Lessons History
Roedd ddoe yn ddiwrnod trychinebus i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. yw'r lle i ddarllen yr holl fanylion. Yn bersonol rwy'n meddwl y byddai'r blaid wedi gwneud llai o niwed i'w hun trwy sefyll ysgwydd ac ysgwydd â Vince Cable yn hytrach na cheisio sbinio ei ffordd allan o dwll.
Fe fydd darllenwyr cyson y blog hwn yn gwybod bod yr hyn ddigwyddodd i'r traddodiad rhyddfrydol Cymreig yn yr ugeinfed ganrif yn un o fy niddordebau mawr. Mae'r ffordd y gwnaeth rhyddfrydiaeth ennill y frwydr ddeallusol yng Nghymru ar yr union adeg yr oedd y blaid ei hun yn gwywo yn un o ddirgelion mawr ein hanes.
I raddau helaeth creadigaeth rhyddfrydiaeth yw'r Gymru fodern yn fy marn i. Ar drothwy Eid ul-Fitr dyma i chi enghraifft amserol.
Yn Mehefin 1919 roedd 'na derfysgoedd hiliol difrifol yng Nghaerdydd wedi eu hanelu at Fwslimiaid a lleiafrifoedd eraill y ddinas. Lladdwyd tri o bobol ac anafwyd dwsinau.
Roedd esgusodion y terfysgwyr yn boenus o gyfarwydd;
"If a white man dared to do what these blacks do... he would be run in immeadiately"
"We find these foreigners have got our jobs, our businesses and our houses, and we can't get rid of them"
Undebau Llafur y dociau oedd yn rhannol gyfrifol am y terfysgoedd ond roedd 'na gefnogaeth ddigon parod o'r asgell de. Dyma oedd gan y Western Mail (papur Ceidwadol ar y pryd) i ddweud.
" The Goverment ought to declare... that no more immigrants can be admitted and that immigrants who have not been assimilated must return whence they came"
Roedd y papur yn poeni'n arbennig am y ffaith bod merched gwyn yn cael cyfathrach rywiol (!) neu hyd yn oed yn priodi (!!) dynion o leiafrifoedd ethnig.
"Such consorting is ill-assorting; it exhibits either a depravity or a squalid infatuation; it is repugnant to our finer instincts in which pride in race occupies a just and inevitable place"
Gydag undebau'r chwith yn cwffio ar y strydoedd a'r dde yn eu hannog o ystafelloedd moethus y County Club a'r Gyfnewidfa Lo a fyddai unrhyw un a thipyn o glowt gwleidyddol yn fodlon peryglu ei boblogrwydd trwy amddiffyn y lleiafrifoedd? Oedd na unrhyw un a fyddai'n gwneud safiad dros degwch a goddefgarwch?
Oedd. Roedd gan y "Western Mail" gystadleuaeth. Papur Rhyddfrydol o'r enw'r "South Wales Daily News". Dyma oedd gan y papur hwnnw i ddweud am y terfysgoedd;
"The cowardly attacks upon black men should be rigorously dealt with... it is... necessary to insist upon fair play and equal treatment to everyman whatever his colour"
Yn 1919 roedd hynny'n beth beiddgar iawn i ddweud. Heddiw mae'n un o gonglfeini'r consensws gwleidyddol. Mae hynny'n un o lawer o enghreifftiau o fuddugoliaeth yr ethos ryddfrydol yng Nghymru.
Sefyll dros gyfiawnder. Dangos dewrder gwleidyddol. Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol hen ddigon o bethau yn eu hanes i ddathlu a brolio yn eu cylch. Doedd digwyddiadau ddoe ddim yn eu plith.
The Race Riots of 1919- Neil Evans
Lafur; Cyf. 3.1
SylwadauAnfon sylw
Rargian fawr, Vaughan, rydych chi'n cam-ddeall rhyddfrydiaeth yn llwyr. Yn fy marn i, beth bynnag, ond wedyn dwi'n drwgdybio rhyddfrydiaeth...
Mae hen ddigon o enghreifftiau o anoddefgarwch ethnig yn y traddodiad rhyddfrydol Cymreig. Ystyrier, er enghraifft, gwrth-semitiaeth a gwrth-Seisnigrwydd W. J. Gruffydd yn unig (rhyddfrydwr mawr y Gymru Gymraeg) - gwaeth o dipyn na gwrth-semitiaeth Saunders Lewis.
Neu agwedd Lloyd George at Hitler - llawer, llawer gwaeth nag agwedd Saunders ac eraill ar y dde.
Neu agwedd athronwyr rhyddfrydol mawr megis J. S. Mill at ddiwylliannau lleiafrifol yn y 19g. Yn fyr, yn dymuno eu dinistrio.
Neu agwedd rhyddfrydwyr Cymru yn hanner cyntaf yr 20 ganrif at y Gwyddelod - eto, llawer, llawer gwaeth na Sosialwyr a Chenedlaetholwyr ill dau. Pwy anfonodd y Black and Tans i Iwerddon?
Neu agwedd rhyddfrydwyr at hoywon yn hanner cyntaf yr 20g - roedd peth cydymdeimlad a chynnyrch arobryn hoyw Prosser Rhys yn rhengoedd adain dde Plaid Cymru. Rhyddfrydwyr y traddodiad eisteddfodol Cymraeg oedd yn lladd arno.
Neu obsesiwn meddylwyr rhyddfrydol y Gymru Gymraeg (E. Tegla Davies - gweinidog mwyaf rhyddfrydol y wlad yn hanner cyntaf yr 20g) a moesoldeb afiach, ffug?
Fe allaf ddweud yn sicr hefyd fod gan y traddodiad rhyddfrydol, anghydffurfiol Cymraeg nifer o bethau dilornus i'w ddweud am Islam hefyd. Credaf i Tegla wneud sylwadau Wesleiaidd unwaith am 'yr hen bagan a chwech o wragedd ganddo' - cyfeiriad rhyddfrydol anhyfryd. Er nad Mwslemiaid oedd y prif gocyn hitio chwaith - Catholigion biau'r fraint honno yng Nghymru'r 20 ganrif, a'r Iddewon hefyd. Cyfeiriodd Tegla at y Gwyddelod Catholigaidd fel 'chwain'.
Mae'n bwysig i gydnabod yr hiliaeth a rhagfarn a fodolai yng Nghymru'r 20 ganrif. Fel lleiafrif, roedd y Cymry Cymraeg yn darged hefyd - yn enwedig o gyfeiriad y Blaid Lafur. Ond dwi ddim yn siwr o gwbl mai buddugoliaeth gwerthoedd rhyddfrydol yw gorchfygu casineb o'r fath.
Roedd rhyddfrydiaeth Gymreig a Chymraeg cenhedlaeth Lloyd George a’r cyfnod yn union wedyn ynghlwm wrth imperialaeth Brydeinig hiliol afiach. Gwynt teg ar ei ol o, ddywedwn i.
Mae'r rheiny oll yn ddadleuon grymus. I raddau mae pob plaid yn adlewyrchu gwerthoedd ei hoes a thrwy ddewis achosion neu ddyfyniadau mae'n bosib profi bron unrhyw beth! Fe wna i ateb trwy ddyfynu darn bach o araith ddiweddar Adam Price- darn y byddai bron pawb ar y chwith- a sawl Tori hefyd yn cytuno a hi.
"Name virtually any issue...for last three centuries and the Tories have always managed somehow to place themselves squarely on the side of privilege and prejudice and on the opposite side to the majority ... When Rebecca burned the hated toll-booths, where were the Tories? Not on the side of the farmers struggling to survive, but on the side of the men of property, the turnpike owners, the PFI merchants of their day, turning a quick profit at other people’s expense. The Tories are democracy’s late developers, opposed to the extension of the franchise at every juncture, if it had been up to them women and the working-classes would never have had the vote... The Tories opposed the secret ballot and saw to it that those who didn’t vote the right way were evicted. They opposed the repeal of the Corn Laws at a time when the people were starving, not just in Ireland but also in Wales. They supported religious discrimination against non-conformists, but still demanded that they paid church taxes and attend Anglican schools but not Anglican universities from which they were banned. They opposed the disestablishment of the Church in Wales despite it being the clear settled will of the majority in our country at the time."
Oes angen dweud pwy oedd ar yr ochor arall yn y dadleuon hynny?