91Èȱ¬

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cystadleuaeth

Vaughan Roderick | 11:59, Dydd Iau, 24 Medi 2009

clown203.jpgUn o'r cwynion cyson y mae dyn yn clywed yn y job yma yw'r un ynghylch y diffyg sylw y mae Cymru a'i gwleidyddiaeth yn cael gan y cyfryngau Prydeinig.

Mae 'na sail i'r gwyn a goblygiadau hefyd. A fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi canfod eu hun mewn cymaint o bicl yn ystod yr wythnosau diwethaf os oedd gan ddeiliaid Cowley Street y wybodaeth leiaf am wleidyddiaeth Cymru, er enghraifft? Jyst gofyn.

Wrth gwrs mae un peth yn waeth na pheidio cael sylw sef cael y fath anghywir o sylw.Mae'r erthygl isod wedi ymddangos ar wefan y . Yr awdur yw Tom Lewis. Hyd y gwn i, dyw e ddim yn perthyn i Huw! Sawl gwall ffeithiol ydych chi'n gallu eu cyfri?

Rhodri Morgan, Wales's First Minister, will mark his 70th birthday on 28 September by announcing that he is stepping down after nine years at the helm. That is, if all goes to plan: rumour has it that Gordon Brown has urged him to stay until the general election.

In the (highly likely) event that the popular First Minister leaves, there are three likely candidates for his job. Huw Lewis is an outspoken former cabinet minister who opposed the coalition with Plaid Cymru. Edwina Hart, the health and social services minister, is well liked among her peers, but refuses to learn Welsh, which has not endeared her to the public. Carwyn Jones is a household name in Wales and the bookies' favourite; but those voting for the new leader will have an eye on the 2011 Assembly elections, and Jones, like Hart, is likely to lose his seat to the Tories then.

The next few years will probably be stressful ones for the Welsh legislature: before 2011, a referendum must be held on extending the Assembly's law-making powers, and, should the Tories win the general election, the Assembly will become the UK's only Labour-controlled parliament. That may alter relations between Westminster and Cardiff Bay.

Whether the Welsh tackle these new challenges with a safe pair of hands like Jones, new blood like Lewis, or even Morgan himself, winds of change will soon be sweeping across Cardiff Bay.

Gallwn ddisgwyl llawer mwy o'r stwff yma dros y dyddiau nesaf!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:55 ar 24 Medi 2009, ysgrifennodd Tomos Livingstone:

    Wyth, weden i.

  • 2. Am 15:09 ar 24 Medi 2009, ysgrifennodd Gareth:

    Rwy'n gweld 6 ar ddarlleniad cynta:

    (1) ...will mark his 70th birthday on 28 September... [29 Medi yn ol Wikipedia]

    (2) ...rumour has it that Gordon Brown has urged him to stay until the general election

    (3) Edwina Hart ... refuses to learn Welsh, which has not endeared her to the public. [Falle bod hyn yn wir am y Gymru Gymraeg, ond...]

    (4) Jones, like Hart, is likely to lose his seat to the Tories then. [dyw e ddim yn *debygol*, yw e?]

    (5) before 2011, a referendum must be held on extending the Assembly's law-making powers [pe bai hyn ond yn wir!]

    (6) the Assembly will become the UK's only Labour-controlled parliament [dim son am Blaid Cymru te]

  • 3. Am 16:35 ar 24 Medi 2009, ysgrifennodd Idris:

    Dau arall:

    Dwi'm yn meddwl fod Huw Lewis erioed wedi bod yn aelod o'r Cabinet - tydi Dirprwy Weinidogion ddim yn cyfri;

    Hefyd tydi Carwyn Jones ddim yn 'household name'. Carwyn James efallai...

  • 4. Am 21:54 ar 24 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae Idris a Gareth wedi canfod yr wyth y mae Tomos yn cyfeirio atyn nhw! Mae angen athrylith i wneud cymaint o gamgymeriadau mewn darn mor fyr!

  • 5. Am 09:58 ar 25 Medi 2009, ysgrifennodd Idris:

    Tafod mewn boch oedd fy ail yn i, odn dwi'n falch nad fi oed dyr unig un i feddwl hynny!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.