91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cylchgrawn newydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:52, Dydd Llun, 14 Mehefin 2010

Y sôn ydi bod yna gylchgrawn Cymraeg newydd ar y gweill ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy.

Yn y Genedlaethol yn Y Bala y llynedd gwelwyd dau gylchgrawn newydd, un gan Y Lolfa i gystadlu â Barn am arian Cyngor Llyfrau Cymru a'r llall, WA-w!, yn fenter gan Lowri Rees-Roberts o'i chartref yn Llanuwchllyn ac yn dal i gael ei gyhoeddi - heb gymorth grantiau.

Dywedir mai "ar gyfer pobol ifanc" rhwng 16 a 24 y mae'r cylchgrawn newydd a'i wreiddiau yn Nyffryn Ogwen gyda'r prifardd Gwynfor ab Ifor ymhlith y rhai sydd tu ôl iddo.

Mae o wedi bod yn llythyru â phobl yn chwilio am gymorth hysbysebion.

Y bwriad meddai ydi ei ddosbarthu'n helaeth ym Maes B, mewn ysgolion ac o ddrws i ddrws mewn ardaloedd penodol.

""Byddwn hefyd yn ei ddosbarthu am ddim gyda Y Faner Newydd (cylchrediad 1,000). Trwy hyn rydym yn anelu at werthu hyd at 6,000 o gopïau," meddai.

"Mae dros 20 o bobl ifanc 15 i 19 oed yn aelodau o'r Bwrdd Golygyddol, dan arweiniad pwyllgor llywio profiadol, felly rydym yn hyderus y bydd yn gylchgrawn lliwgar a ffres ac y bydd yn apelio at bobl ifanc ym mhob rhan o Gymru," eglura.

"Bydd hefyd yn ceisio adlewyrchu gwerthoedd mwy parhaol ein cymunedau ac yn rhoi cip ar y cyfoeth diwylliannol sy'n cronni dan yr wyneb mewn un ardal fechan. Gobeithiwn y bydd yn gosod patrwm i ardaloedd eraill ac yn hybu ac ehangu'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob ardal," meddai.

Addewir "Cymraeg clir, syml a chywir" a fydd "yn dal naws a chyffro'r genhedlaeth ifanc" ac oddeutu 60 tudalen!.

"Bydd yn dangos beth sy'n bosib yn Gymraeg a, gobeithio, yn ysgogi bröydd a chymunedau eraill i wneud yr un fath," meddai.

Digon i gadw unrhyw un yn ddiddig yn ei babell ar Faes B.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.