TÅ· Tom
Y stori orau a glywais i yn ystod yr wythnos oedd un Gerallt Lloyd Owen ar y Talwrn ddydd Mawrth.
Sôn yr oedd o am Tom Parry - yr ysgolhaig, awdur Hanes Llenyddiaeth Gymraeg a Phrifathro Coleg y Brifysgol Aberystwyth maes o law - yn symud yn ŵr ifanc gyda'i wraig Enid i gartref newydd ym Mangor.
Ac o fethu dod o hyd i enw oedd yn plesio ar y tÅ· yn picio draw tua Bethesda i ofyn cyngor ei gefnder, y bardd R Williams Parry.
A hwnnw'n cynnig, yn ôl trefn sy'n boblogaidd iawn erbyn y dyddiau hyn, enw oedd yn gyfuniad o enwau'r pâr priod yn enw ar eu cartref dedwydd.
Ond fydd hi ddim yn syndod i'r rhai sy'n ei gofio mai gwrthod yr awgrym a wnaeth y gŵr ifanc a ddaeth cyn diwedd ei oes yn Syr Thomas Parry, a mynd i chwilio am rywbeth amgenach na'r cyfuniad o Tom ac En - Tomen.
Gellir gwrando ar y Talwrn ar iPlayer gyda llaw.