Man a lle
Dau le y bydd Eisteddfodwyr yn dod yn gyfarwydd iawn â hwy yn ystod yr wythnos nesaf yma fydd Cwm a Rasau.
O feysydd parcio yn y ddau le yma y bydd bysus gwennol yn eich cludo i faes yr Eisteddfod ei hun.
Go brin y bydd neb yn crafu'i ben ynglyn ag ystyr Cwm ond bosib y bydd mwy o glandro ynglŷn â Rasau.
Cwm wrth gwrs yn golygu be mae o'n ddweud ar yr arwydd! Cwm neu ddyffryn a'r enw yma yn cyfeirio at Gwm Merddog uwchben y pentref yn ôl Richard Morgan yn ei lyfr Place-names 0f Gwent (Gwasg Carreg Gwalch 2005 £6.50).
Mae Richard Morgan yn ychwanegu hefyd fod cymaint o amrywiaeth yn sillafiad y elfen Merddog dros y blynyddoedd (merddych, myrddarch, myrthach er enghraifft) ei bod yn amhosib dyfalu'n gredadwy ei ystyr.
Efallai y gallwch chi helpu. . .
Er yn air mwy anghyfarwydd mae Rasa (Rassa, Rassau) yn hawsach yn y pen draw ac yn cyfeirio at ddull o dyllu am lo yn yr ardal trwy olchi wyneb y tir i ffwrdd gyda llifeiriant cryf o ddŵr. Rasau oedd y rhesi, ffosydd neu gafnau i gyfeirio'r dŵr hwnnw.
Tebyg bod y gair o'r un gwreiddyn a'r Saesneg Races yn yr ystyr o gerrynt, llif neu ffrwd fel ag a welir yn y gair Saesneg mill-race mewn cysylltiad â melin ddŵr.
Mae'r ardal yn gyforiog o enwau diddorol, yn eu plith Crymlyn neu Crumlin ar fapiau Saesneg sy'n ddisgrifiad, yn syml, o lyn gyda thro ynddo (crwm + llyn).
Yn yr achos hwn mae'n debyg mai cyfeirio â wneir at bwll yn Afon Ebwy gerllaw.
Efallai y dowch chwithau ar draws lleoedd yn ystod eich ymweliad fydd yn eich gwthio i ddyfalu am eu hystyron.
Pob hwyl - beth am eu rhannu efo ni.