|
Llyfr bach - diwrnod mawr Morfudd Bevan-Jones, cynorthwydd arddangosfeydd yn y Llyfrgell Genedlaethol gyda'r llyfr lleiaf yn y byd.
Bydd y llyfr i'w weld mewn arddangosfa gan y Llyfrgell i ddathlu Diwrnod y Llyfr, Mawrth 4, 2004.
Mae'r arddangosfa ar thema y Guinness Book of Records.
Dyma rai o ryfeddodau llyfryddol y Llyfrgell: Llyfr Mawr y Llyfrgell Dyma un o'r llyfrau mwyaf yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol, The Banksias. Volume III. Awdur Rosser, Celia E., 1930. Cyhoeddwr: Melbourne : Monash University, 2000. Disgrifiad 56 tt., [28] dalen o luniau : darluniedig (rhai lliw.), mapiau ; 78 x 52 cm. Casgliad o luniau a disgrifiadau o fywyd gwyllt Awstralia.
Llyfr Lleiaf y Llyfrgell Old King Cole. Cyhoeddwr [Paisley]: Gleniffer Press, 1985. Y llyfr printiedig lleiaf yn y byd' dim ond 1 mm x 1 mm o faint!
Y llyfr Cymraeg lleiaf yng nghasgliad y Llyfrgell Y caniedydd, sef, Pigion o emynau : i wobrwyo plant yr ysgolion sabbathol. Cyhoeddwyd yn Llanrwst ac argraffwyd gan J. Jones, [183-?] 44 mm.
Llyfr Ffotograffau Hynaf Cymru gan Fenyw Llyfr Ffotograffau Mary Dillwy. nAlbwm gwerthfawr gan un o ffotograffwragedd cyntaf y byd a achubwyd ar gyfer y genedl a'i bwrcasu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd Mary Dillwyn, y ffotograffwraig, yn un o gylch o dynnwyr lluniau cynnar a oedd yn byw yn Abertawe ac yn ymwneud ag arloesi'r datblygiad gwyddonol o brosesau ffotograffig. Fodd bynnag, mae'r albwm hwn sy'n cynnwys 42 o brintiau halen ac un print albwmen a dynnwyd yn ystod y 1840au a'r 1850au cynnar, yn cyfleu'r defnydd cynnar o ffotograffiaeth fel ffurf ar gelfyddyd.
Roedd teulu Mary Dillwyn yn perthyn drwy briodas i William Henry Fox Talbot, a gyhoeddodd iddo ddarganfod ffotograffiaeth yn 1839. Cafodd y teulu Dillwyn a brodor arall o Abertawe, Calvert Jones (a dynnodd y ffotograff cyntaf yng Nghymru i gael ei ddyddio, o Gastell Margam, sydd hefyd ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol) eu hysbrydoli gan y broses newydd hon.
Atlasau The Principality of Wales exactly described [ . ]Llundain, 1718.
Ymysg dros filiwn o fapiau yng nghasgliad y Llyfrgell mae'n debyg mai hwn yw'r atlas cyntaf yn ymwneud yn gyfan gwbl 芒 Chymru. Ymddengys mai mapiau newydd sydd yn yr atlas hon er na chynhwysir Sir Fynwy. Gwyddis fod Thomas Taylor yn werthwr llyfrau, printiau a mapiau yn Llundain rhwng 1670 a 1721.
Dangosir lleoliad y trefi a'r prif bentrefi a'u henwau ac yn y rhan fwyaf o'r mapiau dangosir y cantrefi hefyd, ynghyd 芒 rhestr o'u henwau; ond nid ydynt yn ymddangos ar fap o Sir Gaernarfon na siroedd Dinbych a'r Fflint.
Hen Lyfrau'r Llyfrgell Meditationes vitae Christ Sefydlodd William Caxton, argraffydd cyntaf Lloegr, ei wasg yn Westminster yn 1476. Argraffodd y cyfieithiad Saesneg hwn o Meditationes vitae Christi, gwaith a briodolir weithiau i Sant Bonaventura, tua 1490. Dyma un o'r llyfrau print Saesneg cynharaf yn y Llyfrgell. Mae'r torluniau pren yn y gyfrol hon yn rhagori ar rai yng nghyhoeddiadau cynharach Caxton.
Llythyr eglwysig Pab Pius II . Mae'r llyfrau cynharaf i'w hargraffu gyda theip symudol yn dyddio o'r 15fed ganrif. Gelwir y llyfrau hyn yn incunabula. Yr incunabulum cynharaf yng nghasgliadau'r Llyfrgell yw'r llythyr eglwysig hwn a gylchredwyd gan y Pab Pius II. Argraffwyd y gwaith gan Ulrich Zel yng Nghwl锚n tua 1470.
Yny lhyvyr hwnn Ffacsilimi o gopi unigryw y Llyfrgell o Yny lhyvyr hwnn, y llyfr print Cymraeg cyntaf. Fe'i argraffwyd gan Edward Whitchurch yn Llundain ac mae'n cynnwys cyfieithiadau o'r Credo, Gweddi'r Arglwydd, y Deg Gorchymyn a deunydd arall. Lluniwyd y gwaith gan Syr John Price (1502-1555), gweinyddwr y Goron ac ysgolhaig, brodor o Aberhonddu.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|