|
Snogs a Sgribls Hogan Fler Cusanau a baw gwylan!
Snogs a Sgribls Hogan Fler gan gwen Lasarus. Lolfa. 拢3.95
Dyma'r ail nofel am Corin. Caiff pawb o fwynhaodd y nofel gyntaf, Sgribls Hogan Fl锚r, wledd arall wrth ddarllen am helyntion y ferch 14 oed.
Fel y g诺yr pawb mae bywyd merch yn ei harddegau yn medru bod yn dipyn o rollercoaster. Mae Corin eisoes ar y daith honno wrth i ni ymuno a hi, a'r pwer sy'n gyrru'r cerbyd yn gyffrous o gyflym yw bechgyn.
Nofel o ddarganfod profiadau newydd yw hon a'r prif brofiad yw cusannu, neu 'snogio'.
Y mae'n llawn egni a'r hyder arwynebol hwnnw a welir gyda'r ifanc. Mae gwrthdaro yn elfen amlwg ym mywyd Corin.
Gwrthdaro yn yr ysgol ac ar yr aelwyd.
Gwelwn yn Corin wrthryfela nodweddiadol yr arddegau sy'n arwain at arbrofi a mentro. Y mae'n llawn gofidiau, pryderon a breuddwydion. Yr hyn a wnaeth Corin i mi'n seren oedd ei hasbri.
Mewn 88 o dudalennau llwydda'r nofel i adlewyrchu bywyd disgybl ysgol yn hynod gredadwy a difyr.
Mae iaith dyddiadur Corin yn addas iawn i ferch bedair ar ddeg. Na, ni fydd y dyddiadur hwn yn gwella iaith ein disgyblion ond fe fydd yn sicr o wneud dau beth. Yn gyntaf, bydd yn hwb i sawl un i ddarllen mwy o lyfrau Cymraeg, ac yn ail, bydd yn sbardun i rai gadw dyddiadur. Fel dywed Corin ei hun: "Dwi'n meddwl y dyla pawb sgwennu dyddiadur, hyd yn oed hogia - fasa fo'n gwneud lles iddyn nhw gael cofnodi pob dim ar bapur. Mae'n donic." Ac mae'r nofel hon yn donic.
Nia Hawyes Clyfar iawn Ysgrifennwyd y nofel hon gan Gwen Lasarus mewn ffordd glyfar iawn. Dyddiadur ydyw yn nhafodiaith y gogledd a all fod ar adegau ychydig yn ddryslyd i ieuenctid y de. Ceir ambell reg, ond dim rhy ddrwg wnaiff gythruddo neb.
Mae'r nofel yn berffaith i ferched. Yn berffaith i rai rhwng tair ar ddeg ac un ar bymtheg. Mae hyn yn bennaf oherwydd mai merch yn ei harddegau yw'r prif gymeriad.
Ma'r plot yn un llwyddiannus gan bod yna drobwynt yn datblygu'r stori. H.y. mae'r tecstiau gaiff Corin yn cynhyrfu'r dyfroedd.
Addas yw'r teitl ynghyd a'r clawr.
Mae'r nofel hon yn ardderchog, gyda'r themau sef bywyd ysgol, problemau teuluol a chariad yn berffaith.
Angharad Sheehan Baw gwylan a snog Roeddwn i wedi mwynhau y llyfr yma yn fawr iawn. Dyma stori sy'n addas ar gyfer yr un ar ddeg ac i fyny. Sonia am ferch ysgol sy'n wynebu problemau tyfu a phroblemau bechgyn. Mae bron pob merch yn poeni am gusanu bechgyn, acyn poeni am ryw.
Rydym ni ferched, fel darllenwyr felly, yn medru uniaethu a Corin. O ganlyniad dyma lyfr hawdd iawn ei ddarllen.
Mae yma hefyd hiwmor, a gwna hynny'r dyddiadur yn un effeithiol. Syniad digri yw hwnnw o Corin yn snogio ei thedi!
Hoffais y diweddglo. Mae baw gwylan yn eich gwallt sy'n arwain at snog yn sicr yn gyffyrddiad gwreiddiol.
Ffion Thomas Golygfeydd cofiadwy Cychwyn y nofel yn effeithiol gyda Corin Jones yn credu ei bod yn feichiog.
Ceir sawl golygfa gofiadwy yn y nofel hon e.e. parti Kells gyda ffeit yn arwain at ymweliad a'r ysbyty. Mae yma densiwn pan mae bachgen mwyaf gorjys y flwyddyn yn gofyn hi mas.
Down i adnabod y prif gymeriad yn dda. Gwelwn pa fath o ferch yw hi ac mae hynny'n beth da.
Mae'r defnydd o fratiaith yn effeithiol gydag ambell i reg yn gwneud y cyfan yn gredadwy. Elfen dda arall yw'r doniolwch a geir mewn ambell olyfga.
Symuda'r nofel yn gyflym a hynny'n bennaf oherwydd cadwyn o ddigwyddiadau. Mae yna ddigonedd o gymeriadau yn y nofel gyda disgrifiadau byr digonol.
Rwy'n siwr bydd pawb wnaiff ddarllen y llyfr yma yn mwynhau.
Rhianna Snelgrove Gallai fod yn gyfres deledu Yn fy marn i mae Gwen Lasarus wedi dal bywyd merch yn ei harddegau yn berffaith. Mae'r nofel yn gredadwy iawn ac yn berthnasol i ferched rhwng 13 ac 15, yn enwedig rhai sydd a phroblemau gyda bechgyn. Rydych yn gallu uniaethu gyda phopeth sy'n digwydd i Corin, y prif gymeriad, ac fe wna hyn y stroi yn hynod ddarllenadwy.
Mae'r clawr yn lliwgar a deniadol iawn. Dengys mai dyddiadur yw'r nofel, ond nid yw'n datgelu plot y stori. Credaf y gallai hon wneud cyfres deledu ardderchog a fyddai'n apelio at ferched ac efallai bechgyn hefyd.
Esther Williams Part茂on a chariadon Mae'r prif gymeriad Corin yn esiampl dda iawn o ferch yn ei harddegau. Ceir llawer o ddigwyddiadau bach megis part茂on a chael cariadon. Mae yna un stori fel llinyn yn clymu'r cyfan at ei gilydd sef y negeseuon tects cas gaiff Corin ar ei ffon symudol.
Yn fy marn i, ceir uchafbwynt y nofel ar y cychwyn wrth i Corin feddwl ei bod yn feichiog. Datblyga'r dyddiadur ychydig, ond teimlais iddo fynd ychydig yn ddiflas gan nad oedd yn fy nhyb i yn symud ymlaen a datblygu digon.
Cara Harris Dwli ar fechgyn Dyddiadur merch sy'n dwli ar fechgyn yw'r nofel hon. Dyma ferch sy'n ceisio bod yn fenyw yn rhy sydyn. Mae yna dri aelod i'w giang sef Shecs, Poli a Kelly.
Ceir sawl golygfa gofiadwy yn y nofel. Un llawn emosiwn yw honno yn yr ysbyty, ble mae Corin a'r bwli yn gorwedd ochr yn ochr gan gofleidio'i gilydd.
Iaith Corin Jones yw'r nofel hon. Digon felly o dafodiaith y gogledd a bratiaith. Prin yw'r ddeialog, ond ceir ambell sgwrs rhwng Corin a'i rhieni.Ceir ambell ddisgrifiad hwnt ac yma e.e. pan mae Corin yn dod allan o'r caffi "mae gen i flistars ar fodia fy nhraed, a ngwallt i'n un brillo pad bler o ogla ffags coman-jacs y dre."
Nofel fer yw hon y gellir ei darllen mewn un eisteddiad. Serch hynny, nofel sy'n llawn cymeriadau. Mae'n nofel addas ar gyfer pobl sy'n mwynhau stori gredadwy a doniol.
Laura Beaton Lysh a gorjys Nofel llawn sbri hwyl ac antics ar ffurf dyddiadur yw Snogs. Cymeriad cegog a doniol o flwyddyn 9 yw Cori, sy'n hoff o fechgyn lysh a gorjys ac yn meddwl bod snogio'n gr锚t.
Rhiannon Phillips Amryw o ochrau Mae yna nifer o droadau a digwyddiadau doniol yn y llyfr yma. Mae yna nifer o ochrau i'r prif gymeriad sef Corin, ac fe ddatblyga wrth i'r stori gerdded ymlaen. Teimlais fy mod wedi dod i adnabod Corin. Mae iddi ochr blentynaidd ac aeddfed.
Chloe Donachie Llyfr 'girlie' Dw i'n credu mai nofel i'r merched yw hon. Mae yn un o'r llyfrau 'girlie' yna!
Dydy rhedeg bant o'ch problemau ddim yn eu datrys. Yn anffodus dyna yn union a wna Corin.
Carys Thomas Hiwmor a thyndra Nofel yw hon am ferch yn datblygu o fod yn blentynaidd ac ansicr i fod yn ferch aeddfetach a sicrach o'i hun. Mae tyfu yn golygu dod yn ymwybodol o broblemau, ac mae Corin fel peatae yn fagned i hyn; problemau cartref, bechgyn yr ysgol, bwlio, a'r ffaith ei bod yn credu ei bod yn feichiog.
Teimlaf fod y nofel hon yn ceisio cael pobl ieuanc yr arddegau i weld sut mae nhw'n bihafio, a'r trafferthion mae nhw'n achosi i'w rhieni. Cyflwynir problemau yr arddegau; delwedd, arian a phwysau i nodi rhai.
Ceir nifer o olygfeydd da yn y nofel hon ynghyd a hiwmor. Mae yma densiwn hefyd pan gaiff Corin decst ffiaidd gan fwli.
Dyma lyfr da a diddorol. Mwynhewch.
Cysylltiadau Perthnasol
|
hanna llyfr gorau hwn yw'r llyfr gorau rwy wedi darllen mae lot yn gwneud i fi gochi lan
Codey Maen dda ...
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|