|
Croniclau Pentre Seimon Adolygiad Eiry Miles o Croniclau Pentre Simon gan Mihangel Morgan. Y Lolfa. 拢7.95.
Yn chweched nofel Mihangel Morgan, camwn yn 么l i Oes Fictoria, i bentre bach Cymraeg ei iaith rywle yn ne ddwyrain Cymru.
Fodd bynnag, fel y gwyr unrhyw un sy'n gyfarwydd 芒 gwaith Mihangel Morgan, nid ydym yn debyg o gael stori seml, neis-neis, am ryw oes aur a fu.
Mae hiwmor a direidi'r awdur yn fyw ac yn iach, ac mae mor barod ag erioed i chwarae castiau ar y darllenydd.
Yn rhan gyntaf y nofel, cawn ein cyflwyno i gymeriadau brith Pentre Simon a'r fwyaf rhyfeddol ohonynt oll yw Miss Silfester, broga-fenyw.
Mae hi'n nofwraig ardderchog sy'n gallu cyflawni gwyrthiau. Cwrddwn hefyd 芒'r dyn hysbys, Dr Marmadiwc Bifan a Lisi Dyddyn Iago y wrach, dau gwac-feddyg Prekop a Corrin, ffured sy'n gallu siarad a'r gantores opera Madame Orelia Simone.
Yno hefyd mae'r Parch.Peter Muir sy'n cael ffantas茂au am Jaco'r g么f ac yn gweld gogoniaint creadigaeth Duw' yng nghorff lluniaidd bachgen drwg y pentref, Sami Rhisiart.
Pobl unig a alltudiwyd o'r gymdeithas yw'r mwyafrif ohonynt pobl sy'n cael eu hofni neu eu bychanu.
Trin a bathu geiriau Llifa'r nofel yn ei blaen yn rhwydd, diolch i ddawn yr awdur o drin a bathu geiriau dawn a welwyd yn arbennig yn ei gyfrol o farddoniaeth i blant, Creision Hud.
Mae'n amlwg iddo gael blas ar lunio cerddi Gwynfryn Rhisiart, y Bardd Mawr' sy'n canu am ddigwyddiadau Pentre Simon. Cawn hefyd sawl disgrifiad byw, megis ...gwiweru i ffwrdd a mynedfa gul lychlyd, prycoplon.
Ymhen ychydig, daw yn amlwg nad ymgais i ail-greu'r cyfnod yn gywir sydd yma. Ni cheisir rhoi'r argraff mai awdur o Oes Fictoria a luniodd y Croniclau, ac mae'r awdur yn tynnu sylw at ei anwybodaeth.
Pan fo'r bardd Gwynfryn Rheinallt yn gwerthu ei gerddi mewn tafarn, er enghraifft, cawn nodyn gan yr awdur yn cyfaddef nad yw'n gwybod beth fyddai oriau agor tafarn yn y cyfnod.
Mae'r iaith hefyd yn anghyson. Weithiau, traethir mewn Cymraeg ffurfiol, ond dro arall clywn dafodiaith y De Ddwyrain a'i chytseiniaid caled. Ymddengys geiriau a dywediadau modern o bryd i'w gilydd hefyd; dywed menyw fod ei breichiau bron 芒 dod o'i socedi', a sonnir am gael peint am ddim' yn nhafarn y Griffin.
Beth felly yw bwriad yr awdur? Nid oes naratif i gysylltu'r penodau pytiog, ac wrth i ni gael ein cyflwyno i un cymeriad cartwnaidd ar 么l y llall, dechreuwn holi at beth mae hyn yn arwain?
Chwap rydym yn y presennol!
Y Saesneg yw iaith Stryd Simon, a wynebwn broblemau'r ddinas fodern; cyffuriau, hiliaeth a fandaliaeth.
Nid cymeriad cartwnaidd yw Dafydd mae'n gymeriad o gig a gwaed, a daw cyffyrddiadau bychain yr awdur ag ef yn fyw. Deallwn ei fod yn byw yn Stryd Simon ers 25 mlynedd ac nad yw wedi gweithio ers amser maith. Mae'n gaeth yn yr un rhigol, yn drefnus ac yn ddeddfol, yn methu mynegi'i emosiynau ac wedi bod yn byw ar ei ben ei hun yn rhy hir.
Gwelwn ei drefn feunyddiol ddiflas - prynu bara gwyn a phrydau parod yn siop Mr Patel, ceisio osgoi plant y stryd sy'n ei gyhuddo o fod yn baedoffil, osgoi ateb y ff么n gan ei fod yn derbyn galwadau cas, a chynnal sgyrsiau nerfus a chwithig gyda'i gymdogion.
Ond yn lloches ei gartref, mae'r prosiect' yr hyn sy'n ei gynnal ac yn rhoi pwrpas i'w fywyd. A phan welwn beth yw'r prosiect' hwn, daw'r nofel at ei gilydd yn raddol bach, a rhyfeddwn at ddyfeisgarwch Mihangel Morgan.
Model bychan o Bentre Simon yw prosiect' Dafydd, ac ef yw awdur Croniclau Pentre Simon.
Yn ddisymwth, daw trobwynt i fywyd undonog ac unig Dafydd. Daw Hazel ei chwaer i ymweld ag ef gyda'i chyfaill, Cary - dirgel ddyn' sy'n tarfu ar ei drefn arferol ac yn cwestiynu ei ffordd o fyw.
Mae ei agwedd ffwrdd-a-hi yn gwrthdaro 芒 threfnusrwydd Dafydd, ond bob yn dipyn, gwelwn galon Dafydd yn meddalu (er, efallai nad yw Cary yn gyfaill mor ffyddlon i Dafydd ag y tybiwn.)
Ergyd arall i Dafydd yw'r canfyddiad bod Hazel yn dioddef o gancr.
Gwir ddyfnder
Gwelwn thema a gyfyd yn nofelau eraill Mihangel Morgan, sef bwlio a phoenydio pobl nad ydynt yn cyd-fynd 芒 norm' cymdeithas.
Ym Mhentref Simon, mae Sami Rhisiart yn pigo'n ddidrugaredd ar Miss Silfester. Yn Stryd Simon, wrth i Dafydd gael ei boenydio gan blant y stryd, cofia yn 么l am ei ddyddiau ysgol, pan g芒i ei alw'n welshy ' a four eyes' (yma, teimlwn gysgod gwir awdur y nofel).
Ond, nid plant yn unig sydd ar fai. Nid yw'r oedolion yn ceryddu'r plant am bigo ar Miss Silfester. Nid yw cymydog Dafydd yn ceisio'i amddiffyn rhag y poenydwyr; efallai ei fod e'n amheus o Dafydd hefyd, gan ei fod yn ddyn sengl canol oed yn byw ar ei ben ei hun.
Yn 么l ac ymlaen
Madame Orelia yw'r unig un a fentrodd adael ond mae fel tasai hi'n cael ei chosbi am hynny, pan ddaw nifer o drasied茂au personol i'w rhan.
Mae'r ddau dwpsyn diniwed Deio a Caio yn trafod a oes bywyd y tu hwnt i Bentre Simon. Ni allant fod yn sicr ynghylch hynny, gan nad ydynt erioed wedi mentro y tu allan iddo. Deuant i'r casgliad eu bod yn gaeth i'r Pentre. Dyna hefyd sut mae Dafydd - wedi syrffedu ar ei fywyd, ond yn aros yn yr un twll yn lle mentro.
Pan fo pethau'n mynd yn drech na Dafydd, aiff pethau ar chw芒l ym Mhentre Simon. Mae Dr Bifan yn gwneud amdano'i hun, am iddo fethu troi metel yn aur. Fel Dafydd, roedd Dr Bifan yn berffeithydd, ac mae ei fethiant yn fynegiant o rwystredigaeth Dafydd.
Digwydd un drasiedi ar 么l y llall yn y Pentre, ac mae seicopath gwyllt ar ffo. Daw pechodau cuddiedig y gymdeithas i'r amlwg twyll, creulondeb a llosgach hyd yn oed.
Mae yno awch am ddial a gwaed sy'n adlewyrchu dicter Dafydd. Teimlwn ei fod yn dechrau colli amynedd 芒'i greadigaeth wrth i faterion dwysach bwyso ar ei feddwl.
Awchu am gael aros Efallai fy mod yn rhy gaeth i gonfensiynau'r nofel draddodiadol, ond roeddwn yn awchu am gael aros ym myd Dafydd, i ddilyn datblygiad ei fywyd, yn lle gwibio yn 么l i Bentre Simon.
Weithiau, teimlwn fod yr awdur yn tynnu sylw at ei glyfrwch ei hun pan nad oedd angen gwneud ond yr oedd dull celfydd Mihangel Morgan o blethu byd go iawn a byd ffantasi Dafydd yn gamp, a theimlais chwithdod ar 么l gorffen y nofel.
Fel tasai cyfaill da wedi gadael fy mywyd. Mae hynny'n arwydd o nofel dda, 么l-fodernaidd neu beidio.
Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|