91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Meddwl am gadair

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:05, Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2010

Yr yda ni wedi cael dros y blynyddoedd - sut gallai ddweud hyn heb frifo neb na sathru cyrn? Ond yr yda ni wedi cael ambell i gadair Eisteddfod y bu ymateb iddi hi.

Cadair Tyddewi, er enghraifft gydag ambell un yn ddirmygus ohoni hi ond y bardd â'i henillodd, Myrddin ap Dafydd, yn dweud ar y pryd iddo ef fod wrth ei fodd.

Mae rhywun yn synio y bydd Cadair Glynebwy eleni hefyd yn un y bydd pobl 'yn ymateb' iddi hi a hithau ar un wedd yn edrych yn debycach i rywbeth sydd ar gychwyn ar daith o'r ddaear yn hytrach na rhywbeth â'i thraed yn sicr ar y ddaear.

Cadair-2010

A be mae rhywun i'w wneud o'r hollt yna yn y sedd? Rhaid ffrwyno'r dychymyg.

Fe'i hi heno, yn rhodd nid gan Ikea ond gan Brifysgol Morgannwg ac wedi ei dylunio a'i 'rheoli' gan ddau o staff Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, Jeremy Spencer a Richard Randall, a'i gwneud gan Alex McDonald o Sir Benfro - y saer a wnaeth Gadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008.

Cadair a wnaed gan bwyllgor felly - a hynny'n atgoffa rhywun mai un diffiniad o gamel ydi "Ceffyl wedi ei gynllunio gan bwyllgor".

"Modern iawn ei diwyg," ydi disgrifiad swyddogol y Steddfod ohoni hi gyda'r Nod Cyfrin "yn ganolog i'w chynllun".

"A thair elfen y Nod yn cael eu hadlewyrchu ym mhren y gastanwydden bêr. Ymgorfforir iaith - yn ysgrifenedig a llafar - yn ei ffurf, gyda'r sedd yn ein hatgoffa o lyfr agored a'r iaith lafar, a brig y Gadair yn debyg i gwilsyn neu ysgrifbin a'r iaith ysgrifenedig," meddir mewn Dehonglraeg - iaith nad ydw i'n gwbl gartrefol ynddi hi.

Bron iawn nad oes yna gymaint o waith deall ar hon ag a fydd ar y gerdd fydd yn ei hennill! Gobeithio y bydd y prifardd arobryn yn ei deall.

A gobeithio hefyd, wrth gwrs, bod cymaint o ddychymyg wedi mynd i'r awdl ar Ennill Tir a anfonwyd at Robat Powell, Elwyn Edwards ac Idris Reynolds y beirniaid fydd yn ei hennill. Os bydd teilyngdod.

Yn y cyfamser eisteddwn yn ôl a disgwyl am y jôcs sy'n siwr o ddod yn sgil unrhyw beth fel hyn sy'n gwyro oddi wrth y traddodiadol.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.