91Èȱ¬

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mastermind Vaughan

Vaughan Roderick | 16:00, Dydd Mercher, 30 Medi 2009

_41444174_chair_bbc_203.jpgMae heddiw'n ddiwrnod sbeshal. Am y tro cyntaf mae 'na dipyn o feddwl ymlaen llaw wedi digwydd ynghylch y blog yma. Rwyf yn eiddigeddus iawn ers tro bod gan Betsan ei chwis ac roeddwn yn benderfynnol o gael un hefyd!

Dros y mis diwethaf felly rwyf wedi plannu ambell i beth yn y penawdau a'r lluniau fel sylfaen i gwis bach. Does dim angen ail-ddarllen yr erthyglau! Bant a ni felly.

1. Ym mha flwyddyn y sefydlwyd "National Milk Bars"?

2. Mae 'na ddau bennawd sy'n ddyfyniadau o emynau. Pa bennawdau a pha emynau?

3. Pwy oedd awdur llyfrau Biggles?

4. Pa bennawd sy'n ddyfyniad o'r anthem Gomiwnyddol?

5. Pwy wnaeth gyfieithu'r anthem honno i'r Gymraeg?

6. Pa actor wnaeth ymddangos yn y "Magnificent Seven" a "Tiger Bay"

7. Pa gwmni teledu oedd yn darlledu ar sianel saith?

8. Stori pa deulu oedd "Dynasty"?

9. Ar ba ddyddiad yr oedd refferendwm 1979?

10. Pa air hud sy'n galw nadroedd?

Cadwch draw o'r sylwadau er mwyn osgoi atebion anghyflawn!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:23 ar 30 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Vaughan - wedi blino ar orfod postio'r "rhifau a llythrennau" - wedi methu teirgwaith - so stwffia dy gwis!!!

  • 2. Am 00:11 ar 1 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'n flin gen i am hynny. Rwyf wedi ceisio cael gwared a nhw heb unrhyw lwc. Mae croeso i unrhyw un sydd yn cael trafferth i e-bostio "Vaughan.Roderick@bbc.co.uk" gan farcio'r post "sylw i'r blog". Dydw i ddim cweit yn deall sut y gwnest di lwyddo i bostio'r gwyn, heb unryw drafferth mae'n ymddangos, ond nid y post gwreiddiol. Mae hynny'n beth rhyfedd. Fe wna i ofyn os oes na rhyw reswm technegol ynghylch hyd atebion neu rhywbeth.

  • 3. Am 00:16 ar 1 Hydref 2009, ysgrifennodd Huw:

    3. W.E Johns
    7. Teledu Cymru
    8. Carrington

  • 4. Am 06:09 ar 1 Hydref 2009, ysgrifennodd Gwyn Jones:

    1. 1933
    2.
    3.Capt. W.E.Johns
    4.
    5.Niclas y Glais
    6. Holtz Bucholtz (Sillafu?)
    7.Teledu Cymru (Wales West and North)
    8.Carringtons
    9. Mawrth 1af 1970
    10.

  • 5. Am 08:41 ar 1 Hydref 2009, ysgrifennodd Harri:

    Twt twt! Ni ddylid cyhoeddi atebion anghyflawn er chwarae teg i'r rheiny ohonom sy;n dal i ymlafnio! ;-)

  • 6. Am 09:05 ar 1 Hydref 2009, ysgrifennodd ³§¾±Ã¢²Ô:

    2. Gosgorddion ei lywodraeth gref - yn dod o
    "Dyrchafer enw Iesu cu
    gan seintiau is y nen
    a holl aneirif luoedd nef,
    coronwch ef yn ben.

    Angylion glân, sy'n gwylio'n gylch
    oddeutu'i orsedd wen,
    gosgorddion ei lywodraeth gref,
    coronwch ef yn ben...."

    Y caf ei weled fel (ag) y mae - yn dod o:
    "Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
    Wrthrych teilwng o'm holl fryd;
    Er mai o ran yr wy'n adnabod
    ei fod uwchlaw gwrthrychau'r byd:
    Henffych fore! Henffych fore!
    Caf ei weled fel y mae.
    Caf ei weled fel y mae."

  • 7. Am 09:28 ar 1 Hydref 2009, ysgrifennodd Harri:

    1. 1933
    2. ei weled fel y mae + wrth ein gwendid trugarha
    3. Captain W E Johns
    4. Niclas y Glais
    5. gogorddion ei lywodraeth gref
    6. horst buchholz
    7. Teledu Cymru
    8. Carringtons
    9. Dydd Iau Mawrth 1af
    10. Serpensortia

  • 8. Am 10:24 ar 1 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pwynt teg gan Harri. Rwyf wedi rhoi rhybudd ar y post bod 'na sboilers yn y sylwadau!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.