Blwyddyn Iolo gan Iolo Williams Sylwadau Glyn Evans am lyfr y naturiaethwr a'r adarwr Iolo Williams sydd wedi cyhoeddi dyddiadur blwyddyn.
Yn ddiweddar, bu'n rhaid i gymydog gael gwared 芒'i fwrdd bwydo adar gwyllt o'r ardd. Am ei fod yn tynnu llygod mawr yn 么l rhyw swyddog o'r awdurdod lleol.
Cawn gadarnhad o'r broblem hon i garwyr byd natur mewn cyfrol ddifyr gan un o'n naturiaethwyr mwyaf poblogaidd.
Yn Blwyddyn Iolo mae Iolo Williams yntau yn tynnu sylw at ymddangosiad yr ymwelwyr annifyr hyn 芒 byrddau bwydo adar.
Ond mae o'n cynnig ateb i'r broblem hefyd.
"Yr ateb . . . ydi sicrhau nad oes llawer o fwyd yn cael ei roi mewn unrhyw un pentwr ar y llawr a gofalu symud y bwrdd bwydo yn rheolaidd," meddai.
Ei gyngor gyda phiod, sy'n tueddu i ddwyn pob peth ydi; "torri popeth yn f芒n a thaflu llawer o'r bwyd o dan y perthi."
Rhwydd a didrafferth Buan iawn y gw锚l y darllenydd fod Dyddiadur Iolo yn llawer iawn mwy na disgrifiadau o natur wyllt. Mae'n cynnig cynghorion a gwybodaeth ymarferol hefyd ond yn gwneud hynny mewn ffordd rwydd a didrafferth gan osgoi'r argraff o fod yn werslyfr.
Drwyddo draw mae Dyddiadur Iolo yn osgoi'r trap o ymddangos yn llawlyfr neu werslyfr er ei fod yn gyforiog o bob math o wybodaeth nid yn unig am arferion creaduriaid y gwyllt ond am briodoleddau planhigion.
Yr Eirlys, er enghraifft, a blaen ei dail yn galetach ac yn gryfach na'r gweddill ohoni oherwydd y posibilrwydd cryf y bydd yn rhaid iddi wthio drwy ddaear galed pan yn tyfu.
Gwareidd-dra braf Galwch rywun yn hen ramantydd ond y mae pobl byd natur bob amser yn bobl braf i fod yn eu cwmni.
Wedi eu bendithio 芒 goddefgarwch tuag at greaduriaid eraill, perthyn rhyw wareidd-dra arbennig iddyn nhw er mor arw y gall natur ei hun ymddangos ar un wedd.
Cyplyser hynny a thrysorfa o wybodaeth am y byd naturiol o'n cwmpas ac mae gystal a bod yn amhosib iddynt gymryd caff gwag wrth fentro i brint wrth ddod a'r anghyfarwydd o fewn y cyfarwydd i'n sylw.
Mae hynny'n wir am Flwyddyn Iolo sydd yn barhad o draddodiad modern anrhydeddus a sefydlwyd gan T. G. Walker yn gyntaf ac wedyn, Ted Breeze Jones.
Diwyg gwahanol Yr hyn a fyddai wedi ychwanegu at y gyfrol a'i chyfoethogi fyddai diwyg ychydig yn fwy mentrus gan Wasg Gwynedd gyda wyneb eangach i'r dalennau fel y gellid gwneud mwy o gyfiawnhad 芒'r lluniau lliw llawn sy'n cael eu defnyddio ddau neu dri ar y tro dros wyth dalen.
Ond o leiaf mae'r wasg wedi gwasgaru'r dalennau drwy'r gyfrol yn hytrach na'u gosod yn glwstwr yn y canol.
Byrlymu o frwdfrydedd Ta beth, ar yr ochr gadarnhaol yr hyn a gawn yw bwrlwm o frwdfrydedd a phrofiadau am hynodion y byd naturiol mewn llyfr i bori ynddo'n hamddenol a dychwelyd ato yn hytrach na'i lowcio'n farus a'i anghofio.
er mwyn darllen adolygiad Emyr Williams o Blwyddyn Iolo.