Wythnos yng Nghymru na fu
Does dim dwywaith yn fy meddwl i mae'r nofel fwyaf dylanwadol yn hanes gwleidyddol Cymru yw "" llyfr sydd yn bropaganda effeithiol oherwydd ei fod yn gythraul o stori dda ac yn waith llenyddol go iawn. Mae cymhellion gwleidyddol y llyfr yn amlwg o'r ffaith mai Plaid Cymru wnaeth ei gyhoeddi yn 1957. Ei werth llenyddol a'i stori afaelgar sy'n gyfrifol am y ffaith ei fod dal mewn print dros hanner canrif yn ddiweddarach.
Yr hyn sy'n rhyfedd am "Wythnos yng Nghymru Fydd" yw nad oes neb bron yn cofio Iwtopia'r Gymru Rydd y mae Ifan Powell yn glanio ynddi ar ei daith gyntaf i'r dyfodol. Yr hyn sy'n aros yn y cof yw cymdeithas hunllefus "Western England" sy'n cael ei phortreadu mewn ychydig o benodau byrion ar ddiwedd y llyfr.
Gallwn fod yn weddol sicr y bydd Cymru 2033 yn debycach i fyd Mair Llywarch nac un hen wraig y Bala. Mae hynny oherwydd yr hyn ddigwyddodd ar Fedi 18fed 1997 pan bleidleisiodd Cymru o drwch blewyn o blaid datganoli. Ond beth pe bai'r bleidlais ychydig yn wahanol a'r cynnig wedi ei drechu o ychydig filoedd? Sut le fyddai Cymru heddiw? Dydw i ddim yn meddu ar ddychymyg na dawn lenyddol Islwyn Ffowc ond dwi'n fodlon rhoi cynnig arni!
Yn gyntaf yn lle ymddeol a'i le yn y llyfrau hanes yn ddiogel fe fyddai Rhodri Morgan wedi treulio degawd ar feinciau cefn San Steffan. Mae'n bosib y byddai wedi ei ddyrchafu'n gadeirydd pwyllgor ond pobol fel Alun Michael a Paul Murphy byddai'n llywodraethu Cymru o Barc Cathays. Heb fandad annibynnol mae'n debyg y byddai eu polisïau yn ddigon tebyg i rai Lloegr. Dim presgripsiynau am ddim, dim cyfnod cychwynnol a dim dwr coch claear. Yn eu lle cytundebau PFI, academis a "foundation hospitals".
O safbwynt y pleidiau eraill mae'n debyg y byddai Plaid Cymru yn perthyn i'r cyrion. Gyda'r syniad o ddatblygiad cyfansoddiadol "cam wrth gam" wedi methu mae'n debyg y byddai'r blaid yn cyflwyno neges mwy digyfaddawd gyda fawr ddim apêl y tu allan i lond dwrn o etholaethau. Mae'n ddigon posib hefyd y byddai 'na lawer mwy o dor-cyfraith gwleidyddol gan fudiadau iaith ac o bosib fe fyddai grwpiau terfysg wedi ymddangos fel gwnaeth ddigwydd yn sgil refferendwm 1979.
Ond nid Plaid Cymru fyddai'r unig blaid ar ei chefn. Heb beiriant cynnal bywyd y Cynulliad fe fyddai wedi bod yn llawer mwy anodd i'r Ceidwadwyr ail-adeiladu yn sgil trychineb colli pob sedd yng Nghymru yn 1997. Mae'n ddigon posib felly mai plaid y cyrion fyddai'r Ceidwadwyr hefyd. Yn sicr mae'n anodd credu y gallai plaid oedd heb ei gymreigio apelio i'r un graddau a mae'r Ceidwadwyr yn gwneud ar hyn o bryd.
Mae'n bosib wrth gwrs y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi llenwi'r gwagle gwleidyddol gan ddatblygu i fod yn brif wrthblaid Cymru. Ta beth am hynny, mae'n anodd osgoi'r casgliad mai canlyniad pleidlais "na" yn 1997 fyddai parhad yr hegemoni Llafur yng Nghymru am ddegawdau.
Yn hynny o beth mae'n bosib dadlau mai buddugoliaeth Medi 1997 oedd y peth gwaethaf i ddigwydd i Lafur yng Nghymru yn ei holl hanes.
Gyda llaw gan ein bod ni'n siarad am ffrwyth dychymyg dyna yn union yw cred rhai o aelodau Plaid Cymru mai Rhodri Glyn Thomas oedd ffynhonnell y stori ynghylch Adam Price ddydd Gwener.
SylwadauAnfon sylw
Rhagorol Vaughan - pob tri mis ti'n cyhoeddi rhywbeth deche wyddost...
"Ta beth am hynny, mae'n anodd osgoi'r casgliad mai canlyniad pleidlais "na" yn 1997 fyddai parhad yr hegemoni Llafur yng Nghymru am ddegawdau."
Er bod y syniad yn ddeniadol mae'n osgoi ffenomenon cyn bwysiced. Mae unrhyw ddadansoddiad ar ddirywiad hegemoni Llafur sy'n osgoi effaith tranc y diwydiant glofaol yn anghyflawn os nad yn wallus.
Yn sicr mae hynny'n wir. Gweler y post "Cwmgors, Daren a Garth Tonmawr" yn ol ym Mis Mehefin lle rwy'n trafod yr union beth. Serch hynny rwy'n meddwl bod datganoli wedi cyflymu'r broses yn aruthrol
Cytuno, ond mae'r syniadau a welir a blog Betsan Powys yn agosach at y fersiwn dystopaidd o Gymru.
Rwy'n cymryd mai sylwadau yn hytrach na syniadau wyt ti'n eu golygu. Rwy'n cadw draw o'r fan dywyll honno!
Ond heb ddatganoli tybed a fydden ni wedi gweld mwy o Lafuriaeth Blaenau Gwent, a Ron Davies yn arwain Plaid Lafur Annibynnol Cymru?