91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gogoniant angylion

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:40, Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010

Difyr oedd darllen bod pedwar allan o bob deg ohonom yn credu mewn angylion.

Hynny yw y bodau asgellog, hyfryd, hynny y mae sôn amdanyn nhw yn y Beibl.

Yn ôl yr un adroddiad mewn papur newydd mae cymaint â saith allan o bob deg yn yr Unol Daleithiau yn credu bod angylion yn bod ac ar gael i'n cynorthwyo pan ydym mewn trafferth. 70 y cant!

Wedi mis Ebrill ni fyddai'n syndod pe byddai y niferoedd hyn yn cynyddu achos dyna pryd y bydd Penguin yn cyhoeddi nofel gyffro Danielle Trussoni, Angelology, gydag ambell un yn darogan y bydd ei dylanwad yn cyfateb i ddylanwad 'campwaith' Dan Brown mewn cysylltiad â'r Eglwys Babyddol.

Eglura Geiriadur Charles - a faint sy'n troi at hwnnw am wybodaeth y dyddiau hyn? - mai "bodau ysbrydol a gorcuwchnaturiol" sy'n gwasanaethu Duw ac yn gyswllt rhwng dyn a Duw ydi angylion.

'Angel' mewn mynwent

Daw'r gair angel o'r Herbraeg Mal-ach a'r Groeg angelos gan gyrraedd y Gymraeg o'r ffurf Ladin.

Ei ystyr yw cennad ac yn ôl y Beibl, os deallaf yn iawn, mae naw gradd o'r bodau hyn gyda Charles yn rhestru, Seraffiniaid, Ceriwbiaid, Thronau, Arglwyddiaethau, Tywysogaethau, Awdurdodau, Galluoedd, Archangylion ac Angylion.

Mae'r Testament Newydd yn cadarnhau hefyd fodolaeth angylion gwarcheidiol personol pobl - y guardian angels ystrydebol.

Ond yn ôl ymchwilwyr mwy diweddar dim ond ynglŷn â phedwar math o angel y mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohonyn nhw tra'r ydym ar y ddaear.

Gyda llaw - y smotiau duon yna welwch chi o flaen eich llygaid weithiau ar ôl troi eich pen yn sydyn. Ie, angylion.

Ta waeth am hynny, y synod yw, nid yn unig bod bod cymaint o bobl yn credu ym modolaeth angylion ond yn credu hefyd eu bod ar gael bob dydd i ymyrryd yn ein bywydau.

Mewn llyfr o'r enw Angels in My Hair dywed Gwyddeles o'r enw Lorna Byrne iddi hi weld angel bob dydd o'i hoes ers yn fabi.

A rhag ichi feddwl mai rhyw goel gwrach yw hynny mae yr actor sy'n chwarae rhan Ken Barlow yn Coronation Street wedi canmol ei llyfr - heb sôn am filoedd ar filoedd o Americanwyr. So ddêr, amheuwyr.

Mae angylion ar gael i'n helpu gyda phob math o bethau yn amrywio o ddod o hyd i le parcio'n annisgwyl o sydyn mewn tref brysur. Da chi'n gwybod sut mae hi; yr ydych chi'n llusgo i fyny stryd solad o geir ac fel ryda chi'n dod i olwg y siop rydych chi eisiau picio iddi mae'r car sydd tu allan iddi yn tynnu allan a gadael ei le i chi.

Nid ar ddamwain mae pethau felna'n digwydd yn ôl yr angelogion.

A thybed oeddech chi wedi sylweddoli mai'r rheswm pam nad yw babanod bychain byth yn edrych i fyw eich llygaid yw eu bod yn rhy brysur yn syllu ar yr angel maen nhw'n i weld tu ôl i'ch hysgwydd.

Angylion hefyd sy'n gyfrifol am y bluen gwbl annisgwyl yna rydych chi'n dod o hyd iddi lle na ddylai pluen fod.

Adnod gyfarwydd iawn yn y Beibl ydi honno am y rhai hynny sydd wedi croesawu angylion heb sylweddoli hynny.

Angylion, yn amlach na pheidio, ydi'r 'bobl' hynny sy'n cyrraedd yn annisgwyl o le'n byd a'ch cynorthwyo pan ydych mewn rhyw strach difrifol. Rhyw fath o ddynion RAC dwyfol sy'n eich cyrraedd heb ichi orfod ffonio amdanyn nhw!

Ac ar y funud gallwn wneud gydag ymweliad fy hun gan nad ydw i'n siŵr iawn sut i ddirwyn y pwt yma i ben . . .

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.