| |
|
|
|
|
|
|
|
Cyfres Slawer Dydd - y ddau lyfr cyntaf Rhyfel y Degwm gan Mair Wynn Hughes; Y Llo Gwyn gan Hilma Lloyd Edwards. Cyfres Slawer Dydd. Gwasg Gomer. 拢4.99 yr un.
Mae'n siwr o fod yn ffordd digon effeithiol o ddysgu hanes; creu straeon dychmygol wedi eu gwreiddio mewn cyfnodau hanesyddol perthnasol.
Y syniad yw fod plant yn debycach o droi at y 'ffug' er mwyn deall y gwir nag at werslyfr cydnabyddedig.
"Nes na'r hanesydd . . ." R Williams Parry a 'ballu, wrth gwrs.
Ac os yw'r nofelydd a'r llenor yn nes at y gwir di-ball dylai'r gyfres newydd hon gan Wasg Gomer fod yn gryn llwyddiant.
I wthio'r cwch i'r dwr dewiswyd dwy awdures brofiadol a diddan sydd wedi hen ennill eu plwy, Mair Wynn Hughes o Bentraeth Ynys M么n a Hilma Lloyd Edwards o'r Bontnewydd ger Caernarfon sydd yn ffefrynnau'n barod ymhlith ein darllenwyr ifainc.
Bwriedir y nofelau ar gyfer plant rhwng wyth a deg oed ac yn ogystal 芒'r hyn a ddisgrifir gan Gomer fel "testun yn llawn antur a chyffro" mae lluniau "trawiadol a manwl" gan Graham Howells o Lanelli.
Dyffryn Clwyd yn ystod wythdegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw cefndir Rhyfel y Degwm gyda digwyddiadau cythryblus y gwrthryfel gwerin hwnnw yn cael eu gweld drwy lygaid dau fachgen, Tomos a Wiliam, y mae eu tad yn un o'r protestwyr yn erbyn annhegwch degymu.
Mae golygfeydd yn ymwneud 芒 milwyr a phlismyn a disgrifir ffermwyr yn cael eu pastynu at waed.
Yn y cefndir hefyd y mae aflwydd arall o'n hen hanes, y Welsh Not.
Mae cefndir yr ail nofel, Y Llo Gwyn yn dra gwahanol gan gychwyn gyda phriodas ym mhentref Celtaidd, Dinas Dinorwig, y mae ei olion i'w gweld o hyd rhwng Caernarfon a llethrau'r Wyddfa.
Cychwyn yr antur pan yw llo gwyn sanctaidd o eiddo'r llwyth yn diflannu gan beri i'r llwyth ymbaratoi i ymosod ar fryngaer arall gyfagos, Dinas Lleu, gan gredu i rywun oddi yno ei ddwyn.
Dwy nofel gyffrous ddigon o ddwylo profiadol sydd hefyd yn mynd i fod yn agoriad llygad gyda'r gymysgedd iawn o hanes a ffuglen.
Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|