91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tafodau'n troi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:41, Dydd Gwener, 12 Mawrth 2010

Ar fore Gwener - ail flasu'r wythnos drwy trwy gofio rai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl yn y wasg ac ar y cyfryngau. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni.

  • Mae hi wedi dweud wrth Jude na chaiff o ddod â Sienna gydag ef i'r parti - Ffrind i Kate Moss yn dweud i Sienna Miller gael ei gwahardd o barti 'Alice in Wonderland' y fodel am iddi dorri calon Rhys Ifans trwy ei adael.
  • Mae pob dyn a'i gi ar steroids yn y cymoedd - pennawd yn y 'Wales on Sunday'.
  • Mae aelodau Plaid Cymru yn gwisgo trôns Tori -Ceri Cunnington ar ei albwm newydd, Myfyrdodau Pen Å´y.
  • Ar lwyfan San Steffan fyddai Plaid siwr o fod yn gweld y Ceidwadwyr yn eu siwtio nhw i'r dim - Cheryl Gillan, llefarydd y Toriaid ar Gymru yn trafod clymbleidio yn Golwg.
  • Yr ydym eisiau perthynas a'r cyhoedd yng Nghymru - a dydi hynny ddim yn golygu ond y rhai sy'n siarad Cymraeg - John Walter Jones, cadeirydd Awdurdod S4C yn ymateb i wyobdaeth yn y 'Western Mail' bod nifer gwylwyr rhai rhaglenni yn 0.
  • Dyna wych clywed fod un o gapeli Cymraeg Caerdydd wedi'i werthu. Ardderchog. Dyma arwydd pendant fod Cristnogion ein gwlad yn dechrau rhesymoli ac yn uno dan faner Crist yn unedig gyffrous - Llythyr gan Rhys Dafydd, Pontcanna yn 'Y Cymro'.
  • Does dim hawliau na statws swyddogol i'r Gymraeg yn y mesur - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am y Mesur Iaith.
  • Ma' dad . . . yn fy ngalw i'n Tomi ar brydiau. Mae e'n od!! - Catrin Heledd, 'Ffeil', yn ateb y cwestiwn 'Oes gen ti lysenw?' yn 'Y Cymro'.
  • Unwaith mae hi'n colli gormod o bwysau mae hi'n colli'r siap benywaidd nwydus a rhywiol yna sy'n adnabyddus inni - Wenda James-Rowe yn y Western Mail sy'n pryderu fod Catherine Zeta-Jones wedi mynd yn "denau fel styllen" mwyaf sydyn.
  • Rwy'n credu bod Wrecsam yn haeddu bod yn ddinas - Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog.
  • Mae gen i fochau fel Shrek a gwên gam. Dydw i ddim am dwyllo'n hun. Dydw i ddim yn brydferth - Carey Mulligan.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.