Hilariws
"Mewn addysg, mae'r Blaid yn addo haneru cyfraddau anllythrnenedd i blant sy'n gadael yr ysgol gynradd yng Nghymru erbyn 2016 a dileu'r broblem bron yn gyfan gwbl erbyn 2020. Mae'r Blaid yn addo bod yn llawdrwm ar safonau gwael mewn addysg ac ymdrin â thangyllido ysgolion." -
Datganiad Newyddion Plaid Cymru.
Sut mae delio ac anllythrennedd swyddogion y wasg, tybed?
SylwadauAnfon sylw
Wel, os Å·ch chi am wneud sbort am wallau sillafu pobl eraill, fe allech chi o leai sillafu "ag" yn gywir!
"Sut mae delio ac anllythrennedd swyddogion y wasg, tybed?"
Neu oeddech chi'n ceisio bod yn eironig mewn rhyw fodd sydd wedi mynd dros fy nhen i?
Mae anllythrnenedd (!) yn broblem yn bobman, wsti? Yn enwedig pan bydd dyn ond yn dewis paratoi cyfieithiad o'r Saesneg (nid fersiwn Cymraeg go iawn, felly).
Efallai y ceir sillafu perffaith yn y dogfennau hyn, ond Saesneg yw'r iaith o hyd, er gwaethaf y geiriau Cymraeg.
Plîs, plîs, plîs 91Èȱ¬, allech chi adrodd rhai polisïau o'r maniffesto yn hytrach na phethau dibwys fel hyn?
Baswn i'n pleidleisio i unrhyw blaid fyddai'n cael gwared ar ddyblu 'n' ac 'r'!
Casom wared ar ddyblu 't' ac 'm' heb unrhyw drafferth, felly pam sefyll gyda dyblu'r ddwy lythyren yma?
Ac felly y rhoddwyd prawf ar . :-)