y rhaglenni Crwydro poblogaidd ar gyfer S4C, wedi colli cyfle gyda'r cyhoeddiad hwn.
Dewiswyd peidio a manteisio ar y cyfle i gyhoeddi cyfrol ddeniadol, llawn lluniau ysblennydd a thestun difyr i ddisgrifio teithiau 'enwogion' yng nghwmni Iolo Williams, Tywysog Trowsus Cwta Cymru!
Nid yn gymaint Llywelyn ein Llyw olaf ond Iolo Ein Coesau Gorau.
Bu - ac y mae - Crwydro yn gyfres hynod o ddifyr gyda Iolo yn dynnwr sgwrs diddan gydag enwogion mor amrywiol 芒 Maureen Rhys, Dai Davies, Angharad Mair, Sian James, Si芒n Lloyd, Guto Harri a Myrddin ap Dafydd wrth eu dilyn ar hyd hoff lwybrau mewn gwahanol rannau o Gymru.
Cynhwysir 21 o'r teithiau hyn yn y llyfr bach hwn ac hefyd daith hir yr ymgymerodd Iolo 芒 hi o un pen o Gymru i'r llall er mwyn codi arian tuag at Hafan Gobaith.
Cymerodd y daith honno un diwrnod ar ddeg o Dy Gobaith Yng Nghonwy i Dy Hafan yn y Sili ym Morgannwg gyda Phil Thomas, Chris Jones, Dr Robin Davies a Dewi Bala Evans yn 'griw craidd' a Chymry amlwg eraill yn ymuno 芒 hwy ar gyfer gwahanol rannau.
Mae'r daith yn cael ei chofnodi bob yn damaid ar ddiwedd y llyfr.
Cyn hynny mae'r amryfal deithiau yng nghwmni eraill - i gyd yn berswad ichi gythru am eich esgidiau cerdded a hen ffon fugail taid er mwyn crwydro Traeth Lligwy fel y gwnaeth Alwyn Humphreys, Aberffraw fel y gwnaeth Maureen Rhys, Yr Wyddfa - Angharad Mair, Y Rhinogydd - Dafydd Elis Thomas, Moel Siabod - Dewi Pws, Bethesda - Lisa J锚n Brown, Abergwyngregyn - Dr Olwen Williams, Llandrillo yn Rhos - Nia Parry, Blaenau Ffestiniog a chwarel Cwmorthin - Ceri Cunningham a Rhys Roberts, Cwm Bychan a Beddgelert - Guto Brychan, Trefriw - Myrddin ap Dafydd, Llanerfyl - Si芒n James, Llangollen a'r Berwyn - Dai Davies, Glaspwll a Nant y Moch - Dylan Iorwerth, Llangrannog - Beti George, Brechfa- Patrick Thomas, Bro Gwyr - Caryl Parry Jones, Ystradfellete - S芒n Lloyd, Merthyr Tudful - Donna Edwards, Pen y Fan - Guto Harri.
Y patrwm yw map o Gymru gyfan i ddangos y lleoliad a map manylach ond digon amrwd o lwybr y daith. Yna gair bryn am y teithydd, manylion lleoliad, cyfleusterau a pheryglon a disgrifiad o'r llwybr.
Er mawr syndod, nid yw hyd y daith yn cael ei nodi er bod hynny yn cael ei gynnwys wrth ddigrifio gwahanol rannau Taith Hafan Gobaith..
Ar gychwyn y gyfrol mae "Rhybudd", wedi ei lunio gan dwrneiod yn hytrach na cherddwyr, ddywedwn i, yn rhybuddio darllenwyr na ellir dal y cyhoeddwyr na'r cyfranwyr yn atebol am unrhyw anhap i rywun tra'n dilyn un o'r teithiau!.
Rhybuddir hefyd y dylid dilyn map iawn os yn ymgymryd ag unrhyw un o'r teithiau yn hytrach na'r un amrwd yn y llyfr.
Mae pob taith yn gynwysedig ao fewn dwy ddalen yn wynebu'i gilydd.
Llyfr bychan ydi o yn mesur ond 11cm efo 17 ac ar yr olwg gyntaf wedi ei gynllunio i'w gario yn eich poced. Ond o ystyried diffygion cydnabyddiedig y mapiau go brin y bydd yn ateb y diben hwnnw.
Sy'n ei gwneud yn anos fyth deall pam nad aed ati i lunio cyfrol llawer mwy uchelgeisiol ei diwyg gyda lluniau a mwy o wybodaeth ddifyr am y teithiau gan gynnwys sylwadau personol y selebs.
Mae pob lle i gredu y byddai poblogrwydd diamheuol Iolo Williams yn sicrhau gwerthiant teilwng i gyfrol o'r fath.
Nes diwgydd hynny, diolch beth bynnag am hon am bris rhestmol a'i hawgrymiadau gwerthfawr am deithiau difyr mewn ardaloedd mor amrywiol yng Nghymru - ond gan gofio rhyudd y llyfr mai teithiau i "gerddwyr o ddifri" yw'r rhain, "nid dechreuwyr."
Cysylltiadau Perthnasol
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|