|
Rhyfel a Gwrthryfel Adolygiad gan Grahame Davies o Rhyfel a Gwrthryfel: Brwydr Moderniaeth a Beirdd Modern gan Alan Llwyd. Barddas. 拢15. 704 tt. .
Dyma glamp o gyfrol - dim llai na 704 o dudalennau - a ddylai fod ar silff lyfrau pawb sy'n ymddiddori ym meirdd yr ugeinfed ganrif.
Mae Alan Llwyd wedi mynd ati i gloriannu gwahanol agweddau ar waith rhyw 14 o feirdd o gyfnod y ganrif gythryblus honno, gan geisio eu gosod yng nghyd-destun eu cyfnod.
Rhai Saesneg Peth iachus iawn yw'r ffaith ei fod wedi dewis trafod gwaith rhai beirdd Saesneg yn yr un gyfrol 芒 llenorion Cymraeg. Rwy'n gredwr cryf yn yr egwyddor na ddylai beirniadaeth Gymraeg ei chyfyngu ei hun i ddeunydd a ysgrifennwyd yn yr iaith honno.
Felly, fe fwynheais yr ymdriniaeth fanwl ar rai o gerddi Thomas Hardy, Robert Frost, Edward Thomas, Sylvia Plath a Ted Hughes.
Agwedd iachus arall a hoffaf ynghylch beirniadaeth Alan Llwyd yw ei fod yn ddi-lol. Nid oes ganddo amynedd gyda dehongliadau bwriadol astrus a thywyll sydd yn darllen mwy i fewn i gerddi nag a fwriadodd yr awdur, ac sydd weithiau yn eu dehongli yn gwbl groes i fwriad y llenor gwreiddiol, fel pe bai damcaniaethau Freud am yr anwybod yn rhoi tragwyddol heol i feirniad anwybyddu'r amlwg a chyrchu'r cuddiedig, waeth pa mor denau'r dystiolaeth dros y deunydd cuddiedig hwnnw.
Mae gweld y byd yn barhaol fel yna yn debyg i edrych arno drwy luniau pelydr X yn unig mae'n ddadlennol mewn ffordd, ond go brin ei fod yn ddarlun llawn. Fel y dywed Llwyd yn ei drafodaeth ar Hughes a Plath:
"Mae bardd cydwybodol yn treulio oes gyfan yn ceisio meistroli iaith a thechnegau er mwyn croniclo a chyfleu profiad, syniad neu ymdeimlad yn y modd cywiraf a mwyaf diamwys (ac eithrio cerddi sy'n fwriadol amwys).
"Mae'n sarhad ar ymroddiad o'r fath i honni y gall y gerdd olygu popeth i bawb. Os ydi iaith mor amwys ag yr honnir ei bod, mae'n syndod fod pobl yn deall ei gilydd o gwbl. Mae'n ddyletswydd arnom i geisio dod o hyd i ystyr gysefin cerdd."
Amen, dywedaf innau. Cadwer y pelydr X Freudaidd ar gyfer yr achlysuron o wir dywyllwch.
Ffieidd-dra a nythod cacwn Mae Llwyd cystal 芒'i air wrth iddo ddehongli degau o gerddi rhai o awduron mwyaf dylanwadol y ganrif, a hynny'n eglur ac yn ddiamwys.
Un o'r agweddau a fwynheais fwyaf oedd y modd yr ymdrinia 芒 helyntion eisteddfodol hanner cynta'r ganrif, fel yr adegau pan dynnodd rhai fel Cynan a Prosser Rhys a Kitchener Davies nyth cacwn i'w pennau gyda chyfansoddiadau a heriodd safonau moesol ac ieithyddol yr oes.
Dyma ddadlennu o'r fath gorau wrth i Llwyd ddefnyddio'i wybodaeth ddihafal o gynnyrch eisteddfodol y ganrif i ddangos mor chwyrn fu'r dadleuon dros y cerddi a'r dram芒u dan sylw.
Cefais fy synnu gan fileindra'r ffraeon a chan geidwadaeth affwysol y sefydliad crefyddol Cymraeg, ac fe enynnwyd fy edmygedd at y beirdd hyn oedd yn fodlon herio'r fath ymatebion.
Dweud pwy ddaeth yn agos Mae pleser rhyfedd i'w gael hefyd wrth i Alan Llwyd ddatgelu pwy oedd wedi dod yn agos ar gyfer cadeiriau a choronau dadleuol y cyfnodau dan sylw.
Nid oes arno ofn dweud ei farn am bwy ddylasai fod wedi ennill, bron fel y dyfarnwr-ailchwarae mewn g锚m rygbi, yn defnyddio'i safbwynt oddi fry, a mantais y peiriant fideo, i wneud penderfyniadau oedd yn rhy anodd i'r swyddogion yng ngwres y drin.
Llawn darganfyddiadau Y tu allan i'r talwrn eisteddfodol, fe ddysgais lawer hefyd am berthynas gynhyrchiol y beirdd Edward Thomas a Robert Frost. Ni sylweddolais iddynt ddylanwadu cymaint ar ei gilydd.
Mae'r llyfr yn llawn darganfyddiadau o'r fath. Mae'r ymdriniaeth 芒'r hanes o salwch meddwl yng nghefndir ac yng ngwaith Caradog Prichard, er enghraifft, yn gyfraniad sylweddol i ysgolheictod ac yn ysgrif afaelgar ar yr un pryd.
Ac yr wyf eisoes wedi rhannu ffrwyth ymchwil Alan Llwyd ar gefndir y gerdd, O Bridd gan Waldo Williams 芒 ffrind sydd yn ymddiddori mewn maes cyffelyb.
Ceir digon o feirniadaethau cryno a chofiadwy, fel pan yw'n disgrifio dwy awdl fentrus Gwenallt, Y Sant a Breuddwyd y Bardd fel rhai a oedd yn herfeiddiol o fodern a newydd eu cynnwys ond yn gonfensiynol ramantaidd eu harddull: fel dyn yn glanio ar y lleuad wedi'i wisgo mewn arfwisg o'r canol-oesoedd.
Pendant a thrylwyr Yn bendant ei farn, yn drylwyr ei ymchwil ac yn anhygoel o wybodus yn ei gynefindra gyda chynnyrch y cyfnod, mae Alan Llwyd yn y gyfrol sylweddol hon yn gallu rhoi rhwydd hynt i'w reddf fel beirniad.
Fel gyda chynifer o bethau, mae gwendidau'r llyfr ynghlwm wrth ei gryfderau. Mewn cyfrol fer, ni fyddai diffyg mynegai yn gymaint o broblem ond mewn cyfrol o dros 700 tudalen, mae'n ddiffyg i resynu wrtho.
Heb arweiniad Felly hefyd absenoldeb unrhyw ragymadrodd. Dywed is-deitl y llyfr mai, Brwydr Moderniaeth a Beirdd Modern, sydd dan sylw ond heb gymorth unrhyw ragymadroddi fe deflir y darllenydd yn syth i mewn i ymdriniaeth fanwl ac estynedig ar gerdd gan Thomas Hardy nad oes a wnelo rhyw lawer 芒 moderniaeth.
Heb arweiniad o'r fath, ambell dro fe adewir y darllenydd i ddyfalu beth yn union yw'r berthynas rhwng moderniaeth 芒'r beirdd dan sylw.
Nid oedd yn amlwg i mi ymhob achos.
Fe'm gadawyd yn ansicr pryd yr oeddwn yn s么n am fodernrwydd, sef cyflwr y byd modern, a phryd yr oeddwn yn s么n am foderniaeth, sef y technegau celfyddydol sy'n nodweddiadol o'r cyfnod.
Da o beth weithiau fuasai mwy o gyfeiriadau at feirniaid eraill a oedd wedi gweithio yn y maes.
Efallai mai diffyg deunydd beirniadol Cymraeg sydd i gyfrif am hyn, ond yn sicr, byddai'n braf fod wedi gweld yr awdur yn mynd i'r afael fwy 芒 syniadau - neu gamsyniadau - beirniaid eraill, fel y gwna yn ddeifiol yn yr ysgrifau ar Hardy, Plath a Hughes yn arbennig.
Gwahanol iawn Casgliad o ysgrifau gwahanol iawn eu pwyslais yw'r llyfr mewn gwirionedd, yn hytrach nag ymdriniaeth academaidd 芒 moderniaeth fel y cyfryw.
Ni cheir fawr o gymharu na chroes-gyfeirio rhwng yr ysgrifau ac maent yn amrywiol iawn eu hyd hefyd. Mae'r fyrraf. ar Ted Hughes a Sylvia Plath, yn 15 tudalen o hyd, tra bod yr hiraf, ar Bobi Jones, yn ddim llai na 256 tudalen dros draean o'r llyfr cyfan.
Ond wrth gloi, dylwn bwysleisio disgleirdeb cynnwys yr ysgrifau, trylwyredd eu hymchwil a threiddgarwch eu sylwadau. Mae Rhyfel a Gwrthryfel yn 700 o dudalennau o gyfraniad swmpus at feirniadaeth gyfoes Gymraeg.
Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|