Carringtons Cymru
Mae Mabon ap Gwynfor wedi cyhoeddi na fydd yn ymgeisio i olynu Adam Price fel ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin gan ddweud hyn;
"Os bydd gennyf i unrhyw ran i'w chwarae yng ngwleidyddiaeth Cymru ar lefel genedlaethol rywbryd yn y dyfodol, yna ym Mae Caerdydd yr hoffwn i fod."
Digon teg. Mae'n anodd credu na fydd Mabon a/neu un arall o'r Gwynforiaid yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd gwleidyddol Cymru yn y dyfodol. Efallai bod Mabon yn gobeithio gwneud yn iawn am siom ei dad-cu ym Meirion yn '64 rhywbryd!
Ac eithrio teulu Lloyd George (Megan, Gwilym et al) mae' anodd meddwl am 'ddinasti' wleidyddol lwyddiannus yn y Gymru fodern. Merch Tom Jones, "Brenin Cymru", oedd Eirene White ac os gofiai'n iawn mae Huw Irranca yn nai i Ivor Davies un o'r "giang o chwech" aelod Llafur wnaeth wrthwynebu datganoli yn 1979.
Oes unrhyw un yn gallu cynnig esiamplau eraill?
SylwadauAnfon sylw
Janice Gregory yw merch Syr Raymond Gower, Hywel Francis yw mab Dai Francis a beth am Guto Bebb yw wyr Ambrose Bebb! Hefyd lot o bartneriad yn ymhel a gwleidyddiaeth, Mr a Mrs Ryder, Mr a Mrs Morgan a Mr a Mrs German i enwi ond tri!
Pawb sydd ar gyngor Ynys Môn, siwr o fod? ;-)
Da iawn! Rwy'n cymryd mai Ray Powell yn hytrach na Syr Raymond Gower oeddet ti yn ei olygu os nad oedd yr hen Dori'n fwy bywiog nac ydw i'n ei gofio!
Rhodri Morgan yn ddisgynydd i Harri Morgan y Carabi.
Adam Price yn fab i Vincent Price yr actor.
Edwina Hart yn perthyn i Richard y LionHart.
Oes rhaid mynd ymhellach?
wps! Cymysu aelodau seneddol Ogwr a Bro Morgannwg - gobitho na fydd achos enllib!
yn ffodus ni ellir enllibio'r meirwon