91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dethol geiriau dethol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:41, Dydd Gwener, 12 Chwefror 2010

Ar ddydd Gwener - ail fyw'r wythnos drwy trwy flasu rhai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl yn y wasg ac ar y cyfryngau. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys â ni.

Dyfyniadau


  • Fe all deddfau Cymreig o safon wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru - Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, yn dilyn y bleidlais o blaid refferendwm.
  • Does dim rhaid ichi fod yn Polyanna y bêl hirgroen i fod yn gadarnhaol ynglÅ·n â gobeithion y Cymry heddiw - Carolyn Hitt yn y Western Mail cyn y gêm yn erbyn Lloegr.
  • Yr oedd yn drip i'w anghofio - Carolyn Hitt yn y Western Mail wedi'r gêm yn erbyn Lloegr.
  • Yr oedd hi'n unai fi neu nhw - Simeon Howells o'r Gwarchodlu Cymreig wedi iddo ladd 13 o filwyr Taliban yn Affganistan.
  • Mae o'n hapus gyda sefyllfa lle mae'r Llywodraeth yn bwydo plant â brecwast am ddim ond yn eu starfio o werslyfrau ac athrawon. Fedrwch chi ddim amddiffyn bwlch o £500 trwy chwifio tamaid o dôst - Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams AC, ar ôl clywed bod £527 yn llai yn cael ei wario ar blant ysgol yng Nghymru nag yn Lloegr.
  • Fy marn bersonol i yw, mae'n rhaid bod y niwed ddifrifol i'r pen yn ffactor yn beth bynnag ddigwyddodd. Dydw i ddim wedi gweld y data, y dystiolaeth, a dyw yntau ddim chwaith - Lembit Opick AS yn dilyn helynt ei etholwr Mick Bates AC.
  • Mae Blaenau Ffestiniog gystal ag unrhyw beth arall sydd yn y Parc Cenedlaethol yn barod - Iolo Williams yn ymateb i ymgyrch i ymestyn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri i gynnwys Blaenau Ffestiniog.
  • Dydw i ddim yn meddwl y gallai Plaid Cymru ymdopi â fy meddylfryd annibynnol i - Gwynoro Jones a fu'n ymgeisydd Llafur yng Nghaerfyrddin yn erbyn Gwynfor Evans a thad Glyndŵr Cennydd Jones, darpar ymgeisydd Plaid Cymru ym Merthyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.
  • Pennaeth ysgol o'r gogledd ynsiarad ar y radio am ddau geiliog a dau iâr. Dim ond gobeithio ei fod yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y bechgyn a'r merched sydd yn y dosbarthiadau - Madog Mwyn yn Y Cymro
  • Wedi fy magu efo ffermwyr, does gen i ddim amynedd efo pobol sy'n mynd i banig pan fydd pethau'n malu / mynd o chwith / yn anodd. A does gen i ddim ofn baw a dw i wastad yn clirio 'mhlat - Bethan Gwanas yn sôn am ddylanwadau plentyndod yn Golwg.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.