|
Dal Dy Dir! gan Iola J么ns Adolygiad Caron Edwards o Dal Dy Dir! gan Iola J么ns. Gwasg Gomer. 拢7.99.
Mentrus o fewn ffiniau diogel!
Hon yw nofel gyntaf Iola J么ns i oedolion. Cyhoeddodd gyfrol i blant, Go Fflamia yn 1997 ac roeddwn yn edrych ymlaen at weld os y byddai'n gwneud y naid i fyd oedolion yn llwyddiannus.
A'r hyn a ganfyddais? O ddarllen y nofel hon, dim problem, prin ei bod yn weddus i unrhyw un dan ddeunaw!
Tair athrawes Dilyn hynt a helynt tair athrawes ifanc wna'r gyfrol, Mona, o Sir F么n, Glenys o Bontyberem a Trudi'r ddysgwraig o Ddolgellau.
Mae'r cyflwyniad cyntaf a gawn iddynt fel a ganlyn: "Wel, pwy oedd e, 'ten?" gofynnodd Glenys. "Pwy oedd pwy?" gofynnodd Mona. "Hwnna nath gnoi gwddw ti," meddai Trudi. "Ryw John neu'i gilydd." "Big John ife!" chwarddodd Glenys. "Neu Long John falla," ychwanegodd Trudi gan chwerthin.
Byd y ferch sengl Croeso i fyd y ferch sengl neu, yn yr achos hwn, y tair merch sengl, wrth iddynt farcio gwaith plant ysgol, meddwi a charu.
Hawdd y gallai'r cymeriadau asio'n un trwy hyn ond un o arfau gorau awdur yw tafodiaith ac mae cael y tair yn dod o gefndiroedd daearyddol cwbl wahanol yn eu gwahaniaethu o'r gair cyntaf.
Golyga hyn hefyd, fod yr awdures yn cael bod fymryn yn fwy hamddenol wrth ddarlunio nodweddion eraill o'u personoliaethau, a braf yw gweld bob un yn blaguro yn ei ffordd ei hun fel yr 芒'r nofel rhagddi.
Un arall o'i chryfderau yw'r modd y mae'n cyd-blethu ystod o emosiynau; y llawen a'r lleddf, y llwyd a'r lliwgar, ac yn llwyddo i wneud hynny'n gynnil a ffraeth.
Mymryn yn herciog Un o'r gwendidau o'm safbwynt i yw fod y ddeialog ar brydiau'n teimlo fymryn yn herciog ac ambell i reg yma ac acw heb bwrpas ac heb fod yn ychwanegu na chynnig dim i rediad y stori.
Dro arall, mae'r stori'n darllen braidd yn fformiwlaig, fel petai'n dilyn riset y rhelyw lyfrau Saesneg dan faner chick lit.
Ar un olwg, ymddengys yn feiddgar, tra ar y llaw arall yr ymddengys y beiddgarwch hwnnw'n fymryn o ystrydeb.
Nofel fentrus o fewn ffiniau diogel ydy Dal Dy Dir! Nofel i'w mwynhau heb orfod myfyrio rhyw lawer drosti. Cyfrol gampus i'w chario'n y c锚s ar wyliau.
Am yr awdur: Merch fferm a ddaw'n wreiddiol o Landdoged ger Llanrwst yw Iola J么ns ond yn awr yn byw yn Aberhosan ger Machynlleth.
Mae'n fam i bedwar o blant ac yn gyfarwyddwr cyfathrebu gydag Urdd Gobaith Cymru.
Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|