|
Dwy Genhedlaeth Gwilym Owen yn adolygu Dwy Genhedlaeth gan Si芒n Thomas. Owen Edwards a Mari Emlyn Gwenyth Petty a Sara Edwards. Gomer. 拢5.99 yr un.
Bellach mae Si芒n Thomas wedi ei hen sefydlu ei hun yn un o'n darlledwyr mwyaf effeithiol.
Ar radio a theledu mae ei harddull gynnes, groesawgar, yn llwyddo i wneud y gwrandawr a'r gwilwr yn gwbl gyfforddus yn ei chwmni.
Mae hi bob amser yn f'atgoffa i o'r ddiweddar Myfanwy Howells y seren o Ynys M么n a fu'n llywio'r rhaglen Amser Te i gwmni TWW ers talwm. A choeliwch fi mae hynny yn dipyn o ganmoliaeth.
Un o gryfderau Sian Thomas yw ei dawn i holi a gwneud i'w gwesteion deimlo'n gwbl hapus ac yn barod i siarad 芒 hi. A dyna pam, mae'n debyg, y penderfynodd Gwasg Gomer ei gwahodd i holi nifer o Gymry amlwg sy'n cynrychioli dwy genhedlaeth.
Bellach, daeth dwy o'r cyfrolau hynny o'r Wasg. Yn y gyntaf, mae Sian wedi holi Owen Edwards a'i ferch, Mari Emlyn.
Mam a merch, Gwenyth Petty a Sara Edwards, sy'n cael eu holi yn yr ail.
Os mai eich diddordeb ydi canfod rhywbeth newydd, syfrdanol, am y personoliaethau hyn; os mai sgandal a thyndra teuluol sy'n mynd a'ch bryd; os mai holi caled sy'n eich plesio mae'n ddrwg gen i ddweud nad oes yna ddim o hynny o gwbl yn y ddwy gyfrol yma.
Tameidiau bach blasus Ond eto, mae yna dameidiau bach digon blasus sydd yn rhoi golwg newydd ar y personoliaethau dan sylw.
Owen Edwards, er enghraifft, yn cyhoeddi i Mari y ferch gael ei geni yn yr 'home for unmarried mothers', Gabalfa, Caerdydd, ac yntau'n clywed rhai o'r mamau sengl yn adrodd Gweddi'r Arglwydd yn Saesneg ac yn dweud, "lead us not into temptation" pan oedd rhai ohonyn nhw wedi bod yno dair neu bedair gwaith.
Mari, wedyn, yn dweud mai hoff bwdin ei thad bob cinio Sul oedd hufen i芒 Thayers a banana ac fel y byddai hi a'i chwaer yn cuddio'r bananas ac yntau yn mynd yn wallgo!
Dioddef Ac rydw i'n siwr fod Mari Emlyn yn adleisio teimladau llawer plentyn a ddioddefodd oherwydd swydd ei thad.
Mae hi'n cyfeirio at un athro yn tynnu sylw at benodiad ei thad yn Rheolwr 91热爆 Cymru ac yn ei bychanu hi o flaen dosbarth oedd yn hynach na hi.
Ac meddai hi, "Mae rhai pobl yn chwerw a chenfigennus ac fe sylweddolais nad oedd bod yn llygad y cyhoedd o anghenraid yn f锚l i gyd."
Ond medda hi wedyn, "I mi garter roedd Dad yn Dad. Doeddwn i ddim yn gweld o na'i swydd yn rhyfedd."
Ac mae'r ddau yn cyfaddef y buasen nhw'n ei chael hi'n anodd iawn byw gyda'i gilydd heddiw.
A chyfaddefiad hynod deimladwy gan Owen Edwards ydi'r ffaith ei fod o'n difaru penderfynu peidio mynd 芒 Mari a'i chwaer i angladd ei dad. Roedd o'n ddigwyddiad cenedlaethol bythgofiadwy, meddai.
A sut y carai'r ddau gael eu cofio? Y tad am gael ei gofio fel "y creadur yna sefydlodd S4C" a'r ferch yn dymuno i bawb ei chofio hi fel "hen hogan iawn".
Dau lwyddiant Do, llwyddodd Si芒n Thomas i dynnu sgwrs flasus a diddorol efo'r tad a'r ferch ac fe ellir dweud yr un peth am yr ail gyfrol ble mae hi yn mynd i garpad bag yr actores, Gwenyth Petty, a'r gyflwynwraig deledu, Sara Edwards.
Yr un yw'r arddull yma eto gyda Si芒n, yn ei dull dihafal, yn gofyn cwestiynau bach digon syml a'r fam a'r ferch yn ymateb yn reddfol, naturiol.
Canlyniad y sgwrsio ydi ein bod ni eto yn gallu dilyn trywydd gyrfaoedd y nail a'r llall mewn dull diddorol.
Mae Gwenyth Petty yn rhoi darlun bywiog inni o'i gwaith fel actores yn enwedig felly o dan ddylanwad yr enwog Lorraine Davies yn y 91热爆 yng Nghaerdydd.
Hi oedd y cynhyrchydd radio a ddywedodd wrthi, wedi iddi orffen ei chwrs yn Llundain, "Right , Gwenyth Petty, you can forget all that RADA nonsense now!"
Brawddeg sy'n tanlinellu fel yr oedd pethau yn y 91热爆 yng Nghymru gyda Saesneg yn iaith swyddogol hyd yn oed cynhyrchwyr rhaglenni Cymraeg.
Ar y llaw arall , roedd eu gallu proffesiynol yn llawer uwch nag eiddo llawer o'r rhai sydd bellach yn arddel y teitl, cynhyrchydd
Ond yn 么l at y cyfrolau. Mwynheais y profiad o'u darllen ac rwy'n edrych ymlaen at weld gweddill y gyfres ddiddorol yma ble mae Si芒n Thomas yn ymarfer ei dawn digamsyniol i sgwrsio'n gartrefol a thynnu'r gorau allan o'i gwesteion.
Melys moes mwy.
Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|