| |
|
|
|
|
|
|
|
Poeni am brinder darllenwyr Cymraeg Mae awdur a fu'n un o benaethiaid Cyngor Celfyddydau Cymru ymhlith y rhai sydd wedi galw am fwy o arian ac adnoddau i farchnata llyfrau yng Nghymru.
Yr oedd Meic Stephens, awdur y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a chyn gyfarwyddwr llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ac Athro Llenyddiaeth Eingl Gymreig ym Mhrifysgol Morgannwg yn siarad ar raglen 91热爆 Radio Cymru, Manylu.
Fel yr eglurodd Sian Sutton, cyflwynydd y rhaglen, bu gwendidau yn y ffordd y mae llyfrau Cymraeg yn cael eu marchnata yn destun pryder ers blynyddoedd.
Cytunodd Mr Stephens nad yw llyfrau yn gwerthu ar sail ymdrechion presennol cyhoeddwyr a siopau.
"Does dim digon o ddarpariaeth: mae gan y Cyngor Llyfrau adran farchnata; mae'r siopau ac mae'r cyhoeddwyr yn trio'u gorau glas i roi rhywfaint o gyhoeddusrwydd ond mae'n amlwg, hyd yn oed wedyn, dyw'r llyfrau ddim yn cyrraedd y farchnad," meddai.
Lot o siarad Ond ychwanegodd fod rhywfaint o gysur i'w gael o sylweddoli fod y diwydiant llyfrau yn ymwybodol o'r diffygion hyn.
"O leia 'da ni'n ymwybodol o'r peth ac mae na lot o siarad am y peth. Yr hyn hoffwn i'n awr yw gweld y Cyngor Llyfrau yn gweithredu.
"Hoffwn i yn y lle cyntaf weld y Cynulliad Cenedlaethol yn darparu arian i'r Cyngor Llyfrau (gan mai) nhw yw'r bobl broffesiynol wedi'r cyfan a dylai'r Cyngor Llyfrau fynd ati i dorri tir newydd."
Mynegwyd pryderon cyffredinol ar y rhaglen am gyflwr y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru er i Phil Davies o'r Cyngor Llyfrau ddweud fod 'cyfartaledd' gwerthiant llyfrau Cymraeg yn galonogol er bod y 'niferoedd' yn "siomedig".
Be di'r gwerthiant? Wrth ddarlunio cyflwr y farchnad Gymraeg dywedodd Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch y byddai gwerthiant o fil i lyfr Cymraeg yn cyfateb i 100,000 pe byddai'r llyfr hwnnw yn un Saesneg o fewn y farchnad Saesneg.
Ychwanegodd y byddai gwerthiant o 2,000 i lyfr Cymraeg stori-a-llun i blant yn werthiant da.
Yr un modd; gwerthiant o 1,000 i nofel a rhwng 500 a 600 i gyfrol o farddoniaeth.
Cefnogodd ef alwad gan Meic Stephens am gyhoeddi gwybodaeth am werthiant llyfrau Cymraeg fel y gall pobl y tu allan i'r diwydiant ei hun drafod y sefyllfa yn fwy deallus.
Llai o ddarllen Gofidiai Bethan Huws o wasanaeth llyfrgell Sir Ddinbych fod llai o ddarllen Cymraeg y dyddiau hyn a'r diwydiant yn methu denu darllenwyr newydd.
"'Da ni'n poeni 'da ni'n colli llawer o'r farchnad draddodiadol ac mae benthyciadau llyfrau Cymraeg yn disgyn drwy Gymru," meddai.
"Efallai bod y to oedd yn benthyg ac yn darllen yn draddodiadol yn marw allan a be da ni ddim yn llwyddo i'w wneud ydi mabwysiadu darllenwyr ifanc," ychwanegodd.
Galwodd hi am ymgyrch arbennig i berswadio darllenwyr o oed mamau ifainc i ddarllen Cymraeg.
Wedi dod at ei gilydd Nodyn calonogol ar y rhaglen oedd i'r diwydiant cyfan yn gyhoeddwyr, siopau a'r Cyngor Llyfrau ddod at ei gilydd a chyflwyno adroddiad i Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae hwnnw'n galw'n benodol am ragor o arian ar gyfer marchnata gan mai dyma ddolen wanaf y gadwyn gyhoeddi yng Nghymru ar hyn o bryd.
Rhybuddiodd Myrddin ap Dafydd rhag rhoi'r holl bwyslais ar hyrwyddo cyffredinol ar draul tynnu sylw at lyfrau unigol: "Mae gormod o hyrwyddo cyffredinol yn cael ei wneud heb annog pobl i brynu ac i roi llyfrau. Dwi'n meddwl fod yn rhaid cael targedau gwerthu ar gyfer yr ymgyrchoedd newydd yma!" meddai.
Y sefyllfa ar hyn o bryd yw fod Pwyllgor Diwylliant ac Iaith y Cynulliad wedi derbyn yr adroddiad, Strategaeth Farchnata Gytun ac yn disgwyl cais gan y Cyngor Llyfrau.
Ymchwil newydd Hefyd, disgwylir cyhoeddi canlyniadau ymchwil i dueddiadau darllen y Cymry cyn bo hir fel y gellir gweld yn well beth yw union gyflwr y farchnad.
O'r hyn a ddywedwyd gan Gymry a holwyd ar gyfer Manylu mewn noson yn Abertawe i hyrwyddo cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, fodd bynnag, mae talcen go galed o flaen y Cyngor Llyfrau a'r gweddill gan mai ond ychydig iawn ohonyn nhw sydd ar hyn o bryd yn darllen llyfrau Cymraeg.
Dywedodd un ei fod ef yn darllen dengwaith mwy o lyfrau Saesneg nag o rai Cymraeg gan danlinellu sylw a wnaeth Bethan Huws am yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cynulliad: "Efallai mai beth sydd ar goll yn yr adroddiad yma ydi'r darllenydd fod pobl wedi bod yn s么n am y cynnyrch, am y farchnad ac efallai ddim digon am ben y daith sef, y darllenydd."Heb ddarllenydd be ydi'r defnydd o gynhyrchu llyfrau? Ac efallai mai dyma ydi'r man gwan," meddai.
Beth yw eich barn chi am gyhoeddi yng Nghymru? Cliciwch i anfon e-bost at Llais Ll锚n
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|