91Èȱ¬

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Taro'r Post

Vaughan Roderick | 13:17, Dydd Llun, 11 Ebrill 2011

Mae hi braidd yn gynnar eto - ond ai fi yw'r unig un sy'n teimlo bod yr etholiad yma braidd yn anweledig? Gyrrais lawr o Gaernarfon i Gaerdydd ddoe ac, ac eithrio'r posteri arferol ym mherthi Brycheiniog a Maesyfed, prin oedd unrhyw arwydd o ymgyrchu.

Efallai bod hynny'n ddealladwy mewn ambell i etholaeth - Dwyfor Meirionydd efallai, neu Ferthyr - er bod pleidleisiau rhanbarthol y rheiny yn bwysig. Ond sut mae esbonio'r diffyg posteri mewn llefydd fel Llanbrynmair a Llanidloes neu Riwbeina ac Ystum Taf?

Yn achos Gogledd Caerdydd dywed cyfaill ei fod ond wedi derbyn un daflen hyd yma. Taflen gan Jonathan Morgan oedd honno gydag enw'r ymgeisydd yn llawer mwy amlwg nac enw ei blaid.

Mae ymgyrchoedd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol Caerdydd, Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin ac ambell i un arall yn destun cenfigen y pleidiau eraill ond eithriadau yw'r rheiny.

Cyn i chi ddweud bod 'na dair wythnos a hanner i fynd mae'n werth cofio y bydd y papurau pleidleisio post yn cael eu dosbarthu ymhen ychydig ddyddiau ac fe fydd nifer sylweddol wedi eu dychwelyd erbyn dechrau wythnos nesaf.

Sut mae esbonio natur anweledig yr ymgyrch felly?

Yn sicr mae mae technoleg gwybodaeth yn rhan o'r peth. Cyfeirio at ganfasio ffon ydw i wrth ddweud hynny. Mae'r rhyngrwyd bellach yn bwysig yn drefniadol ond hyd yma dyw'r we ddim wedi profi'n arf ymgyrchu effeithiol.

Mae 'na ffactor arall sy'n effeithio ar natur yr ymgyrchu mewn etholiadau Cynulliad sef bod y gyfundrefn bleidleisio yn cynyddu'r cyfleoedd i'r pleidiau ddefnyddio'r Swyddfa Bost i ddosbarthu taflenni.

Trwy ddanfon gwahanol daflenni ar ran ymgeiswyr etholaeth ac ymgeiswyr rhanbarth a'u cyfeirio at unigolion yn hytrach na chyfeiriadau mae modd i'r pleidiau fombardio'r etholwyr heb unrhyw ddosbarthu drws i ddrws gan y blaid leol. Gallwch ddisgwyl y don gyntaf o bapur yn ystod y dyddiau nesaf!

Fe fydd sawl un o'r taflenni hynny yn cynnwys poster ond y gwir amdani yw mai ychydig o bobol sy'n arddangos taflenni. Ffrwyth canfasio wyneb yn wyneb yw posteri ac mae eu presenoldeb neu eu habsenoldeb yn fesur da o effeithlonrwydd trefniadaeth leol y pleidiau.

Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod y drefniadaeth honno'n glwc iawn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:43 ar 11 Ebrill 2011, ysgrifennodd Welshguy:

    Mae yna gwpwl o bosteri i'w gweld wrth ochrau'r A55 - Plaid Cymru gan fwyaf yn Aberconwy, y Ceidwadwyr yng Nghorllewin Clwyd.

  • 2. Am 12:35 ar 12 Ebrill 2011, ysgrifennodd FiDafydd:

    Mae Ceredigion yn blastar - wrth gwrs!

  • 3. Am 12:51 ar 12 Ebrill 2011, ysgrifennodd Endaf:

    Mae'n amlwg nad wyt ti wedi bod trwy Geredigion!

  • 4. Am 13:56 ar 12 Ebrill 2011, ysgrifennodd Aled:

    Lot o bosteri DemsRhydd a Phlaid ar hyd a lled Ceredigion. Un poster Plaid ar yr heol rhwng Henllan a Phentrecagal (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr). Dim byd o gwbl ym Mhreseli Penfro hyd y gwelais i heddiw, na'r darn bychan ynysig o Sir Gâr ar yr A478 rhwng y Garnwen ac Efailwen yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a South Pembrokeshire.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.