|
O Ffair Rhos i'r Maen Llog Adolygiad Gwyn Griffiths o O Ffair Rhos i'r Maen Llog gan Wasg Gomer. 拢5.99.
Awelon Ffair Rhos ac arogl hen lampau Mae W. J. Gruffydd (Elerydd) yn batrwm o weinidog. Cynnes, annwyl, graenus a chyfoethog ei iaith. Dyn 芒 gafael sicr ar eiriau, bydded ar ei draed mewn pulpud neu ar lwyfan neu gyda dalen o bapur yn ei deipydd.
O Ffair Rhos i'r Maen Llog yw ail gyfrol ei hunangofiant. Mae'r rhan gyntaf yn gorffen ym 1945 ac yntau'n dychwelyd o'r ffatri awyrennau yng Nghasnewydd i'w fro enedigol.
Gwinllan y pentrefi bychain O hynny ymlaen llafuriodd yng ngwinllan y pentrefi bychain a chapeli'r tair sir Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro.
Camp fyddai dod o hyd i neb mwy cymwys ar gyfer y winllan honno.
Gwinllan yr eisteddfodau bach a mawr, y Cyrddau Mawr, y Cymanfaoedd, yr Ysgolion Sul a'r angladdau.
Pan gafodd ei alwad gyntaf i gapeli Ainion, Gelli Wen a Chwm Meidrim 'doedd W. J. ddim yn gyfarwydd ag angladdau capel. Ym mynwent Mynachlog Ystrad Fflur y cleddid pawb yn ardal Pontrhydfendigaid a pheth dieithr yw pregeth mewn angladd eglwys. Ond fe ddysgodd.
Dafis Bwlchnewydd nid un i seboni yn cychwyn ei bregeth: "Mae Hwn a Hwn wedi dod i gapel y Bwlch o'r diwedd." Cyn anelu'r ergyd " ond roedd e'n well na rhai ohonoch chi!"
Melys ogleisiol Dyma gyfrol sy'n llawn straeon melys ogleisiol. W. J. yn galw ar un o'i aelodau ar ei ffordd i'r Gymanfa un bore ddiwedd Mai a llwydrew annisgwyl y noson cynt wedi lladd gwrysg y tatw cynnar.
"Dwi ddim yn meddwl bod E'n haeddu Cymanfa," oedd yr ateb.
A hanes W. J. a Jane yn mynd ar eu mis m锚l at berthnasau yn Resolfen. Rhydwen Williams oedd gweindiog Bethania, Resolfen, a chafodd W. J. wahoddiad sydyn i bregethu yn oedfa'r nos.
Yn ffodus roedd wedi cofio cyngor T. R. Morgan, ei hen weinidog yn Ffair Rhos: "Pan ei di o cartre cofia fynd a pregeth da 'ti rhag ofan cei di gais i bregethu. 脢s i a pregeth ar Nicodemus gen i ar fy mis m锚l."
Byth oddi ar hynny eto ar gyngor y Parchedig T. R. Morgan - bu gan W. J. o leiaf un bregeth sb芒r ym mhoced ei got fawr, yn enwedig os byddai'n mynd i Gyrddau Mawr rhag ofn i'r pregethwr gw芒dd fethu a chyrraedd.
Fflach Ffenestri Fe gafodd yr hamdden i lenydda a chawn hanes y fflach a arweiniodd at lunio Ffenestri, pryddest Coron Pwllheli 1955.
Simon B. Jones yn Ystradgynlais yn canmol pryddest ddi-odl yn y mesur pum curiad oedd yr ysgogiad a gair o gyngor gan Gwenallt yn ei roi ar ben y ffordd. Cwblhaodd y gwaith mewn tair noson.
Y stori glywais i tua Sir Benfro oedd fod W. J. wedi chwilota pob darn o feirniadaeth lenyddol a sgrifennwyd gan feirniaid Pwllheli Iorwerth Peate, Cynan a Charadog Prichard a sgrifennu pryddest i blesio'r tri.
Wn i ddim a oes gwir i'r stori fm i erioed yn ddigon eofn i ofyn iddo, ac mae pobol Sir Benfro'n 'mestyn stor茂au weithiau. Wrth gwrs, fe fyddai W. J. yn abl iawn i wneud hynny - ond 'dyw e ddim yn cyfaddef hynny yn ei gyfrol.
Yn y Times Wyddwn i ddim fod dwy o straeon Tomos a Marged wedi'u cyfieithu a'u cyhoeddi yn The Times. Y cyfieithydd oedd Iolo Aneurin Williams, gor-or-wyr Iolo Morganwg, a digwyddodd hynny yn ei gyfnod yn Nhalybont pan oedd yr hen b芒r ond yn dechrau sleifio i galon y genedl drwy dudalennau Y Cymro.
Felly roedd The Times wedi achub y blaen ar y Cambrian News, y Tivy-side a'r Western Mail.
Fe gawson ni, wedi hynny, saith cyfrol o straeon Tomos a Marged - y gyntaf ym 1965 a'r olaf yn 2002.
Mae yn y gyfrol O Ffair Rhos i'r Maen Llog amryw o gerddi, un stori Tomos a Marged, gyfan, a phortread o'r awdur a ymddangosodd yn Y Faner ym 1984 cyn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr-Pont-Steffan, eisteddfod gyntaf W.J. yn Archdderwydd.
Mae'n bortread carlamus sy'n cymharu W. J. 芒 Pinter, Ionesco, William Burroughs a John Cleese! Ni nodir enw'r awdur. Ond mae'n bur amlwg mai y diweddar Peter Davies, Goginan, oedd e.
Mae yma ddarn o bregeth gan yr anfarwol John Thomas, Blaenwaun, a darnau o rai o bregethau W. J. ei hun. Mae ganddo gerdd, Credo, y gall hen bagan fel fi ei derbyn yn ddidrafferth.
Helem lawn Rhag i rywun dybio mai modd i wneud y gyfrol yn fwy swmpus yw'r rhain, pwysleisiaf nad ysgubau llanw mohonynt ond cyfraniadau sylweddol i'r helem orffenedig.
Cyfrol, felly, i'n hatgoffa o ddelfrydau dyddiau a fu, am ddiwylliant difyr a chyfoethog, capeli llawn, darlithoedd yn y festr茂oedd ac eisteddfodau'n gorffen ar doriad gwawr.
Cyfrol sy'n arogleuo o awelon Ffair Rhos am yn ail 芒 lampau oel mewn neuaddau a chapeli bywiog.
Diolch am rannu'r atgofion gyda ni, W.J.
.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|