- Maes yr Eisteddfod
- Meysydd parcio
- Maes B (maes ieuenctid)
- Clwb Rygbi Glynebwy
- Maes C (maes carafanau)
- Gorsaf drenau
- Meysydd parcio
Lleolir Eisteddfod Genedlaethol 2010 ar safle'r hen weithfeydd dur ar gyrion tref Glyn Ebwy.
Mae'n agos at Heol Blaenau'r Cymoedd, yr A465, a gellir cyrraedd ato o'r M4, A470 a'r A49.
Cod post y Maes yw NP23 6AA.
Mae Maes B (y maes ieuenctid) y drws nesaf i'r prif faes tra mae Maes C (y maes carafanau a lleoliad gigs) ychydig filltiroedd i ffwrdd ym Mharc Bryn Bach. Bydd bysus gwennol rheolaidd o Faes C i'r maes.
Cyfarwyddiadau
Mae swyddogion yr Eisteddfod yn apelio ar i bobl ddilyn eu cyfarwyddiadau swyddogol a defnyddio'r ddau faes parcio sydd wedi eu nodi ar y map uchod. Mae maes parcio ychwanegol ar gwr yr Eisteddfod ond mae cerdded oddi yno at y brif fynedfa yn dipyn o bellter ac yn amhosib i rai ag anabledd neu sy'n methu cerdded ymhell.
Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
- O gyfeiriad gogledd orllewin, canolbarth a gorllewin Cymru: Dilynwch yr A465 o Bentrebach, Merthyr a Dowlais, tan gylchfan Stad Ddiwydiannol Rassau, i'r maes parcio. Bydd bysiau gwennol yn mynd a theithwyr i'r brif fynedfa, ac yn cludo n么l a blaen i'r Maes drwy'r dydd a gyda'r nos.
- O gyfeiriad y dwyrain: I'r rhai sy'n gadael yr A465 ym Mrynmawr ac yn teithio ar hyd yr A467 i gylchfan Aberbeeg o gyfeiriad Y Fenni a throi i'r dde ar yr A4046 - bydd rhaid dilyn arwyddion i faes parcio ym mhentref Cwm. Bydd bysiau gwennol yn mynd a theithwyr i'r brif fynedfa, ac yn cludo n么l a blaen i'r Maes drwy'r dydd a gyda'r nos. Er ei fod yn ymddangos yn hirach na mynd tuag at Lynebwy, mae yn hwylusach meddai'r Eisteddfod.
- O gyfeiriad y de: bydd ceir yn cael eu cyfeirio o gylchfan Aberbeeg (A467 / A4046) tuag at Lynebwy. Yna dilynwch yr arwyddion i faes parcio ym mhentref Cwm. Bydd bysiau gwennol yn mynd a theithwyr i'r brif fynedfa, ac yn cludo n么l a blaen i'r Maes drwy'r dydd a gyda'r nos.
Y cyngor gorau yw dilyn yr arwyddion gan y gall y cyfarwyddiadau newid ar fyr rybudd.
Ymweld gyda phram neu gadair olwyn
Nid oes gan bob bws gwennol lawr isel sy'n addas i fynd 芒 phram neu gadair olwyn arno felly'r cyngor yw aros am fws 芒 llawr isel. Mae mwy o wybodaeth i ymwelwyr anabl
Ar dr锚n
Bydd gwasanaeth trenau Arriva yn mynd o Gaerdydd i Lynebwy bob awr am 35 munud wedi'r awr ac yn cyrraedd am 31 munud wedi'r awr. Bydd y trenau'n dychwelyd i Gaerdydd o Lynebwy am 40 munud wedi'r awr, ac yn cyrraedd Caerdydd am 37 munud wedi'r awr. Mae'r daith yn cymryd bron i awr.Bydd bysus gwennol yn cludo pobl o'r orsaf i'r maes yn rheolaidd.
Ar fws
Bydd gwasanaeth bysiau yn mynd o orsaf Caerdydd bob hanner awr - am 5 munud wedi'r awr a 35 munud wedi'r awr. Bydd y bysiau yn dychwelyd i Gaerdydd o Lynebwy bob hanner awr - ar yr awr ac am hanner awr wedi'r awr. Mae'r daith yn cymryd awr a hanner.
Straeon o'r Maes
Edrych n么l
Ailfyw holl straeon a chyfweliadau'r wythnos o faes y Brifwyl yng Nglynebwy.