Lleia'n byd - gorau'n byd?
Efallai bod i Eisteddfod Blaenau Gwent yr enw hiraf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol - Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn y Gweithfeydd, Glyn Ebwy - ond a ydw i'n iawn i dybio bod iddi un o'r pwyllgorau gwaith lleiaf erioed?
O ran nifer.
Dim ond unwaith erioed y bum i ar bwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol - yng Nghaernarfon filoedd o flynyddoedd yn ôl - ac yr oedd hwnnw yn bwyllgor gwaith, digon mawr - o ran nifer - i weiddi Chi arno fo a bron llenwi siambr Cyngor sir Gwynedd ar y pryd.
Ond ym Mlaenau Gwent 14 sydd yn y llun o'r pwyllgor yng nghyfrol Rhaglen y Dydd - a Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod yw un o'r rheini.
O gofio'r hen ddywediad mai'r pwyllgor gorau yw un o dri - pan fo dau yn methu dod - mae rhywun yn cael ei demtio i ofyn ai un o fanteisio codi pwyllgor mewn ardal brin ei Chymraeg yw llai o aelodau, llai o ffraeo a llai o falu awyr?